- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
CADWRAETH PYSGOD MÔR
Wedi'u gwneud
26 Tachwedd 2003
Yn dod i rym
30 Tachwedd 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Cadwraeth) 1967(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1967 p.84. Amnewidiwyd adran 5(1) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) adran 22(1). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77) adran 22(1), Atodlen 1, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86) adran 9(1), Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, Erthygl 4, Atodlen 2, paragraff 43(2)(b). Gweler adran 22(2) i gael y diffiniad o “the Ministers” at ddibenion adran 5 a 15(3); cafodd adran 22(2) ei diwygio gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, Erthygl 4, paragraff 43(12) o Atodlen 2. Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan Ddeddf 1967 i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru (a ddiffinir yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) fel ei fod i gynnwys “the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea”); mewn perthynas â dyfroedd y tu hwnt i Gymru mae'r swyddogaethau hyn yn parhau i gael eu harfer gan y Gweinidogion. Mae erthygl 3(1) ac Atodlen 1 o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cyfamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) yn darparu bod y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adrannau 5 a 15(3) o Ddeddf 1967 i'w harfer gan y Gweinidogion, yn gydamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â'r canlynol: cychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn parth yr Alban; a chychod pysgota'r Alban o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i barth yr Alban. Yn rhinwedd erthygl 2(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Physgodfeydd) 2000 (O.S. 2000/1812) trosglwyddwyd unrhyw swyddogaethau a oedd yn weddill gan Ysgrifenyddion Gwladol Cymru a'r Alban o dan adrannau 5 a 15(3) o Ddeddf 1967 i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, ac yn eu tro (ynghyd â swyddogaethau eraill) i'r Ysgrifennydd Gwladol gan O.S. 2002/794.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: