- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(1);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(2);
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig.
(3) Yn y Rheoliadau mae cyfeiriad (sut bynnag y caiff ei eirio) at ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig yn cynnwys ysgol newydd a fydd yn ysgol o'r fath a chanddi gorff llywodraethu dros dro pan weithredir cynigion o dan unrhyw ddeddfiad.
(4) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd sy'n dod o fewn paragraff (3).
(5) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn golygu ysgol gynradd neu ysgol uwchradd a fydd yn ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol.
(6) Yn y Rheoliadau hyn nid yw cyfeiriad (sut bynnag y caiff ei eirio) at ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y'u diffinnir ym mharagraff (2).
(7) Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at wariant yn gyfeiriadau at y gwariant hwnnw yn net o'r canlynol —
(a)pob grant penodedig cysylltiedig;
(b)pob ffi, taliad ac incwm cysylltiedig; ac
(c)cyllid sy'n dod o'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â thaliad unedol cynllun PFI.
(8) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at grant penodedig yn gyfeiriad at unrhyw grant a delir i'r awdurdod o dan amodau sy'n gosod cyfyngiadau ar ddibenion penodol yr awdurdod y ceir defnyddio'r grant ar eu cyfer, ond nid yw'n cynnwys —
(a)unrhyw grant a wneir gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant(3) mewn perthynas â chyllido chweched dosbarth; neu
(b)unrhyw grant penodedig a ddefnyddir i gefnogi gwariant drwy'r gyllideb ysgolion unigol.
(9) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at daliad unedol cynllun PFI yn gyfeiriad at daliad sy'n daladwy gan yr awdurdod addysg lleol o dan drafodiad cyllid preifat.
(10) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at drafodiad cyllid preifat yn gyfeiriad at drafodiad fel y diffinnir “transaction” gan reoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997(4).
(11) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at fformiwla yn golygu fformiwla a benderfynwyd (ar ôl ymgynghori) gan yr awdurdod addysg lleol cyn dechrau blwyddyn ariannol erbyn pryd y penderfynir ar gyfrannau cyllideb ysgolion yn y flwyddyn ariannol honno gan roi sylw i'r ffactorau, y meini prawf a'r gofynion a ragnodwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 47 o Ddeddf 1998.
(12) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at wariant cyfalaf yn golygu gwariant y mae awdurdod yn bwriadu ei gyfalafu yn eu cyfrifon yn unol ag arferion priodol sef yr arferion cyfrifyddu hynny —
(a)y mae'n ofynnol i'r awdurdod eu dilyn yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad; neu
(b)y gwelir yn gyffredinol eu bod, i'r graddau y maent yn gyson ag unrhyw ddeddfiad o'r fath, boed drwy gyfeiriad at unrhyw god a gyhoeddwyd ac a gydnabyddir yn gyffredinol neu fel arall, yn arferion cyfrifyddu priodol sydd i'w dilyn wrth gadw cyfrifon awdurdodau lleol, naill ai yn gyffredinol neu o'r disgrifiad o dan sylw(5).
(13) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at CERA yn gyfeiriadau at wariant cyfalaf y mae awdurdod yn disgwyl ei dynnu o gyfrif refeniw'r awdurdod fel y'i diffinnir yn adran 41(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(6).
(14) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at wariant a eithrir yn gyfeiriadau at y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau canlynol o wariant —
(a)Gwariant cyfalaf heblaw CERA;
(b)Gwariant at ddibenion adran 26 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(7)) (trefniadau ar gyfer hebrwng wrth groesfannau ysgol); ac
(c)Gwariant a dynnir gan yr awdurdod addysg lleol o dan adran 51A o Ddeddf 1998(8) (gwariant a dynnir at ddibenion cymunedol).
Sefydlwyd Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant o dan adran 30 o Ddeddf 2000.
O.S. 1997/319 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/371 a 1999/1852.
Dyma'r arferion priodol y cyfeirir atynt yn adran 66(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) ac, ar ddyddiad gwneud y rheoliadau hyn, maent yn cynnwys y Cod Ymarfer ar Gyfrifydda Awdurdodau Lleol ym Mhrydain Fawr 2002, fel y'i diweddarwyd (ISBN 0 85299 947 897 X).
1984 p.27, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), Atodlen 5, paragraff 4(10).
Mewnosodwyd gan adran 40 o Ddeddf 2002 a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: