ATODLEN 1CYNHYRCHION LLAETH SYDD WEDI'U DADHYDRADU A'U PRESERFIO YN RHANNOL NEU'N LLWYR A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Rheoliad 2

Colofn 1

Colofn 2

Disgrifiadau Neilltuedig

Cynhyrchion Dynodedig

1

Partly dehydrated milk

Types of unsweetened condensed milk

a

Condensed high-fat milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 15% braster, ac nid llai na chyfanswm o 26.5% o solidau llaeth.

b

Condensed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradedu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 7.5% braster, ac nid llai na chyfanswm o 25% o solidau llaeth.

c

Condensed, partly skimmed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradedu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 1% a llai na 7.5% braster, ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth.

ch

Condensed skimmed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1% braster, ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth.

Types of sweetened condensed milk

d

Sweetended condensed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn, neu siwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai nag 8% braster ac nid llai na chyfanswm o 28% o solidau llaeth.

dd

Sweetened condensed, partly skimmed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu iwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 1% a llai na 8% braster, ac nid llai na 24% o gyfanswm o solidau llaeth.

e

Sweetened condensed milk

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu siwgr claerwyn) ac sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1% braster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth.

2

Totally dehydrated milk

a

Dried high-fat milk neu high-fat milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 42% braster.

b

Dried whole milk neu whole milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 26% ac nid llai na 42% braster.

c

Dried partly skimmed milk neu partly skimmed milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr â chynnwys braster o dros fwy na 1.5% a llai na 26% yn ôl pwysau.

ch

Dried skimmed milk neu skimmed milk powder

Llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy na 1.5% braster.

Nodiadau:

  1. 1

    Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl28 ac unrhyw fitamin.

  2. 2

    Wrth wneud unrhyw gynnyrch dynodedig a bennir ym mharagraff 1(d) i (e), mae caniatâd i ychwanegu swm ychwanegol o lactos, heb fod yn fwy na 0.03% o ran pwysau'r cynnyrch gorffenedig.

  3. 3

    Heb leihau effaith gyffredinol Ran V o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 199529, preserfir cynhyrchion dynodedig drwy'r dulliau canlynol, sef —

    1. a

      trin â gwres, ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(a) i (ch) o'r Atodlen hon;

    2. b

      ychwanegu swcros ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(d) i (e) o'r Atodlen hon;

    3. c

      dadhydradu ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon.

  4. 4

    Penderfynir ar lefelau'r deunydd sych, cynnwys lleithder, braster, swcros, asid lactig a lactadau a gweithgarwch ffosffotas yn y cynhyrchion dynodedig yn unol â'r dulliau yng Nghyfarwyddeb 79/1067.

ATODLEN 2DISGRIFIADAU AMGEN I'R DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG A BENNIR YN ATODLEN 1

Rheoliad 2

1

Mae caniatâd i ddefnyddio'r term “evaporated milk” yn lle'r term “condensed milk” i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, o leiaf 9% braster a chyfanswm o 31% o solidau llaeth.

2

Mae caniatâd i ddefnyddio'r term “evaporated semi-skimmed milk” yn lle'r term “condensed partly skimmed milk” i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, rhwng 4% a 4.5% braster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth.

3

Mae caniatâd i ddefnyddio'r term “semi-skimmed milk powder” neu “partly skimmed-milk powder” yn lle'r term “dried partly skimmed milk” neu “partly skimmed-milk powder” i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr â chynnwys braster rhwng 14% a 16%.