xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

rheoliad 6

ATODLEN 2DOSBARTHIADAU NEU DDISGRIFIADAU O WARIANT CYNLLUNIEDIG Y CEIR EI DDIDYNNU O GYLLIDEB YSGOLION AWDURDOD ADDYSG LLEOL

Mae gwariant o ddosbarth neu ddisgrifiad y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon yn cynnwys gwariant ar gostau gweinyddol cysylltiedig a gorbenion.

Gwariant ar gyfer grantiau cynnal

1.—(aGwariant (heblaw gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon neu unrhyw baragraff o Atodlen 1) y mae'n rhaid i'r awdurdod ei dynnu fel un o amodau grant penodol a delir i'r awdurdod ac a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu swm grant penodol o'r fath.

(b)Unrhyw swm y mae'n rhaid i'r awdurdod drefnu ei fod ar gael fel amod o'r grant a delir o dan adran 14 o Ddeddf 2002 neu o dan adran 484 o Ddeddf 1998 ac a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu swm grant o'r fath, y dirprwyir penderfyniadau ynghylch eu gwariant i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.

Darpariaeth o natur arbenigol

2.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 3 a 4, gwariant a dynnir wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig ac eithrio os yw'r disgybl —

(a)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arbennig a gynhelir gan yr awdurdod; neu

(b)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol gynradd neu ysgol uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cymryd un o nifer o leoedd yn yr ysgol honno a'r awdurdod yn cydnabod bod y lleoedd hynny'n lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig.

3.  Os daw disgybl o fewn paragraff 2(a) neu (b) a bod cost y ddarpariaeth a bennir yn natganiad y disgybl o anghenion addysgol arbennig yn sylweddol yn fwy na'r gost i'r mwyafrif o ddisgyblion yn yr ysgol arbennig, neu sydd yn y lleoedd yn yr ysgol gynradd neu'r ysgol uwchradd o dan sylw, o ba faint y mae swm yn y gwariant a dynnir wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn ei ddatganiad o anghenion addysgol arbennig yn fwy na'r hyn a dynnir wrth ddarparu ar gyfer disgybl sy'n perthyn i'r mwyafrif o'r disgyblion.

4.  Gwariant wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig os daw'r disgybl o fewn paragraff 2(b) ond bod y lleoedd a gydnabyddir gan yr awdurdod fel lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig ar gyfer disgyblion â nam ar eu golwg, eu clyw, eu lleferydd neu eu hiaith neu nam cyfathrebu arall.

5.  Gwariant mewn perthynas â chefnogaeth arbenigol a roddir i gynorthwyo'r cyrff llywodraethu ysgolion i fodloni anghenion penodol disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig neu sydd o fewn ystod Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy fel y'i disgrifir yn y Cod Ymarfer(1) a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 (sef gwariant na fyddai'n briodol disgwyl iddo gael ei dalu o gyfran cyllideb yr ysgol).

6.  Gwariant at ddibenion sy'n gysylltiedig â hybu'r canlynol —

(a)cydweithredu rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion cynradd ac uwchradd i alluogi plant ag anghenion addysgol arbennig i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd;

(b)addysg plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd; ac

(c)cael plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol gyda phlant nad oes ganddynt anghenion addysgol arbennig (sef gwariant na fyddai'n briodol disgwyl iddo gael ei dalu o gyfran cyllideb yr ysgol).

7.  Gwariant mewn perthynas ag addysg heblaw yn yr ysgol o dan adran 19 o Ddeddf 1996 neu mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion fel y'i diffinnir yn yr adran honno.

8.  Gwariant a dynnir (heblaw gwariant a dynnir o dan Atodlen 1 neu unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon) ar wasanaethau y mae eu hangen i weithredu cynllun sy'n nodi'r trefniadau a wnaed, neu y bwriedir eu gwneud, gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag addysg plant ag anawsterau ymddygiad o dan adran 527A o Ddeddf 1996(2) ac ar weithgareddau eraill at ddibenion osgoi gwahardd disgyblion o ysgolion.

9.  Gwariant ar dalu ffioedd mewn perthynas â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig —

(a)mewn ysgolion annibynnol neu mewn ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt gan yr awdurdod addysg lleol, o dan adran 348 o Ddeddf 1996; neu

(b)mewn sefydliad y tu allan i Gymru a Lloegr, o dan adran 320 o Ddeddf 1996.

10.  Gwariant ar daliadau i awdurdod addysg lleol arall yn unol ag adran 493 neu 494 o Ddeddf 1996(3) neu adran 207 o Ddeddf 2002(4) (adennill rhwng awdurdodau addysg lleol).

11.  Gwariant ar ddarparu hyfforddiant mewn offerynnau cerdd neu hyfforddiant corawl (naill ai i unigolion neu i grwpiau).

12.  Gwariant ar gefnogi theatrau teithiol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer y gwariant.

13.  Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysgu'r Gymraeg gan athrawon a gyflogir i weithio heblaw mewn ysgol unigol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer y gwariant.

14.  Gwariant ar ddarparu tir ac adeiladau a chyfleusterau i ysgolion ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau y tu allan (gan gynnwys tir ac adeiladau a ddarperir ar safle ysgol er budd y gymuned gyfan).

15.  Gwariant yn unol ag adran 512, 512ZA, 512ZB neu 513 o Ddeddf 1996(5). Yn achos ysgolion uwchradd mae'n ymwneud â darparu llaeth ac yn achos unrhyw ysgol arall mae'n ymwneud â darparu llaeth neu brydau bwyd a lluniaeth arall.

16.  Gwariant ar drwsio a chynnal a chadw cegin ysgol os didynnir y gwariant ar brydau bwyd mewn perthynas â'r ysgol o dan sylw o gyllideb ysgolion yr awdurdod yn unol â pharagraff 15.

17.  Gwariant ar benderfynu ar gymhwyster disgybl i gael prydau bwyd ysgol yn ddi-dâl.

18.  Gwariant yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1996 wrth wneud unrhyw grant neu daliad arall mewn perthynas â ffioedd neu dreuliau (o ba natur bynnag) sy'n daladwy mewn cysylltiad â phresenoldeb disgyblion mewn ysgol nas cynhelir gan unrhyw awdurdod addysg lleol.

Staff

19.  Gwariant wrth dalu, neu lenwi bwlch dros dro, menyw sydd ar seibiant mamolaeth neu i berson ar seibiant mabwysiadu.

20.  Gwariant wrth dalu, neu lenwi bwlch dros dro ar gyfer, personau —

(a)sy'n cyflawni dyletswyddau undeb llafur neu ymgymryd ag hyfforddiant o dan adran 168 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992(6);

(b)sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur o dan adran 170 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992;

(c)sy'n cyflawni dyletswyddau cyhoeddus o dan adran 50 o Ddeddf Hawliau Cyflogi 1996(7);

(ch)sy'n gwasanaethu ar reithgor;

(d)sy'n gynrychiolwyr personol o dan Reoliadau Cynrychiolwyr Diogelwch a Phwyllgorau Diogelwch 1977(8);

(dd)sy'n gynrychiolwyr diogelwch cyflogeion o Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Ymgynghori â Cyflogeion) 1996(9));

(e)sy'n gynrychiolwyr cyflogeion at ddibenion Pennod II o Ran IV o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992 fel y'i diffinnir yn adran 196 o'r Ddeddf honno neu reoliadau 10 a 11 o Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 fel y'u diffinnir yn rheoliad 11A o'r Rheoliadau hynny(10);

(f)sy'n cymryd amser i ffwrdd ar gyfer gofal cyn-geni o dan adran 55 o Ddeddf Hawliau Cyflogi 1996;

(ff)sy'n cyflawni dyletswyddau fel aelodau o'r lluoedd wrth gefn fel y'u diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf Lluoedd Wrth Gefn 1996(11));

(g)a ataliwyd dros dro rhag gweithio mewn ysgol;

(ng)sy'n aelodau o Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu bwyllgor iddo; neu

(h)a benodwyd yn gynrychiolwyr dysgu i'r undebau llafur, er mwyn iddynt ddadansoddi'r gofynion hyfforddi neu ddarparu neu hybu cyfleoedd hyfforddi, a chyflawni gwaith ymgynghori neu baratoi mewn cysylltiad â swyddogaethau o'r fath.

21.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwch dros dro, ar gyfer person sydd ar secondiad ar sail llawnamser am gyfnod o dri mis neu fwy heblaw i awdurdod addysg lleol neu i gorff llywodraethu ysgol.

22.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro, i bersonau sydd wedi bod yn absennol o'r gwaith yn ddi-dor oherwydd salwch am 21 diwrnod neu fwy.

23.  Gwariant, nad yw'n dod o fewn Atodlen 1, mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff sy'n cael eu cyllido o wariant na thelir mohono o gyfrannau cyllideb ysgolion.

Gwariant arall

24.  Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysg feithrin ac eithrio os gwneir y ddarpariaeth mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir sydd â chyfran cyllideb o dan adran 45(1A) o Ddeddf 1998(12).

25.  Gwariant ar yswiriant mewn perthynas ag atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion a thir ac adeiladau ysgol ac eithrio i'r graddau y mae cyrff llywodraethu yn derbyn cyllid ar gyfer yswiriant fel rhan o'u cyfrannau cyllideb ysgolion.

26.  Gwariant ar ffi trwyddedau neu danysgrifiadau a delir ar ran ysgolion ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.2 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

27.  Gwariant a dynnir wrth ymateb i adroddiad arolygiad o dan adran 10 o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(13).

28.  Gwariant ar wasanaethau llyfrgell a gwasanaethau amgueddfa ar gyfer ysgolion.

29.  Gwariant y byddai addysg disgyblion mewn ysgol hebddo yn cael ei handwyo'n ddifrifol ac na fyddai'n rhesymol disgwyl oherwydd naill ai —

(a)ei faint a'i natur annisgwyl; neu

(b)ei faint a'i natur anochel,

i'r corff llywodraethu ei dalu o gyfran cyllideb yr ysgol.

30.  Gwariant ar ychwanegiadau at gyfran cyllideb yr ysgol y mae'r ysgol â hawl iddynt yn rhinwedd fformiwla'r awdurdod neu ailbenderfynu cyfrannau'r gyllideb o dan awdurdod y Cynulliad Cenedlaethol neu wariant ar gywiro gwallau.

31.  Gwariant at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.1 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

32.  CERA a dynnir at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen neu Atodlen 1.

33.  Gwariant a dynnir yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 11 i Ddeddf 1998 neu adran 22 o Ddeddf Addysg 2002 (14) wrth hyfforddi llywodraethwyr i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol i'r graddau na ddarperir hyn gan grantiau penodol.

34.  Gwariant a dynnir mewn perthynas â hyfforddi clercod byrddau llywodraethu i'w gallugoi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.

(1)

Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (ISBN 0 7504 2757 4).

(2)

Mewnosodwyd adran 527A gan adran 9 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 144 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.

(3)

Diwygir adran 493 gan adran 208(1) o Ddeddf 2002 ar ddiwrnod i'w benodi.

(4)

Caiff Adran 207 ei dwyn i rym ar ddiwrnod i'w benodi.

(5)

Amnewidiwyd adran 512 a mewnosodwyd adrannau 512ZA a 512ZB gan adran 201 o Ddeddf 2002.

(8)

O.S. 1977/500, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1513 a 1999/860.

(10)

O.S. 1981/1794; mewnosodwyd rheoliad 11A gan O.S. 1995/2587 a'i ddiwygio gan O.S. 1999/1925.

(11)

1996 p.14.

(12)

Daw adran 45(1A) i rym ar ddiwrnod i'w benodi.

(13)

1996 p.57.

(14)

Daw adran 22 i rym ar ddiwrnod i'w benodi.