- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003, a dônt i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru'n unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw'r ystyr sydd iddo yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw gynnyrch coco neu siocled a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1, fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn i'r Atodlen honno ac unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 3 ac Atodlen 2 sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw; ac ystyr “cynnyrch siocled dynodedig” a “chynnyrch coco dynodedig” yw unrhyw gynnyrch o'r fath sydd yn gynnyrch siocled neu'n gynnyrch coco yn y drefn honno;
ystyr “Cytundeb AEE” (“EEA Agreement”) yw Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(1) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, fel y'i haddaswyd gan y Protocol(2) a lofnodwyd ar 17 Mawrth 1993;
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”)yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —
at ddibenion ailwerthu,
at ddibenion sefydliad arlwyo, neu
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig rhywbeth ar werth neu ei ddatgelu ar gyfer ei werthu neu ei gael yn eich meddiant i'w werthu a dehonglir “gwerthiant ” (“sale”) yn unol â hynny;
ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”)yw Gwladwriaeth sy'n un o Bartïon Contractio Cytundeb AEE;
mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu a phrosesu neu drin o unrhyw fath;
ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(3);
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) lle, wrth gynnal busnes, y caiff bwyd ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; a
nid yw “sylweddau bwytadwy eraill” (“other edible substances”) yn cynnwys brasterau llysiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu lenwad unrhyw gynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o eitem 7 neu o eitem 10(a) o Atodlen 1;
(2) Caiff unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif ei ddehongli fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ceir ychwanegu brasterau llysiau, heblaw saim coco, a bennir yn Atodlen 2 at y cynhyrchion siocled hynny a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o Atodlen 1.
(2) Ni chaiff ychwanegyn yn unol â pharagraff (1) fod yn fwy na 5 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, ar ôl tynnu cyfanswm pwysau unrhyw sylweddau bwytadwy eraill a ddefnyddir yn unol â Nodyn 1 o Atodlen 1, heb leihau isafswm cynnwys y saim coco neu gyfanswm y solidau coco powdr.
4. Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
5. Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label, pa un a yw ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, os yw'r label yn ddisgrifiad neilltuedig neu'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig, neu os yw'r label yn dwyn neu'n cynnwys disgrifiad neilltuedig neu rywbeth sy'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg i ddisgrifiad neilltuedig onid yw —
(a)y bwyd hwnnw'n gynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;
(b)y disgrifiad hwnnw, neu'r peth hwnnw sy'n deillio ohono neu'r gair hwnnw'n cael eu defnyddio mewn cyd-destun sydd yn dangos yn benodol neu'n awgrymu'n glir nad yw'r sylwedd y mae'n cyfeirio ato ond yn un o gynhwysion y bwyd hwnnw; neu
(c)bod y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy'n deillio ohono neu'r gair hwnnw yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn benodol neu'n awgrymu'n glir nad yw'r bwyd hwnnw'n gynnyrch dynodedig ac nad yw'n cynnwys cynnyrch dynodedig.
6.—(1) Heb ragfarnu Rhan II o Reoliadau 1996 yn gyffredinol, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig onid yw'r manylion canlynol wedi'u marcio arno neu ar label ynghlwm wrtho —
(a)yn ddarostyngedig i baragraffau (2)(a) a (3) isod, ddisgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch hwnnw;
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 7, yn achos cynnyrch siocled dynodedig sydd, yn unol â rheoliad 3, yn cynnwys brasterau llysiau heblaw saim coco, ddatganiad amlwg a hawdd ei ddarllen sy'n dweud “contains vegetable fats in addition to cocoa butter”;
(c)lle y defnyddir y geiriau “milk chocolate” yn ddisgrifiad neilltuedig neu yn addasiad o'r disgrifiad neilltuedig o gynnyrch siocled dynodedig, dangoser ar y cynnyrch beth yw cynnwys solidau llaeth powdr ar ffurf “milk solids:…% minimum”, ar yr amod —
(i)o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 4(a) o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr a ddangosir yn llai na 14 y cant; a
(ii)o ran cynnyrch siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 5 o Atodlen 1, nad yw'r cynnwys solidau llaeth powdr yn llai nag 20 y cant;
(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn achos cynnyrch dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(c), 2(d), 2(e), 3, 4, 5, 8 neu 9 o Atodlen 1, dangoser beth yw cyfanswm cynnwys solidau coco powdr ar ffurf “cocoa solids…% minimum”;
(d)yn achos cynnyrch coco a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(b) neu 2(e), dangoser beth yw'r cynnwys saim coco.
(2) Pan werthir cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 7 a 10 o Atodlen 1 mewn pecyn amrywiaeth —
(a)ceir rhoi, yn lle'r disgrifiad neilltuedig, “assorted chocolates” neu “assorted filled chocolates” neu enw tebyg; a
(b)caiff y rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol gan Reoliadau 1996 eu nodi ar fwyd neu ar label bwyd fod yn un rhestr o gynhwysion ar gyfer yr holl gynhyrchion yn y pecyn amrywiaeth.
(3) At y disgrifiadau neilltuedig “chocolate”, “milk chocolate” a “couverture chocolate” ceir ychwanegu gwybodaeth neu ddisgrifiadau sy'n ymwneud â meini prawf ansawdd ar yr amod bod y cynnyrch yn cynnwys —
(a)yn achos y disgrifiad neilltuedig “chocolate”, dim llai na chyfanswm o 43 y cant o solidau coco powdr, gan gynnwys dim llai na 26 y cant o saim coco;
(b)yn achos y disgrifiad neilltuedig “milk chocolate”, dim llai na chyfanswm o 30 y cant o solidau coco powdr a dim llai na 18 y cant o solidau llaeth powdr a gafwyd drwy ddadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl laeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu laeth sgim, neu hufen, neu a gafwyd o hufen, menyn neu fraster llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, yn cynnwys dim llai na 4.5 y cant o fraster llaeth;
(c)yn achos y disgrifiad neilltuedig “couverture chocolate”, dim llai nag 16 y cant o solidau coco powdr di-fraster.
(4) Caiff cyfanswm cynnwys solidau coco y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(ch) uchod ei nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar label y cynnyrch ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau sylweddau bwytadwy eraill y darparwyd ar eu cyfer yn Nodyn 1 o Atodlen 1 ond heb dynnu i ffwrdd bwysau unrhyw gynhwysyn a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 yn un o gynhwysion y cynnyrch hwnnw neu bwysau unrhyw fraster llysiau a ychwanegir yn unol â rheoliad 3.
7.—(1) Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â'r dull o farcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol gan reoliad 6 o'r Rheoliadau hyn eu nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar ei label fel pe baent yn fanylion y mae'n ofynnol gan Reoliadau 1996 eu nodi ar fwyd neu ar ei label.
(2) Bydd yr wybodaeth y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(b) o reoliad 6 ei nodi ar gynnyrch siocled dynodedig neu ar ei label —
(a)yn yr un maes gwelediad â'r rhestr o gynhwysion y mae'n ofynnol eu nodi ar y cynnyrch neu ei label gan Reoliadau 1996;
(b)yn gyfan gwbl ar wahân i'r rhestr honno;
(c)mewn llythrennau trwm nad ydynt yn llai o faint na'r llythrennau a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhestr; ac
(ch)wedi'i lleoli yn agos at y disgrifiad neilltuedig, a allai ymddangos hefyd mewn man arall ar yr hyn a farciwyd neu ar y label.
8.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 5 neu 6 yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn yn ei ardal ac yn eu gweithredu.
9. Mewn unrhyw achosion yn ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir—
(a)bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn cysylltiad ag ef wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio i wlad a chanddi ddeddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b)yn achos allforio i Wladwriaeth yr AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â chynhyrchion siocled a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(4).
10. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(c)adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth redeg busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r math a grybwyllir yn yr is-adran fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(ff)adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;
(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a
(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
11.—(1) Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II) caiff is-baragraff (b) ei hepgor.
(2) Caiff y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976(5) eu hepgor (i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru)
(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982(6), yn Atodlen 1;
(b)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(7), yn Atodlen 1 Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3 Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;
(c)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(8)), yn Atodlen 1, Rhan I;
(ch)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymiadau) 1992(9), yn Atodlen 1 Rhan I;
(d)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(10)), yn Atodlen 9;
(dd)yn Rheoliadau 1996, yn rheoliad 49(4)(a) ac Atodlen 9;
(e)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(11), yn rheoliad 14(1);
(f)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001(12), yn rheoliad 9(2).
(3) Yn Atodlen 9 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) caiff y cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982(13)) ei hepgor.
(4) I'r graddau y mae'r Rheoliadau y maent yn ymddangos ynddynt yn gymwys i Gymru, yn lle'r cyfeiriadau canlynol i Gyfarwyddeb 73/241/EEC(14) caiff cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2000/36/EC(15)) eu rhoi —
(a)yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(16), yn Atodlen 2;
(b)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(17), yn Atodlen 3 ac Atodlen 7.
(5) Dirymir drwy hyn Reoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976 a Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru).
12. Mewn unrhyw achos mewn cysylltiad â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir —
(a)marciwyd neu labelwyd y bwyd o dan sylw cyn 3 Awst 2003, a
(b)ni fyddai'r materion yr honnir eu bod yn dramgwydd, wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976 fel yr oedd y Rheoliadau yn union cyn dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(18)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: