xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3117 (Cy.295)

CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003

Wedi'i wneud

2 Rhagfyr 2003

Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003(1), ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol —

Enwi, cychwyn a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 a daw i rym y diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud.

Talu ffioedd hyfforddi i Swyddogion Canlyniadau

2.—(1Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002(2) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 3(1)(b) rhodder — “treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 6A(1) o'r Atodlen, ac”.

(3Yn rheoliad 3(2)(b), yn lle “7(1)” rhodder “5(1) a 6A(1)”.

(4Yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl Paragraff 6 mewnosoder paragraff newydd, sef Paragraff 6A—

Taliadau mewn cysylltiad â hyfforddi swyddogion llywyddu:

6A.(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud taliad i swyddog canlyniadau mewn cysylltiad â chostau a dynnir wrth hyfforddi swyddogion llywyddu i gyflawni dyletswyddau ar ddiwrnod pleidleisio mewn etholiad Cynulliad.

(2) £40.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul swyddog llywyddu sy'n cael hyfforddiant.

(3) Yn ychwanegol at y costau y gellir eu hadennill o dan baragraff (2) £125.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul etholaeth Cynulliad mewn cysylltiad â pharatoi deunyddiau hyfforddi.

(4) Yn ychwanegol at y costau y gellir eu hadennill o dan baragraffau (2) a (3) £100.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul cyflwyniad hyfforddi a roddir i swyddogion llywyddu..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Rhagfyr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Erthygl 3 a Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 (“Gorchymyn 2002”), a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2003.

O dan erthygl 21(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003 (“Gorchymyn 2003”) mae hawl swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i adennill costau mewn perthynas â gwasanaethau neu dreuliau'r person hwnnw o ran neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath yn dibynnu ar y canlynol, sef —

(a)bod y gwasanaethau neu'r treuliau yn rhai o'r math a nodir mewn Gorchymyn o dan y ddarpariaeth honno,

(b)bod y gwasanaethau yn cael eu darparu'n briodol a bod y treuliau yn rhai sy'n cael eu tynnu'n briodol, ac

(c)bod y taliadau mewn perthynas â hwy yn rhesymol.

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan Erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn 2003.

Mewnosodir paragraff newydd, sef Paragraff 6A, yn Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn 2002, ac mae'n caniatáu i daliad gael ei wneud i swyddog canlyniadau mewn cysylltiad â hyfforddi swyddogion llywyddu i gyflawni dyletswyddau pleidleisio ar ddiwrnod etholiad.