Search Legislation

Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoli strategol

19.  Gwariant yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol mewn perthynas â'r canlynol —

(a)y Prif Swyddog Addysg a'i staff personol;

(b)cynllunio ar gyfer y gwasanaeth addysg yn ei gyfanrwydd gan gynnwys ymateb i ddatganiadau polisi a phapurau ymgynghori;

(c)swyddogaethau'r awdurdod o dan Ran I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1) (Gwerth Gorau) a darparu cyngor i gynorthwyo cyrff llywodraethu i gaffael nwyddau a gwasanaethau er mwyn gwella'n barhaus ar y dulliau yr arferir swyddogaethau'r cyrff llywodraethu hynny, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd a effeithiolrwydd;

(ch)paratoi cyllideb refeniw; paratoi gwybodaeth am incwm a gwariant ynghylch addysg, i'w hymgorffori yn natganiad cyfrifon blynyddol yr awdurdod; a'r archwiliad allanol i geisiadau am grantiau a'r ffurflenni a ddychwelir sy'n ymwneud ag addysg a swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 44 o Ddeddf 2002(2));

(d)gweinyddu grantiau i'r awdurdod (gan gynnwys paratoi ceisiadau), swyddogaethau a osodir gan neu o dan Bennod IV o Ran II o Ddeddf 1998 ac, os yw'n ddyletswydd ar yr awdurdod i wneud hynny, sicrhau'r taliadau o ran y dreth, yswiriant gwladol a chyfraniadau blwydd-daliadau;

(dd)awdurdodi a monitro —

(i)gwariant na thelir mohono o gyfrannau cyllideb yr ysgolion; a

(ii)gwariant mewn perthynas ag ysgolion sydd heb gyllidebau dirprwyedig,

a phob gweinyddu ariannol cysylltiedig;

(e)swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 28 o Ddeddf 2002 (darparu cyfleusterau cymunedol gan gyrff llywodraethu);

(f)tasgau eraill sy'n angenrheidiol i gyflawni cyfrifoldebau prif swyddog cyllid yr awdurdod o dan adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3);

(ff)recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff a gyllidir o wariant na thelir amdano gan gyfrannau cyllideb ysgolion ac a delir am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â swyddogaethau a gwasanaethau'r awdurdod y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon;

(g)ymchwiliadau a wneir gan yr awdurdod ar gyflogeion neu gyflogeion posibl yr awdurdod neu gyrff llywodraethu ysgolion, neu bersonau a gymerir ymlaen fel arall neu sydd i'w cymryd ymlaen (gyda thâl neu'n ddi-dâl) i weithio yn yr ysgolion neu drostynt;

(ng)swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â blwydd-daliadau, gan gynnwys gweinyddu pensiwn athrawon, heblaw swyddogaethau sydd wedi eu dirprwyo i gyrff llywodraethu ysgolion;

(h)aelodaeth ôl-weithredol o gynlluniau pensiwn ac etholiadau ôl-weithredol a wneir mewn perthynas â phensiynau pan na fyddai'n briodol disgwyl i gorff llywodraethu ysgol i dalu'r gost o gyfran cyllideb yr ysgol;

(i)cyngor, yn unol â swyddogaethau statudol yr awdurdod, i gyrff llywodraethu mewn perthynas â staff a delir, neu sydd i'w talu, i weithio mewn ysgol, a chyngor mewn perthynas â rheoli'r holl staff ar y cyd mewn unrhyw ysgol unigol (“gweithlu'r ysgol”), gan gynnwys yn benodol y cyngor o ran newidiadau mewn cyflog, amodau gwasanaeth a chyd-gyfansoddiad a chyd-drefniadaeth gweithlu ysgol o'r fath;

(j)penderfynu amodau gwasanaeth ar gyfer y staff nad ydynt yn addysgu a chynghori'r ysgolion ar raddau staff felly;

(l)swyddogaethau'r awdurdod ynghylch penodi neu ddiswyddo cyflogeion;

(ll)ymgynghori, a swyddogaethau yn barod ar gyfer ymgynghori â chyrff llywodraethu, disgyblion a phobl a gyflogir mewn ysgolion neu eu cynrychiolwyr personol, neu â chyrff eraill sydd â buddiant;

(m)cydymffurfio â dyletswyddau'r awdurdod o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974(4) a'r darpariaethau statudol perthnasol fel y'u diffinnir yn adran 53(1) o'r Ddeddf honno i'r graddau na ellir cael cydymffurfedd yn rhesymol drwy'r tasgau a ddirprwyir i gyrff llywodraethu ysgolion; ond gan gynnwys gwariant a dynnir gan yr awdurdod wrth fonitro perfformiad y tasgau hynny gan gyrff llywodraethu ac os oes angen rhoi cyngor iddynt;

(n)ymchwilio i gwynion a'u datrys gan gynnwys camau a gymerir i helpu corff llywodraethu i ymdrin â chwyn;

(o)gwasanaethau cyfreithiol ynghylch swyddogaethau statudol yr awdurdod;

(p)paratoi ac adolygu cynlluniau sy'n ymwneud â chydweithio â gwasanaethau awdurdod lleol arall neu gydweithio â chyrff cyhoeddus neu wirfoddol;

(ph)paratoi, addasu ac adolygu cynllun datblygu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer ei ardal o dan adrannau 120 a 121 o Ddeddf 1998(5) a darparu (ond nid y gwariant a awdurdodir ganddo) partneriaeth datblygu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant o dan adran 119 o Ddeddf 1998(6);

(r)darparu gwybodaeth ar gyfer neu ar gais y Cynulliad Cenedlaethol, adran o'r Llywodraeth neu unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau ar ran y Goron a darparu gwybodaeth arall y mae'r awdurdod o dan ddyletswydd i drefnu ei bod ar gael;

(rh)dyletswyddau'r awdurdod o dan Erthygl 4(2) a (5) o Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001(7));

(s)talu'r ffioedd sy'n daladwy i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 4(4) a 9(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y Cyngor yn unol â rheoliadau(8) a wnaed o dan adran 12 o'r Ddeddf honno;

(t)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 12 o Ddeddf 2002 (awdurdodau'n goruchwylio cwmnïau a ffurfiwyd gan gyrff llywodraethu); a

(th)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(9) i'r graddau na ellir cael cydymffurfedd yn rhesymol drwy'r tasgau a ddirprwyir i gyrff llywodraethu ysgolion; ond gan gynnwys gwariant a dynnir gan yr awdurdod wrth fonitro perfformiad y tasgau hynny gan gyrff llywodraethu os oes angen rhoi cyngor iddynt.

(2)

Daw adran 44 i rym ar ddiwrnod i'w benodi.

(5)

Diwygiwyd adrannau 120 a 121 gan adran 150 o Ddeddf 2002.

(6)

Diwygiwyd adran 119 gan adran 150 o Ddeddf 2002.

(8)

Y rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002, (O.S. 2002/326 (Cy.39)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources