Search Legislation

Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003, deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “cyfanswm y solidau llaeth” (“total milk solids”) yw holl gyfansoddion llaeth heblaw dwr, gan gynnwys braster llaeth, a'r cyfansoddion heblaw braster llaeth sy'n bresennol yn eu cyfrannau naturiol;

ystyr “Cyfarwyddeb 79/1067/EEC” (“Directive 79/1067/EEC”) yw Cyfarwyddeb Gyntaf y Comisiwn 1979/1067/EEC(1) sy'n gosod dulliau'r Gymuned o ddadansoddi ar gyfer profi llaeth a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sydd wedi ei ddadhydradu yn rhannol neu'n llwyr;

ystyr “Cyfarwyddeb 87/524/EEC” yw Cyfarwyddeb Gyntaf y Comisiwn 1987/524/EEC(2) yn gosod dulliau'r Gymuned o samplo ar gyfer dadansoddiad cemegol ar gyfer monitro cynhyrchion llaeth wedi'u preserfio;

ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadadau sy'n berthnasol i'r Atodlen honno);

ystyr “Cytundeb AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar Ardal Economaidd Ewropeaidd(3), a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, fel y'i haddaswyd gan y Protocol(4)) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw —

(a)

er mwyn ailwerthu;

(b)

ar gyfer sefydliad arlwyo;

(c)

ar gyfer busnes gweithgynhyrchu;

ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”) o ran unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 neu unrhyw ddisgrifiad amgen a ganiateir gan Atodlen 2;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos i'w werthu neu feddu i'w werthu, a dehonglir ymadroddion cytras yn unol â hynny;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractiol i Gytundeb AEE;

ystyr “llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr” (“totally dehydrated milk”) yw'r cynnyrch solet, a'i gynnwys dwr heb fod yn fwy na 5% o'r cynnyrch gorffenedig yn ôl pwysau, a geir drwy dynnu dwr o laeth, o laeth rhannol sgim neu o laeth llwyr sgim, o hufen neu o gymysgedd o'r cynhyrchion hyn;

ystyr “llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol” (“partly dehydrated milk”) yw'r cynnyrch hylif, boed wedi'i felysu ai peidio, a geir yn uniongyrchol drwy dynnu peth dwr o laeth, llaeth llwyr sgim neu laeth rhannol sgim, neu o gymysgwch o'r cynhyrchion hyn, ac mae'n cynnwys cynhyrchion yr ychwanegwyd hufen neu laeth sydd wedi'i ddadhydradu'n llwyr atynt ar yr amod nad yw'r llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr yn fwy, yn y cynnyrch gorffenedig, na 25% o gyfanswm y solidau llaeth;

mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin a rhaid dehongli unrhyw ffurf ar “paratoi” yn ynol â hynny;

ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(5);

ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle, wrth gynnal busnes, y darperir bwyd i'w ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf ac sy'n barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach;

Ystod y Rheoliadau

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

Disgrifiadau neilltuedig

4.  Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd ac arno label, p'un a yw wedi'i gysylltu â'r deunydd lapio neu'r cynhwysydd, neu wedi'i argraffu arno, sy'n dwyn, yn ffurfio neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw darddair ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo oni bai —

(a)bod y bwyd hwnnw yn gynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;

(b)bod y disgrifiad, y tarddair neu'r gair hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos neu'n awgrymu yn glir nad yw'r sylwedd y mae'n ymwneud ag ef ond yn gynhwysyn yn y bwyd hwnnw; neu

(c)bod y disgrifiad, y tarddair neu'r gair hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos neu'n awgrymu'n glir nad yw'r bwyd yn gynnyrch dynodedig ac nad yw'n cynnwys cynnyrch dynodedig.

Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig

5.  Heb leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai iddo gael ei farcio a'i labelu â'r manylion canlynol —

(a)disgrifiad neilltuedig y cynnyrch;

(b)ac eithrio yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraffau 1(ch) ac (e) a 2(ch) o Atodlen 1, canran y braster llaeth, wedi'i mynegi yn ôl y pwysau mewn perthynas â'r cynnyrch gorffenedig;

(c)ac eithrio yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, canran yr echdyniad llaeth sych nad yw'n cynnwys unrhyw fraster o gwbl;

(ch)yn achos cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, argymhellion ynghylch y dull gwanhau neu ailgyfansoddi'r cynnyrch a manylion am ei gynnwys braster pan gaiff ei wanhau neu ei ailgyfansoddi;

(d)yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, nad yw'r cynnyrch “wedi'i fwriadu yn fwyd i fabanod o dan ddeuddeng mis oed”.

Dull marcio neu labelu

6.—(1Mae rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â'r dull o farcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu cynnyrch dynodedig â hwy oherwydd rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu bwyd â hwy oherwydd Rheoliadau 1996.

(2Rhaid i'r manylion y mae'n ofynnol iddynt ymddangos ar y label yn rhinwedd rheoliad 5(b) ac (c) o'r Rheoliadau hyn ymddangos wrth enw'r cynnyrch.

(3Pan gaiff cynhyrchion dynodedig sy'n pwyso llai na 20 gram yr uned eu pacio mewn deunydd pacio allanol, nid oes rhaid i'r manylion sy'n ofynnol gan reoliad 5(b) i (d) o'r Rheoliadau hyn ymddangos ond ar y deunydd pacio allanol.

Cosbi a gorfodi

7.—(1Bydd person sy'n mynd yn groes neu yn methu cydymffurfio â rheoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion

8.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir i brofi —

(a)y bwriadwyd y bwyd, yr honnir i'r drosedd gael ei chyflawni mewn perthynas ag ef, ar gyfer ei allforio i wlad sydd â deddfwriaeth gydweddol â'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; ac

(b)yn achos allforio i Wladwriaeth AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/114/EC sy'n ymwneud â llaeth penodol sydd wedi ei ddadhydradu'n rhannol neu'n llwyr a'i breserfio i'w fwyta gan bobl(6).

Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990

9.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny i'r Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig gwariant etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau am fod bai ar berson arall)

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;

(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n delio â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion)

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod.

(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(2Mae adran 29 o'r Ddeddf (samplu) yn gymwys mewn perthynas â gwaith samplu cynhyrchion dynodedig i'w dadansoddi at ddibenion y Rheoliadau hyn a chyda'r addasiad bod rhaid arfer a pherfformio pwer swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi o dan yr adran honno a dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan unrhyw reoliadau a wneir o dan y Ddeddf, yn unol â'r dulliau a ddisgrifir yn yr Atodlen i Gyfarwyddeb 87/524/EEC.

Diwygio a dirymu

10.—(1Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru), hepgorir y darpariaethau canlynol —

(a)yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II), is-baragraff (d);

(b)yn rheoliad 49 (dirymu a diwygio), paragraff (6).

(2Hepgorir y cofnodion a ganlyn sy'n ymwneud â Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977(7) (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru) —

(a) yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982 (8), yn Atodlen 1;

(b) yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985 (9), yn yr Atodlen, Rhan I;

(c)yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(10)), yn Atodlen 1, Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3, Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;

(ch)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(11), yn Atodlen 1, Rhan I;

(d)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd Arfog) (Dirymu) 1992(12)), yn yr Atodlen, Rhan I;

(dd)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(13), yn Atodlen 9;

(e)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(14), yn rheoliad 14(1);

(f)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002(15)), rheoliad 9(2).

(3Dirymir y Rheoliadau a ganlyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru):

(a)Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977(16);

(b)Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Phowdr Sych (Diwygio) 1982(17);

(c)Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Phowdr Sych (Diwygio) 1986(18);

(ch)Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Phowdr Sych (Diwygio) 1989 (19)).

(4Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwydydd 1995(20), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru , yn Atodlen 2, paragraff 6, yn lle'r cyfeiriad at “Cyfarwyddeb 76/118/EEC(21)) rhoddir cyfeiriad at “Cyfarwyddeb 2001/114/EC(22).

(5Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(23), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru —

(a)yn rheoliad 10, dirymir paragraff (7);

(b)yn Atodlen 7, yng ngholofn 1, yn lle'r geiriau “Partially dehydrated and dehydrated milk as defined in Directive 76/118/EEC” rhoddir “Partially dehydrated and totally dehydrated milk as defined in Directive 2001/114/EC”.

Darpariaeth drosiannol

11.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir i brofi —

(a)bod y bwyd dan sylw wedi'i farcio neu'i labelu cyn 17 Gorffennaf 2004, a

(b)na fyddai'r materion sy'n gwneud y tramgwydd honedig wedi gwneud tramgwydd o dan Reoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977 fel yr oeddent yn union cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(24).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources