2003 Rhif 3047 (Cy.290)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru2, ac yntau wedi ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, ac wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol yn Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor3, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr ag sydd i “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “cynnyrch siwgr penodedig” (“specified sugar product”) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r Nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno) ond nid yw'n cynnwys unrhyw fwyd o'r fath sydd ar ffurf siwgr eisin, siwgr candi neu siwgr lwmp;

  • ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ynghylch yr Ardal Economaidd Ewropeaidd4 a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol5 a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

  • ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw—

    1. a

      er mwyn ailwerthu,

    2. b

      at ddibenion sefydliad arlwyo, neu

    3. c

      at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.

  • ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch siwgr penodedig, yw unrhyw ddisgrifiad mewn cysylltiad â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno) a lle y defnyddir disgrifiad o'r fath yn y Rheoliadau hyn rhaid ei ddehongli fel y cynnyrch y mae'r disgrifiad hwnnw yn berthnasol iddo;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • mae ystyr “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos ar werth neu fod ym meddiant rhywun ar gyfer ei werthu, a rhaid dehongli ffurfiau sy'n deillio ohono yn unol â hynny;

  • ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sydd yn rhan o Gontract Cytundeb yr AEE;

  • mae ystyr “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu driniaeth a rhaid dehongli ffurfiau sy'n tarddu o “baratoi” yn unol â hynny;

  • ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 19966;

  • ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu stondin symudol) lle, wrth gynnal busnes, y paratoir bwyd i'w ddosbarthu i'r cwsmer olaf a'r bwyd hwnnw yn barod i'w fwyta heb ei baratoi ymhellach;

  • ystyr “siwgr candi” (“candy sugar”) yw siwgr crisial os yw unrhyw ochr o'r crisialau yn hwy nag un sentimetr;

  • ystyr “siwgr eisin” (“icing sugar”) yw gronynnau mân o siwgr gwyn neu siwgr claerwyn neu gymysgedd ohonynt;

  • ystyr “siwgr lwmp” (“sugar in loaf form”) yw darn o siwgr crisial wedi ei gydgasglu ar ffurf côn fel arfer, nad yw ei bwysau'n llai na 250 gram;

Cwmpas y Rheoliadau3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodedig, y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sydd yn barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

Disgrifiadau neilltuedig4

Ni chaiff neb werthu bwyd gyda label, boed honno wedi ei glynu wrth y deunydd lapio neu'r cynhwysydd ai peidio, neu wedi ei hargraffu arno, os yw'n dangos neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ymadrodd sy'n deillio ohono, neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo heblaw—

a

mai'r cynnyrch siwgr penodedig y mae'r disgrifiad yn ymwneud ag ef yw'r bwyd hwnnw;

b

bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur mai dim ond cynhwysyn yn y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n cyfeirio ato;

c

bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur nad cynnyrch siwgr penodedig mo'r bwyd hwnnw, ac nad yw'n cynnwys dim ohono; neu

ch

bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair yn cael ei ddefnyddio yn enw arferol ar gynnyrch bwyd arall ac nad yw'n debygol o gamarwain y defnyddiwr.

Labelu a disgrifio cynhyrchion siwgr penodedig5

Heb iddo leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch siwgr penodedig os nad yw wedi ei farcio neu ei labelu â'r manylion canlynol—

a

disgrifiad neilltuedig y cynnyrch; a

b

yn achos toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro, faint o sylwedd sych a faint o siwgr gwrthdro sydd yn y cynnyrch.

Y dull o farcio neu labelu6

Rhaid i Reoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â sut y mae bwyd yn cael ei farcio neu ei labelu) fod yn gymwys i'r manylion y mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu marcio ar gynnyrch siwgr penodedig, neu eu rhoi ar ei label, fel pe baent yn fanylion y mae Rheoliadau 1996 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio ar fwyd neu eu rhoi ar label arno.

Cosbau a gorfodi7

1

Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn, neu berson nad yw'n cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

2

Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Amddiffyniad o ran allforio8

Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir os bydd yn profi —

a

y bwriadwyd allforio'r bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef i wlad y mae ganddi ddeddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a

b

yn achos allforio i Wladwriaeth yr AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC7 sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl.

Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 19909

Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, wedi eu haddasu fel bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

a

adran 2 (ystyr estynedig gwerthiant, ac yn y blaen);

b

adran 3 (rhagdybiaeth mai gan bobl y bwriedir i'r bwyd gael ei fwyta);

c

adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);

ch

adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dilys) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;

d

adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs cynnal busnes);

dd

adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

e

adran 33(1) (rhwystro swyddogion, ac yn y blaen);

f

adran 33(2), wedi ei haddasu fel bod rhaid dehongli'r cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath fel y'i crybwyllwyd yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

ff

adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

g

adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;

ng

adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

h

adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu yn ddidwyll).

Dirymu a diwygio canlyniadol10

1

Dirymir y Rheoliadau canlynol drwy hyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru):

a

Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 19768;

b

Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Diwygio) 19829.

2

Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru)—

a

hepgorir is-baragraff (a) yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II);

b

hepgorir paragraff (2) yn rheoliad 49 (dirymu a diwygio);

c

yn Atodlen 3 (enwau generig mewn rhestr o gynhwysion) mewnosodir yng ngholofn 3 (amodau defnyddio'r enw generig) o'r darn sy'n ymwneud â surop glwcos y geiriau canlynol—

  • The generic name may not be used where the glucose syrup contains fructose in a proportion of greater than 5% on a dry matter basis

3

Hepgorir y darnau canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 yn narpariaethau'r Rheoliadau a nodir isod, i'r graddau y mae'r Rheoliadau'n gymwys i Gymru—

a

yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 198210, yn Atodlen 1;

b

yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 198511), yn yr Atodlen, Rhan I;

c

yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 199012, yn Atodlen 1, Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3, Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;

ch

yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforio) 199113, yn Atodlen 1, Rhan I;

d

yn Rheoliadau Bwyd (Eithriadau'r Lluoedd) (Dirymu) 199214, yn yr Atodlen, Rhan I;

dd

yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 199515, yn Atodlen 9;

e

yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 199916), yn rheoliad 14(1);

f

yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 200217, yn rheoliad 9(2).

4

Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 199518), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, hepgorir paragraff (2) yn rheoliad 12.

5

Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—

a

hepgorir paragraff (4) yn rheoliad 10;

b

yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yn lle'r cyfeiriad at “Directive 73/437/EEC” rhoddir cyfeiriad at “Directive 2001/111/EC”.

6

Yn Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 200119, yn rheoliad 5(1)(c), yn lle'r cyfeiriad at Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 rhoddir cyfeiriad at Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003.

Darpariaeth drosiannol11

Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir os bydd yn profi —

a

bod y bwyd dan sylw wedi cael ei farcio neu ei labelu cyn 12 Gorffennaf 2004, a

b

na fyddai'r materion sy'n berthnasol i'r tramgwydd honedig yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 fel yr oeddynt yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199820

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1CYNHYRCHION SIWGR PENODEDIG A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Rheoliad 2

Colofn 1

Colofn 2

Disgrifiadau Neilltuedig

Cynhyrchion Siwgr Penodedig

1

Semi-white sugar

Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol:

  1. a

    nid yw'r polareiddio yn llai na 99.5°Z

  2. b

    nid yw'n cynnwys mwy na 0.1% o siwgr gwrthdro o ran pwysau

  3. c

    nid yw'n colli mwy na 0.1% o ran pwysau ar ôl ei sychu

2

Sugar neu white sugar

Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol:

  1. a

    nid yw'r polareiddio yn llai na 99.7°Z

  2. b

    nid yw'n cynnwys mwy na 0.04% o siwgr gwrthdro o ran pwysau

  3. c

    nid yw'n colli mwy na 0.06% o ran pwysau ar ôl ei sychu

  4. ch

    nid yw'r math o liw yn fwy na naw pwynt, wedi ei bennu yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 2

3

Extra-white sugar

Mae gan y cynnyrch yr un nodweddion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2(a), (b) ac (c) yn yr Atodlen hon ac nad yw cyfanswm y pwyntiau a bennir yn ôl darpariaethau paragraffau 2 i 4 o Atodlen 2 yn fwy na wyth, ac nid yn fwy:

  • na phedwar o ran y math o liw,

  • na chwech o ran cynnwys mwynau,

  • na thri o ran y lliw yn y toddiant

4

Sugar solution

Toddiant dyfrllyd swcros gyda'r nodweddion canlynol:

  1. a

    nid yw'r sylwedd sych yn llai na 62% o ran pwysau

  2. b

    nid yw'n cynnwys mwy na 3% o siwgr gwrthdro (cymhareb ffrwctos i ddecstros = 1.0 ± 0.2) o ran pwysau'r sylwedd sych

  3. c

    nid yw'r mwynau dargludedd yn fwy na 0.1% o ran pwysau'r sylwedd sych, wedi ei bennu yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 2

  4. ch

    nid yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 45 o unedau ICUMSA

5

Invert sugar solution

Toddiant dyfrllyd swcros wedi ei wrthdro yn rhannol drwy hydrolysis, nad siwgr gwrthdro yw'r gyfran fwyaf ohono, gyda'r nodweddion canlynol:

  1. a

    nid yw'r sylwedd sych yn llai na 62% o ran pwysau

  2. b

    nid yw'n cynnwys mwy na 3% o siwgr gwrthdro (cymhareb ffrwctos i ddecstros = 1.0 ± 0.1) ond heb fod yn fwy na 50% o ran pwysau'r sylwedd sych

  3. c

    nid yw'r mwynau dargludedd yn fwy na 0.4% o ran pwysau'r sylwedd sych, wedi ei bennu yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2

6

Invert sugar syrup

Toddiant dyfrllyd swcros, wedi ei grisialu ai peidio, sydd wedi ei wrth-droi yn rhannol drwy hydrolysis, y mae'n rhaid iddo gynnwys mwy na 50% o siwgr gwrthdro (cyniferydd ffrwctos/decstros = 1.0 ± 0.1), o ran pwysau'r sylwedd sych, ond y mae'n rhaid fel arall bodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 5(a) ac (c) yn yr Atodlen hon.

7

Glucose syrup

Toddiant dyfrllyd sacaridau maethol wedi ei buro a'i grynhoi, sydd wedi ei gael o starts neu inswlin neu'r ddau, gyda'r nodweddion canlynol:

  1. a

    nid yw'r sylwedd sych yn llai na 70% o ran pwysau

  2. b

    nid yw'r decstros cyfwerth yn llai nag 20% o'r sylwedd sych o ran pwysau ac wedi ei fynegi fel D-glwcos

  3. c

    nid yw'r mwynau wedi eu sylffadu yn fwy nag 1% o'r sylwedd sych o ran

8

Dried glucose syrup

Surop glwcos wedi ei sychu yn rhannol, gydag o leiaf 93% sylwedd sych o ran pwysau, ond rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 7(b) ac (c) yn yr Atodlen hon.

9

Dextrose neu dextrose monohydrate

D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu sy'n cynnwys un molecwl o ddwr crisialu, gyda'r nodweddion canlynol:

  1. a

    decstros (D-glwcos) heb fod yn llai na 99.5% o sylwedd sych o ran pwysau

  2. b

    sylwedd sych heb fod yn llai na 90% o ran pwysau

  3. c

    mwynau wedi eu sylffadu heb fod yn fwy na 0.25% o sylwedd sych o ran pwysau

10

Dextrose neu dextrose anhydrous

D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu nad yw'n cynnwys dŵ r crisialu, gyda o leiaf 98% o sylwedd sych o ran pwysau, ond y mae'n rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 9(a) ac (c) yn yr Atodlen hon.

11

Fructose

D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu gyda'r nodweddion canlyniadol:

  • yn cynnwys o leiaf 98% o ffrwctos

  • yn cynnwys ar y mwyaf 0.5% o glwcos

  • ni chollir mwy na 0.5% o ran pwysau ar ôl ei sychu

  • mwynau dargludedd heb fod yn fwy na 0.1% o ran pwysau wedi ei bennu yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 2

Nodiadau:

  1. 1

    Ceir defnyddio'r disgrifiad neilltuedig “sugar” neu “white sugar” fel ymadrodd arall ar gyfer y disgrifiad neilltuedig “extra-white sugar” yn achos y cynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod.

  2. 2

    Yn achos surop siwgr gwrthdro sy'n cynnwys crisialau yn y toddiant, rhaid ychwanegu'r ymadrodd goleddfu “crystallised” at ddisgrifiad y cynnyrch.

  3. 3

    Os bydd cynnyrch siwgr penodedig a ddisgrifir ym mharagraff 7 neu 8 uchod yn cynnwys mwy na 5% o ffrwctos ar sail sylwedd sych, rhaid i'r disgrifiad neilltuedig fod naill ai yn “glucose-fructose syrup” neu “fructose-glucose syrup”, neu naill ai yn “dried glucose-fructose syrup” neu “dried fructose-glucose syrup” yn ôl y digwydd er mwyn adlewyrchu pa un yw'r gyfran fwyaf, y glwcos ynteu'r ffrwctos.

  4. 4

    Ceir rhoi ymadroddion goleddfu a ddefnyddir yn gyffredin ar y cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraffau 1 i 11 uchod, yn ogystal â'r disgrifiad neilltuedig ar yr amod na fydd hynny yn debygol o gamarwain y defnyddiwr o'i herwydd.

  5. 5

    Ceir defnyddio'r disgrifiad “white” mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 4 uchod os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu yn unol â dull y Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr (“ICUMSA”) wedi ei osod ym mharagraff 3 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/6921.

  6. 6

    Ceir defnyddio'r disgrifiad “white” mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraff 5 a 6 uchod os nad oes mwy na 0.1% o fwynau dargludedd ac os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu fel y'i gosodir ym mharagraff 1 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69.

  7. 7

    Caiff cynhyrchion siwgr penodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 88/344/EEC ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-Wladwriaethau sy'n ymwneud â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd22 neu Gyfarwyddeb y Cyngor 89/107 ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-Wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd a awdurdodir i'w defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl.23

ATODLEN 2DULLIAU DADANSODDI

1

Dull 1 yw'r dull o bennu faint a gollir wrth sychu siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn, a siwgr claerwyn.

2

Y dull o bennu math o liw siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn yw dull Sefydliad Brunswick dros Dechnoleg Amaethyddol a'r Diwydiant Siwgr fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 2, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.5 o unedau.

3

Y dull o bennu faint o fwynau a gynhwysir mewn siwgr claerwyn, toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro, surop siwgr gwrthdro a ffrwctos yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 1, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.0018% o fwynau.

4

Y dull o bennu'r lliw mewn toddiant siwgr claerwyn a thoddiant siwgr yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 3 o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibeion pennu'r nifer o bwyntiau at ddibenion paragraff 3 o Atodlen 1, mae un pwynt yn cyfateb i 7.5 o unedau.

5

Dull 2 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad a decstros neu ddecstros anhydrus.

6

Dull 3 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro.

7

Dull 4 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr lledwyn.

8

Dull 5 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn.

9

Dull 7 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro.

10

Dull 9 yw'r dull o bennu faint o fwynau wedi eu sylffadu a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad, a decstros neu ddecstros anhydrus.

11

Dull 10 yw'r dull o bennu i ba raddau y mae siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn wedi eu polareiddio.

12

At ddibenion yr Atodlen hon—

a

mae cyfeiriadau at Ddulliau 1, 2, 3, 4, 5, 7, 9 a 10 yn gyfeiriadau at y Dulliau a bennwyd gan y Rhif au hynny yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 79/796/EEC24 sy'n gosod dulliau dadansoddi'r Gymuned ar gyfer profi siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl, fel y'i darllennir ar y cyd â chyflwyniad yr Atodiad hwnnw;

b

ystyr “ICUMSA” yw'r Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53) ac eithrio Erthygl 2.2 sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion bach sydd wedi eu pecynnu ymlaen llaw. Maent yn dirymu a disodli Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976, fel y'u diwygiwyd, mewn cysylltiad â Chymru.

Mae'r Rheoliadau—

a

yn pennu diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig i gynhyrchion siwgr penodedig penodol (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);

b

yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 3);

c

cyfyngu ar ddisgrifiadau neilltuedig fel na cheir eu defnyddio ond ar gyfer y cynhyrchion siwgr penodol y maent yn berthnasol iddynt (rheoliad 4);

ch

pennu'r gofynion labelu i gynhyrchion o'r fath (rheoliad 5);

d

pennu'r dull o farcio neu labelu drwy gymhwyso darpariaethau penodedig Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 6);

dd

pennu cosb, awdurdodau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) a Chytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforion (rheoliadau 7 ac 8);

e

cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9);

f

dirymu'r Rheoliadau blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 10 ac 11). Un effaith o'r dirymu a geir yn rheoliad 10(1)(a) ac o beidio ag ailddeddfu'r ddarpariaeth a ddirymwyd yno yw y bydd Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt.

Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Ceir copïau o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.