- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
rheoliad 5
Mae gwariant o ddosbarth neu ddisgrifiad y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon yn cynnwys gwariant ar gostau gweinyddol cysylltiedig a gorbenion.
1. Gwariant ar wasanaethau a roddir gan seicolegwyr addysgol.
2. Gwariant mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adrannau 321 i 331 o Ddeddf 1996 (swyddogaethau sy'n ymwneud ag adnabod ac asesu plant ag anghenion addysgol arbennig a llunio, cynnal ac adolygu datganiadau ar gyfer y plant hynny).
3. Gwariant ar fonitro'r ddarpariaeth i ddisgyblion mewn ysgolion (os cynhelir hwy gan yr awdurdod neu beidio) at ddibenion lledaenu arferion da mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig a gwella ansawdd y ddarpariaeth addysgol ar eu cyfer.
4. Gwariant ar gydweithio â chyrff statudol a gwirfoddol i ddarparu cefnogaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig.
5. Gwariant mewn cysylltiad â'r canlynol —
(a)darparu gwasanaethau partneriaeth â rhieni(1) neu arweiniad a gwybodaeth arall i rieni disgyblion ag anghenion addysgol arbennig sydd, mewn perthynas â disgyblion mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, yn ychwanegol at yr wybodaeth a ddarperir fel arfer gan gyrff llywodraethu ysgolion o'r fath; neu
(b)trefniadau a wneir gan yr awdurdod er mwyn osgoi neu ddatrys anghytundebau â rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig.
6. Gwariant a dynnir wth baratoi ac adolygu cynllun sy'n nodi'r trefniadau a wneir, neu y bwriedir eu gwneud, gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag addysg plant ag anawsterau ymddygiad o dan adran 527A o Ddeddf 1996(2).
7. Gwariant ar gyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan Ddeddf Plant 1989(3) ac o dan adran 175(4) o Ddeddf 2002 a swyddogaethau eraill sy'n ymwneud ag amddiffyn plant.
8. Gwariant a dynnir wrth ymglymu i drefniant neu a dynnir wedyn yn unol â threfniant o dan adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999(5).
9. Gwariant wrth ddarparu cymorth meddygol arbennig ar gyfer disgyblion unigol i'r graddau na thelir gwariant o'r fath gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol(6)) neu'r Bwrdd Iechyd Lleol(7) neu'r Cynulliad Cenedlaethol.
10. Gwariant a dynnir gan yr awdurdod mewn perthynas â chamau i gefnogi gwella safonau yn ysgolion yr awdurdod, gan gynnwys, yn benodol —
(a)gwariant a dynnir wrth baratoi, adolygu a gweithredu cynllun datblygu addysg yr awdurdod o dan adrannau 6 a 7 o Ddeddf 1998;
(b)gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan adran 197 o Ddeddf 2002;
(c)gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag ymrwymo i gontract yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 63 o Ddeddf 2002 (contractau i sicrhau gwasanaethau o natur gynghorol mewn perthynas ag ysgolion â gwendidau difrifol neu ysgolion y mae arnynt angen mesurau arbennig);
(ch)gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan adran 14 i 17 o Ddeddf 1998 (pwerau ymyrryd, penodi llywodraethwyr ychwanegol ac atal cyllidebau a ddirprwywyd mewn ysgolion sy'n peri pryder); a
(d)gwariant ar benodi a thalu aelodau o weithrediaeth dros dro o dan adran 16A o Ddeddf 1998(8)).
11. Gwariant mewn perthynas â'r materion canlynol —
(a)rheoli rhaglen gyfalaf awdurdod gan gynnwys paratoi ac adolygu cynllun rheoli asedau a thrafod a rheoli trafodion cyllid preifat;
(b)cynllunio a rheoli'r cyflenwad o leoedd ysgol, gan gynnwys swyddogaethau'r awdurdod —
(i)mewn perthynas â chynllun trefniadol ysgolion yn unol ag adran 26 o Ddeddf 1998,
(ii)mewn perthynas â sefydlu, addasu neu gau ysgolion yn unol â Phennod II o Ran II o Ddeddf 1998 neu adran 113A o Ddeddf 2000 ac Atodlen 7A iddi(9);
(c)swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â gwahardd disgyblion o ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion, heb gynnwys darparu unrhyw addysg i'r disgyblion hynny, ond gan gynnwys cyngor i rieni disgybl a waharddwyd;
(ch)gweinyddu'r system i dderbyn disgyblion i ysgolion (gan gynnwys apelau derbyn ac ymgynghori o dan adran 89(2) o Ddeddf 1998);
(d)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 85A o Ddeddf 1998(10) (sydd yn darparu ar gyfer sefydlu a chynnal fforymau derbyn);
(dd)swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 509 a 509AA i 509AC(11) o Ddeddf 1996 (cludiant o'r cartref i'r ysgol ac o'r cartref i'r coleg);
(e)swyddogaethau'r awdurdod o dan adrannau 510 a 514 o Ddeddf 1996 (darparu a gweinyddu grantiau dilladu a grantiau byrddio), ac yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 518(1)(c)(12)) o Ddeddf 1996.
12. Gwariant ar y Gwasanaeth Lles Addysg a gwariant arall sy'n deillio o swyddogaethau'r awdurdod o dan Bennod II o Ran VI o Ddeddf 1996 (presenoldeb yn yr ysgol).
13. Gwariant ar ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr o dan adran 1(1) o Ddeddf Addysg 1962(13) ac o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(14)).
14. Gwariant ar grantiau disgresiynol o dan adran 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962 (dyfarndaliadau ar gyfer cyrsiau dynodedig a chyrsiau eraill).
15. Gwariant ar dalu lwfansau i bobl dros oedran ysgol gorfodol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 518(1)(b)(15) o Ddeddf 1996.
16. Gwariant ar dalu i bobl dros oedran ysgol gorfodol mewn cysylltiad â'r addysg neu'r hyfforddiant a ragnodwyd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 181(1) o Ddeddf 2002.
17. Gwariant ar ddarparu addysg a hyfforddiant a gweithgareddau amser hamdden wedi'i drefnu a darpariaeth arall o dan adran 15A a 15B o Ddeddf 1996(16).
18. Gwariant ar y ddarpariaeth gan yr awdurdod addysg lleol o dan adrannau 15A a 508 o Ddeddf 1996 o adloniant a hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol, ac ar ddarpariaeth yr awdurdod o wasanaethau o dan adran 123 o Ddeddf 2000 i annog a galluogi'r bobl ifanc i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant.
19. Gwariant yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol mewn perthynas â'r canlynol —
(a)y Prif Swyddog Addysg a'i staff personol;
(b)cynllunio ar gyfer y gwasanaeth addysg yn ei gyfanrwydd gan gynnwys ymateb i ddatganiadau polisi a phapurau ymgynghori;
(c)swyddogaethau'r awdurdod o dan Ran I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(17) (Gwerth Gorau) a darparu cyngor i gynorthwyo cyrff llywodraethu i gaffael nwyddau a gwasanaethau er mwyn gwella'n barhaus ar y dulliau yr arferir swyddogaethau'r cyrff llywodraethu hynny, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd a effeithiolrwydd;
(ch)paratoi cyllideb refeniw; paratoi gwybodaeth am incwm a gwariant ynghylch addysg, i'w hymgorffori yn natganiad cyfrifon blynyddol yr awdurdod; a'r archwiliad allanol i geisiadau am grantiau a'r ffurflenni a ddychwelir sy'n ymwneud ag addysg a swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 44 o Ddeddf 2002(18));
(d)gweinyddu grantiau i'r awdurdod (gan gynnwys paratoi ceisiadau), swyddogaethau a osodir gan neu o dan Bennod IV o Ran II o Ddeddf 1998 ac, os yw'n ddyletswydd ar yr awdurdod i wneud hynny, sicrhau'r taliadau o ran y dreth, yswiriant gwladol a chyfraniadau blwydd-daliadau;
(dd)awdurdodi a monitro —
(i)gwariant na thelir mohono o gyfrannau cyllideb yr ysgolion; a
(ii)gwariant mewn perthynas ag ysgolion sydd heb gyllidebau dirprwyedig,
a phob gweinyddu ariannol cysylltiedig;
(e)swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 28 o Ddeddf 2002 (darparu cyfleusterau cymunedol gan gyrff llywodraethu);
(f)tasgau eraill sy'n angenrheidiol i gyflawni cyfrifoldebau prif swyddog cyllid yr awdurdod o dan adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(19);
(ff)recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff a gyllidir o wariant na thelir amdano gan gyfrannau cyllideb ysgolion ac a delir am wasanaethau a gyflawnir mewn perthynas â swyddogaethau a gwasanaethau'r awdurdod y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon;
(g)ymchwiliadau a wneir gan yr awdurdod ar gyflogeion neu gyflogeion posibl yr awdurdod neu gyrff llywodraethu ysgolion, neu bersonau a gymerir ymlaen fel arall neu sydd i'w cymryd ymlaen (gyda thâl neu'n ddi-dâl) i weithio yn yr ysgolion neu drostynt;
(ng)swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â blwydd-daliadau, gan gynnwys gweinyddu pensiwn athrawon, heblaw swyddogaethau sydd wedi eu dirprwyo i gyrff llywodraethu ysgolion;
(h)aelodaeth ôl-weithredol o gynlluniau pensiwn ac etholiadau ôl-weithredol a wneir mewn perthynas â phensiynau pan na fyddai'n briodol disgwyl i gorff llywodraethu ysgol i dalu'r gost o gyfran cyllideb yr ysgol;
(i)cyngor, yn unol â swyddogaethau statudol yr awdurdod, i gyrff llywodraethu mewn perthynas â staff a delir, neu sydd i'w talu, i weithio mewn ysgol, a chyngor mewn perthynas â rheoli'r holl staff ar y cyd mewn unrhyw ysgol unigol (“gweithlu'r ysgol”), gan gynnwys yn benodol y cyngor o ran newidiadau mewn cyflog, amodau gwasanaeth a chyd-gyfansoddiad a chyd-drefniadaeth gweithlu ysgol o'r fath;
(j)penderfynu amodau gwasanaeth ar gyfer y staff nad ydynt yn addysgu a chynghori'r ysgolion ar raddau staff felly;
(l)swyddogaethau'r awdurdod ynghylch penodi neu ddiswyddo cyflogeion;
(ll)ymgynghori, a swyddogaethau yn barod ar gyfer ymgynghori â chyrff llywodraethu, disgyblion a phobl a gyflogir mewn ysgolion neu eu cynrychiolwyr personol, neu â chyrff eraill sydd â buddiant;
(m)cydymffurfio â dyletswyddau'r awdurdod o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974(20) a'r darpariaethau statudol perthnasol fel y'u diffinnir yn adran 53(1) o'r Ddeddf honno i'r graddau na ellir cael cydymffurfedd yn rhesymol drwy'r tasgau a ddirprwyir i gyrff llywodraethu ysgolion; ond gan gynnwys gwariant a dynnir gan yr awdurdod wrth fonitro perfformiad y tasgau hynny gan gyrff llywodraethu ac os oes angen rhoi cyngor iddynt;
(n)ymchwilio i gwynion a'u datrys gan gynnwys camau a gymerir i helpu corff llywodraethu i ymdrin â chwyn;
(o)gwasanaethau cyfreithiol ynghylch swyddogaethau statudol yr awdurdod;
(p)paratoi ac adolygu cynlluniau sy'n ymwneud â chydweithio â gwasanaethau awdurdod lleol arall neu gydweithio â chyrff cyhoeddus neu wirfoddol;
(ph)paratoi, addasu ac adolygu cynllun datblygu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer ei ardal o dan adrannau 120 a 121 o Ddeddf 1998(21) a darparu (ond nid y gwariant a awdurdodir ganddo) partneriaeth datblygu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant o dan adran 119 o Ddeddf 1998(22);
(r)darparu gwybodaeth ar gyfer neu ar gais y Cynulliad Cenedlaethol, adran o'r Llywodraeth neu unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau ar ran y Goron a darparu gwybodaeth arall y mae'r awdurdod o dan ddyletswydd i drefnu ei bod ar gael;
(rh)dyletswyddau'r awdurdod o dan Erthygl 4(2) a (5) o Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001(23));
(s)talu'r ffioedd sy'n daladwy i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 4(4) a 9(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y Cyngor yn unol â rheoliadau(24) a wnaed o dan adran 12 o'r Ddeddf honno;
(t)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 12 o Ddeddf 2002 (awdurdodau'n goruchwylio cwmnïau a ffurfiwyd gan gyrff llywodraethu); a
(th)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(25) i'r graddau na ellir cael cydymffurfedd yn rhesymol drwy'r tasgau a ddirprwyir i gyrff llywodraethu ysgolion; ond gan gynnwys gwariant a dynnir gan yr awdurdod wrth fonitro perfformiad y tasgau hynny gan gyrff llywodraethu os oes angen rhoi cyngor iddynt.
20. Gwariant ar sefydlu a chynnal systemau cyfrifiadurol electronig, gan gynnwys storio data, i'r graddau y maent yn cysylltu, neu'n hwyluso cysylltiad yr awdurdod â'r ysgolion a gynhelir ganddo, rhwng ysgolion o'r fath â'i gilydd neu rhwng ysgolion o'r fath â phobl neu sefydliadau eraill.
21. Gwariant ar fonitro trefniadau asesu'r Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n ofynnol gan orchymynion a wneir o dan adran 356 o Ddeddf 1996 ac o dan adran 108 o Ddeddf 2002(26).
22. Gwariant mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â chyngor ymgynghorol sefydlog addysg grefyddol a ffurfiwyd gan yr awdurdod o dan adran 390 o Ddeddf 1996 neu wrth ailystyried a pharatoi cynllun maes llafur cytûn addysg grefyddol yn unol ag Atodlen 31 i Ddeddf 1996.
23. Gwariant mewn perthynas â diswyddo neu ymddeoliad cynamserol unrhyw berson neu at ddibenion trefnu ymddiswyddiad, neu mewn perthynas â gweithredoedd sy'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw berson.
24. Gwariant mewn perthynas â thaliadau athrawon o dan adran 19(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
25. Gwariant mewn perthynas â swyddogaethau corff priodol o dan reoliadau yn unol ag adran 19(2)(g) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(27).
26. Gwariant ar benodi llywodraethwyr, gwneud offerynnau llywodraeth, talu treuliau y mae gan lywodraethwyr hawl i'w cael nad ydynt yn daladwy o gyfran cyllideb ysgol a darparu gwybodaeth i lywodraethwyr.
27. Unrhyw wariant ar yswiriant heblaw am atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion neu dir ac adeiladau ysgol.
28. Gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 47A(28) o Ddeddf 1998 (sefydlu a chynnal a chadw fforymau ysgolion ac ymgynghori â hwy).
Gwasanaethau partneriaeth â rhieni yw'r gwasanaethau y darperir ar eu cyfer o dan adran 332A o Ddeddf Addysg 1996 i roi cyngor a gwybodaeth i rieni plant ag anghenion addysgol arbennig.
Mewnosodwyd adran 527A gan adran 9 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a diwygiwyd hi gan baragraff 144 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.
Caiff adran 175 ei dwyn i rym ar ddiwrnod sydd i'w benodi.
Diffinnir National Health Service Trusts yn adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 p.19.
Sefydlir Byrddau Iechyd Lleol drwy orchymyn a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) fel y mewnosodwyd hi gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17).
Mewnosodir adran 16A gan adran 57 o Ddeddf 2002 ar ddiwrnod sydd i'w benodi.
Mewnosodir adran 113A ac Atodlen 7A gan adran 72 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 9 iddi ar ddiwrnod i'w benodi.
Mae adran 85A o Ddeddf 1998 i'w fewnosod gan adran 46 o Ddeddf 2002 a'r ddiwrnod sydd i'w benodi.
Mewnosdwyd adrannau 509AA, 509AB a 509AC gan adran 199 o, Ddeddf 2002 ac Atodlen 19 iddi.
Amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf 1998.
Amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf 1998.
Mewnosodwyd adran 15A gan adran 140(1) a pharagraff 63 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998, ac adran 15B gan adran 149 a pharagraffau 1 a 55 o Atodlen 9 i Ddeddf 2000.
Daw adran 44 i rym ar ddiwrnod i'w benodi.
Diwygiwyd adrannau 120 a 121 gan adran 150 o Ddeddf 2002.
Diwygiwyd adran 119 gan adran 150 o Ddeddf 2002.
Y rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002, (O.S. 2002/326 (Cy.39)).
Adeg gwneud y Rheoliadau hyn y Gorchmynion perthnasol yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45); Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) 1997 (O.S. 1997/2009, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1977) a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997 (O.S. 1997/2010), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1889 (Cy.40).
Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/543 (Cy.77)).
Mewnosodwyd adran 47A gan adran 43 o Ddeddf 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: