Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3064 (Cy.293)(C.115)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, LLOEGR A CHYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 2) 2003

Wedi'i wneud

26 Tachwedd 2003

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 2) 2003.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;

Y dyddiau a bennwyd ar gyfer darpariaethau ynglŷn â'r Cynghorau Iechyd Cymuned yn Lloegr

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) 1 Rhagfyr 2003 yw'r dydd a bennwyd i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym at bob diben —

(i)adran 1 ac Atodlen 1;

(ii)paragraffau 3, 4, 5, 7, a 14 o Atodlen 3 ac adran 7(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hwy; a

(iii)adran 7(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 ac eithrio'r cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.

(2Dim ond ynglŷn â Lloegr y mae'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn cael eu dwyn i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D.Elis- Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn o dan Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 (“y Ddeddf”).

Mae Erthygl 2 yn dwyn i rym, wrth gael ei chymhwyso i Lloegr, adran 1 o'r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi. Mae adran 1 yn hepgor adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac Atodlen 7 iddi ac effaith hynny yw datgymhwyso dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned ar gyfer dosbarthau yn Lloegr.

Mae'r Gorchymyn yn cychwyn diwygiadau a diddymiadau canlyniadol hefyd.

NODYN AM ORCHYMYN CYCHWYN BLAENOROL

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hyn yn rhan o'r Gorchymyn)

Darparwyd ar gyfer y darpariaethau a bennit isod mewn perthynas â Chymru (gan gynwys darpariaethau sy'n gymwys i Gymru a Lloegr) yng Ngorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003 O.S. 2003/2660 (Cy.256) (C. 102)

DarpariaethDyddiad Cychwyn
Adran 1 (yn gymwys i Gymru yn unig)20 Hydref 2003
Adran 7(1) (yn rhannol) (yn gymwys i Gymru yn unig)20 Hydref 2003
Adran 7(2) (yn rhanol) (yn gymwys i Gymru yn unig)20 Hydref 2003
Adran 2 (ar gyfer gwneud rheoliadau yn unig)20 Hydref 2003
Adran 3 (ar gyfer gwneud rheoliadau yn unig)20 Hydref 2003
Adrannau 4, 5 and 620 Hydref 2003
Atodlen 1 (yn gymwys i gymru yn unig)20 Hydref 2003
Paragraffau 3, 4, 5, 7 a 14 o Atodlen 320 Hydref 2003
Atodlen 4, heblaw'r cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 200220 Hydref 2003
Paragraff 10 o Atodlen 220 Hydref 2003
Adrannau 2, 3 and 7(1) (ar gyfer phob pwrpas arall)1 Ebrill 2005
Atodlenni 2 and 3 heblaw'r gyfeiriad at paragraff 16 o Atodlen 3