Search Legislation

Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Labelu a disgrifio cynnyrch dynodedig

5.  Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai —

(a)ei fod, yn ddarostyngedig i baragraff (ch)(i), wedi'i farcio neu wedi'i labelu â disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch;

(b)yn achos sudd ffrwythau, sudd ffrwythau dwysedig, sudd ffrwythau o ddwysfwyd neu o sudd ffrwythau dadhydradedig neu bowdr, a felyswyd drwy ychwanegu siwgrau, yr ychwanegir y gair “sweetened” neu'r geiriau “with added sugar” at y disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch hwnnw, a bod disgrifiad o'r fath neu enw arall yn cael ei ddilyn gan ddatganiad (wedi'i gyfrifo fel mater sych, a'i fynegi mewn gramiau fesul litr) o fwyafswm y siwgr a ychwanegwyd;

(c)yn achos sudd ffrwythau, sudd ffrwythau dwysedig neu sudd ffrwythau o ddwysfwyd yr ychwanegwyd mwydion neu gelloedd ar wahân i, neu'n ychwanegol at, y mwydion neu'r celloedd a echdynnwyd yn wreiddiol o'r cynnyrch hwnnw, fod ei labelu'n cynnwys datganiad o ychwanegiad o'r fath;

(ch)yn achos —

(i)cymysgedd o sudd ffrwythau a sudd ffrwythau o ddwysfwyd sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r un disgrifiad neilltuedig “fruit juice” (neu ddisgrifiad arall o'r fath y mae'n ofynnol ei gael yn lle'r disgrifiad “fruit juice” yn unol â'r amodau sy'n rhagflaenu Colofn 1 (disgrifiadau neilltuedig) yn Atodlen 1), neu

(ii)neithdar ffrwythau a gafwyd yn rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig,

bod ei labelu yn dwyn y geiriau “partially made from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “partially made from concentrates”, bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;

(d)yn achos neithdar ffrwythau a gafwyd yn rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig, y mae ei labelu yn dwyn y geiriau “made with concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “made with concentrates”, a bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;

(dd)yn achos neithdar ffrwythau, mae ei labelu yn dwyn datganiad o'r isafswm o sudd ffrwythau, neu biwrî ffrwythau, neu gymysgedd o sudd ffrwythau a phiwrî ffrwythau, ei fod yn cynnwys, gyda'r geiriau “fruit content :[x] % minimum” (yn lle “[x]” mewnosoder y ffigur priodol) yn ymddangos yn yr un cylch golwg â'r disgrifiad neilltuedig; ac

(e)yn achos sudd ffrwythau dwysedig na fwriadwyd ar gyfer ei gyflenwi i'r defnyddiwr olaf, ei fod yn dwyn datganiad ar y pecyn sydd amdano, ar label sydd wedi'i gysylltu â'r pecyn sydd amdano, neu mewn dogfen sydd gydag ef, o bresenoldeb y canlynol a'r swm ohonynt sydd ynddo —

(i)siwgrau ychwanegol,

(ii)sudd lemon ychwanegol, neu

(iii)cyfryngau asideiddio fel a ganiateir gan Gyfarwyddeb 95/2/EC.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources