- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 2
| Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
| Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Dynodedig |
Yn y disgrifiadau a restrir yn eitemau 1 i 5 isod — (a) os caiff y cynnyrch ei weithgynhyrchu o fath unigol o ffrwyth rhoddir enw'r ffrwyth hwnnw yn lle'r gair “fruit”; (b) yn ddarostyngedig i amod (c), os caiff y cynnyrch ei weithgynhyrchu o ddau fath o ffrwyth neu fwy (ac eithrio'r defnydd o naill ai sudd lemon neu sudd lemon dwysedig neu'r ddau os yw hyn yn unol â'r awdurdodiad a ddisgrifir ym mharagraff 4 o Atodlen 3 ategir y disgrifiad neilltuedig gan enwau'r ffrwythau a ddefnyddir, mewn trefn ddisgynnol o'r cyfaint (wedi'i gyfrifo fel sudd neu biwrî dwysedig) o'r sudd neu'r piwrî a gynhwysir o bob un math o ffrwyth; ac (c) os yw'r cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu o dri math o ffrwyth neu fwy, yna os nad ategwyd y disgrifiad neilltuedig fel y mae'n ofynnol gan amod (b) ategir ef, ar y llaw arall, gyda'r geiriau “several fruits” neu gan eiriau tebyg, neu gan y nifer o fathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd. | |
1. Fruit juice | Y cynnyrch eplesiadwy ond na chafodd ei eplesu a gafwyd o ffrwyth sy'n iach ac aeddfed, yn ffres neu wedi'i gadw drwy ei oeri, o un math neu fwy nag un math a gymysgwyd ynghyd, y mae ganddo hynodrwydd lliw, blas a chyflas nodweddiadol sudd y ffrwyth y daw ohono;
|
2. Concentrated fruit juice | Y cynnyrch a geir o sudd ffrwythau o un math neu fwy drwy dynnu'n ffisegol gyfran benodol o'i gynnwys dŵ r. Os bwriedir y cynnyrch ar gyfer ei yfed neu ei fwyta'n uniongyrchol rhaid tynnu o leiaf 50% o gyfran y cynnwys dŵ r. |
3. Fruit juice from concentrate | Y cynnyrch a geir wrth roi yn ôl, mewn sudd ffrwythau dwysedig, ddŵ r a echdynnwyd o'r sudd hwnnw yn ystod y broses ddwyso, a thrwy adfer y cyflasau ac, os yw hynny'n briodol, y mwydion a'r celloedd a gollwyd o'r sudd ond a adferwyd yn ystod y broses o gynhyrchu'r sudd ffrwythau o dan sylw neu'r sudd ffrwythau o'r un math;
|
4. Dehydrated neu powdered fruit juice | Y cynnyrch a geir o sudd ffrwythau o un math neu fwy drwy dynnu'n ffisegol ei holl gynnwys dŵ r. |
5. Fruit nectar | Cynnyrch eplesiadwy ond na chafodd ei eplesu a geir wrth ychwanegu dŵ r (mewn swm nad yw'n fwy na 20% o gyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig) ac unrhyw un neu fwy o'r canlynol — (a) siwgrau, neu (b) melysyddion, neu (c) mêl,
Os un neu fwy o fricyll neu o ffrwythau a restrir yn Rhan II a III o Atodlen 4 yw'r math o ffrwyth a ddefnyddir, gellir gweithgynhyrchu'r cynnyrch heb ychwanegu unrhyw siwgrau, melysyddion neu fêl. |
Rheoliad 2(2)(a)
1. Ffrwythau, o unrhyw fath heblaw tomatos.
2. Piwrî ffrwythau, sef y cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a geir drwy hidlo'r rhan fwytadwy o'r ffrwyth cyfan neu'r ffrwyth wedi'i bilio heb dynnu'r sudd ohono.
3. Piwrî ffrwythau dwysedig, sef y cynnyrch a geir o'r pwrî ffrwythau drwy dynnu cyfran benodol o'i gynnwys dŵ r.
4. Siwgrau, sef —
(a)wrth baratoi neithdar ffrwythau —
siwgrau fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriadwyd i bobl eu bwyta (2);
surop ffrwctos;
siwgrau sy'n deillio o ffrwythau;
(b)wrth baratoi sudd ffrwythau o ddwysfwyd —
siwgrau fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 2001/111/EC a enwyd;
surop ffrwctos;
(c)wrth baratoi sudd ffrwythau —
unrhyw siwgr a ganiateir ym mharagraff (b) uchod o ran sudd ffrwythau o ddwysfwyd ar yr amod ei fod yn cynnwys llai na 2% o ddŵ r.
5. Mêl, sef y cynnyrch a ddiffinnir fel “honey” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC mewn perthynas â mêl(3).
6. Mwydion neu gelloedd, sef —
mewn perthynas â ffrwythau sitrws, y codennau sudd a geir o'r endocarp;
mewn perthynas ag unrhyw ffrwythau eraill, y cynhyrchion a geir o rannau bwytadwy o'r ffrwyth heb dynnu'r sudd ohonynt.
Rheoliad 2(2)(b)
1. Ceir ychwanegu fitaminau a mwynau at unrhyw gynnyrch dynodedig.
2. Mewn sudd grawnwin ceir adfer halwynau o asidau tartarig.
3. At sudd ffrwythau, sudd ffrwythau dwysedig, sudd ffrwythau o ddwysfwyd, a sudd ffrwythau dadhydradedig neu bowdr, heblaw unrhyw sudd ffrwythau a baratowyd o rawnwin neu ellyg, ceir ychwanegu siwgrau —
(a)at ddibenion rheoleiddio blas asidig, mewn swm (a fynegir fel mater sych) nad yw'n fwy na 15g y litr o sudd;
(b)at ddibenion melysu, mewn swm (a fynegir fel mater sych) nad yw'n fwy na 150g y litr o sudd;
nid yw cyfanswm y siwgrau a ychwanegir felly at y naill ddiben neu'r llall i fod yn fwy na 150g y litr o sudd.
4. Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, at ddibenion rheoleiddio blas asidig, ceir ychwanegu —
(a)sudd lemon, neu
(b)sudd lemon dwysedig, neu
(c)sudd lemon a sudd lemon dwysedig ill dau,
(a fynegir fel asid sitrig anhydrus), nid yw cyfanswm y sudd hwnnw a ychwanegir i fod yn fwy na 3g y litr o'r cynnyrch.
5. Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, ceir ychwanegu deuocsid carbon.
6. Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, ceir ychwanegu unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl(4).
Rheoliad 2(2)(d)
1. Prosesau echdynnu mecanyddol.
2. Y prosesau ffisegol arferol (sef y rheiny a gynhwysir yn y disgrifiad hwnnw yn Atodiad I, Rhan II, pwynt 2, i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy'n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion eraill tebyg a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl) a chan gynnwys, wrth gynhyrchu sudd ffrwythau dwysedig heblaw'r sudd a gynhyrchir o rawnwin, echdynnu dŵ r mewn-lein, neu dryledu rhannau bwytadwy o'r ffrwyth.
3. Wrth gynhyrchu sudd grawnwin pan sylffadwyd y grawnwin â deuocsid sylffwr, dadsylffadu drwy ddull ffisegol, ar yr amod nad yw cyfanswm y sudd grawnwin gorffenedig yn fwy na 10 mg y litr o sudd.
4. Ensymau pectolytig.
5. Ensymau proteolytig.
6. Ensymau amylolytig.
7. Gelatin bwytadwy.
8. Taninau.
9. Bentonit.
10. Erogel silicon.
11. Siarcol.
12. Cyfryngau cynorthwyo hidlo a chyfryngau gwaddodi sy'n gemegol anadweithiol, gan gynnwys perlit, diatomit wedi'i olchi, seliwlos, polyamid annhoddadwy, polyfynilpolypyrolidon, a pholystyren, sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddebau'r Gymuned ar ddeunyddiau a gwrthrychau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(5).
13. Cymhorthion arsugno cemegol anadweithiol sydd yn cydymffurfio â Chyfarwyddebau'r Gymuned a enwyd ac y defnyddir hwy i leihau cynnwys limonoid a naringin mewn sudd sitrws heb effeithio'n arwyddocaol ar gynnwys glwcosidau limonoisd, asid, siwgrau (gan gynnwys oligosacaridau) neu fwynau mewn sudd o'r fath.
Rheoliad 2(2)(e)
| Isafswm cynnwys sudd, piwrî neu sudd a phiwrî (% yn ôl cyfaint y cynnyrch gorffenedig) | |
|---|---|
Nodiadau: 1. Yn achos cynnyrch a gafodd ei baratoi o gymysgedd o fathau o ffrwythau, caiff yr Atodlen hon ei darllen fel pe bai'r isafsymiau a bennir ar gyfer yr amryw fathau o ffrwyth y sonnir amdanynt neu y cyfeirir atynt ynddi yn cael eu lleihau yn gymesur â'r symiau cymharol o'r mathau o ffrwythau a ddefyddir. | |
| I. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau â sudd asidig annymunol yn eu cyflwr naturiol | |
| Ffrwyth y dioddefaint | 25 |
| Quito naranjillos | 25 |
| Cyrains duon | 25 |
| Cyrains gwynion | 25 |
| Cyrains cochion | 25 |
| Eirin Mair | 30 |
| Aeron myrafnwydd | 25 |
| Eirin tagu | 30 |
| Eirin | 30 |
| Quetsches | 30 |
| Criafol | 30 |
| Egroes | 40 |
| Ceirios sur | 35 |
| Ceirios eraill | 40 |
| Llus | 40 |
| Eirin ysgaw | 50 |
| Mafon | 40 |
| Bricyll | 40 |
| Mefus | 40 |
| Mwyar Mair/mwyar duon | 40 |
| Llugaeron | 30 |
| Afalau cwins | 50 |
| Lemonau a leimiau | 25 |
| Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn | 25 |
| II. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau sy'n isel mewn asid, yn fwydiog neu'n annymunol iawn yn eu cyflwr naturiol | |
| Mangos | 25 |
| Bananas | 25 |
| Gwafas | 25 |
| Papaias | 25 |
| Lytshis | 25 |
| Azeroles (Merys Neapolitanaidd) | 25 |
| Micasau sur | 25 |
| Afalau cwstard | 25 |
| Afalau siwgwr | 25 |
| Pomgranadau | 25 |
| Ffrwythau cashiw | 25 |
| Eirin Sbaen | 25 |
| Wmbw | 25 |
| Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn | |
| III. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau sy'n dymunol yn eu cyflwr naturiol | |
| Afalau | 50 |
| Gellyg | 50 |
| Eirin gwlanog | 50 |
| Ffrwthau sitrws heblaw lemonau a leimiau | 50 |
| Pinafalau | 50 |
| Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn | 50 |
OJ Rhif L237, 10.9.94, t.3, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 96/83/EC (OJ Rhif L48, 19.2.97, t.16).
OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.
OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47.
OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.
Cyfarwyddeb y Cyngor 89/109/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau mewn perthynas â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd OJ Rhif L40, 11.2.1989 a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18 yw'r Cyfarwyddebau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: