Rheoliad 2

ATODLEN 1CYNHYRCHION LLAETH SYDD WEDI'U DADHYDRADU A'U PRESERFIO YN RHANNOL NEU'N LLWYR A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Colofn 1Colofn 2
Disgrifiadau NeilltuedigCynhyrchion Dynodedig

Nodiadau:

1.

Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl(1) ac unrhyw fitamin.

2.

Wrth wneud unrhyw gynnyrch dynodedig a bennir ym mharagraff 1(d) i (e), mae caniatâd i ychwanegu swm ychwanegol o lactos, heb fod yn fwy na 0.03% o ran pwysau'r cynnyrch gorffenedig.

3.

Heb leihau effaith gyffredinol Ran V o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995(2), preserfir cynhyrchion dynodedig drwy'r dulliau canlynol, sef —

(a)

trin â gwres, ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(a) i (ch) o'r Atodlen hon;

(b)

ychwanegu swcros ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(d) i (e) o'r Atodlen hon;

(c)

dadhydradu ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon.

4.

Penderfynir ar lefelau'r deunydd sych, cynnwys lleithder, braster, swcros, asid lactig a lactadau a gweithgarwch ffosffotas yn y cynhyrchion dynodedig yn unol â'r dulliau yng Nghyfarwyddeb 79/1067.

1.  Partly dehydrated milk

Types of unsweetened condensed milk

(a)Condensed high-fat milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 15% braster, ac nid llai na chyfanswm o 26.5% o solidau llaeth.

(b)Condensed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradedu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 7.5% braster, ac nid llai na chyfanswm o 25% o solidau llaeth.

(c)Condensed, partly skimmed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradedu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 1% a llai na 7.5% braster, ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth.

(ch)Condensed skimmed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1% braster, ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth.
Types of sweetened condensed milk

(d)Sweetended condensed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn, neu siwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai nag 8% braster ac nid llai na chyfanswm o 28% o solidau llaeth.

(dd)Sweetened condensed, partly skimmed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu iwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 1% a llai na 8% braster, ac nid llai na 24% o gyfanswm o solidau llaeth.

(e)Sweetened condensed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu siwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1% braster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth.

2.  Totally dehydrated milk

(a)Dried high-fat milk neu high-fat milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 42% braster.

(b)Dried whole milk neu whole milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 26% ac nid llai na 42% braster.

(c)Dried partly skimmed milk neu partly skimmed milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr â chynnwys braster o dros fwy na 1.5% a llai na 26% yn ôl pwysau.

(ch)Dried skimmed milk neu skimmed milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1.5% braster.