Search Legislation

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2003

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

2.—(1Er gwaethaf diddymu'r adrannau hynny o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a'r paragraffau hynny o Atodlen 3 iddi a geir yng ngholofn (1) isod mae'r rheoliadau cyfatebol yng ngholofn (2) i barhau mewn grym hyd 31 Mawrth 2004, ac ar ôl hynny i'r graddau y caiff y darpariaethau perthnasol eu heithrio gan baragraff 2(2)(a) i (ff) o'r Atodlen hon:

(1)(2)
Adran 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) 1990(1)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1991(2)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1992(3)
Adrannau 40(5)(a), 49(3), 51(7), 59(3) a (5), 61(4), 64(2), 66(1)(a) a (6) a pharagraffau 10, 15(1)(a) ac 18(1) o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1995(4))
Adrannau 40(5)(b), 42(4)(a), 49(3), 51(7), 58(9)(b), 59(3) a (5), 64(2), 66(1)(a) a pharagraffau 10 a 15(1)(a) o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio Rhif 2) 1995(5)
Adrannau 48(5), 49(3), 58(9)(b), 59(3), (4) a (5), 61(4), 64(2), 66(1)(a) a pharagraffau 10 a 15(1)(a) o Atodlen 3.Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1996(6))
Adrannau 40(5), 42(4), 48(1)(c) a (5), 49(3), 51(7), 57(1)(c), 58(4)(b) a (9), 59(3) i (5), 61(4), 64(2) a (5), 66(1)(a) a (6) a pharagraffau 10, 11(2), 15(1)(a), 17, 18(1) a 20 o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997(7)
Adrannau 48(1)(c), 49(3), 59(4) a 61(4)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) 1997(8)
Adrannau 48(1)(c), 59(4) a pharagraffau 15(1)(a) a 20 o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) 1998(9)
Adran 48(5)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Rhif 2) 1998(10)
Adrannau 40(5)(a), 58(9)(a) a 59(3) a (5) a pharagraff 15(1)(a) o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio Rhif 3) 1998(11))
Adrannau 59(4) a (5)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 1999(12)
Adrannau 40(5)(a), 48(1)(c), 49(2), 59(4) a (5), 61(4) a 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 1999(13))
Adran 49(3)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000 (14)
Adran 61(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2001(15)
Adran 58(9) a 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2002(16)
Adran 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002(17)
Adran 49(2)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003(18)
Adran 42(4)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2003(19))

(2) (aMae adrannau 39 (cymhwyso Rhan 4) a 66 (dehongli Rhan 4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, ar ac ar ôl 1 Ebrill 2004, at ddibenion y darpariaethau trosiannol a'r eithriadau ym mharagraff (b) i (ff) isod a hynny fel pe na bai'r adrannau hynny wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(b)Mae adrannau 40 i 42 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dibenion cyfalaf a chodi gwariant ar gyfrif refeniw) i barhau i fod yn effeithiol mewn cysylltiad â gwariant a dynnir gan awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2004 fel pe na bai'r adrannau hynny wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(c)Mae unrhyw gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan adran 40(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dibenion cyfalaf) —

(i)Mewn cysylltiad â gwariant y gall yr awdurdod dan sylw ei drin yn wariant at ddibenion cyfalaf; a

(ii)Lle y mae'r cyfnod a bennir o dan adran 40(6)(d) yn gorffen ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004,

i barhau i fod yn effeithiol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 fel pe bai'n gyfarwyddyd a gafodd ei wneud o dan adran 16(2)(b) o'r Ddeddf (“capital expenditure”) ac, yn unol â hynny, caiff yr awdurdod dan sylw drin y gwariant y cyfeirir ato yn y cyfarwyddyd yn wariant cyfalaf at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.

(ch)Mae adrannau 54 i 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cymeradwyaethau credyd) i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw gymeradwyaeth credyd sylfaenol neu gredyd atodol a roddwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer blwyddyn ariannol, neu gyfnod, yn cychwyn cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Deddf.

(d)Mae adrannau 58, 59 a 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (derbyniadau cyfalaf) i barhau i fod yn effeithiol cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (balans derbyniad cyfalaf y gellir ei ddefnyddio), a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(dd)Mae adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw benderfyniad a gafodd ei wneud o dan yr adran honno mewn cysylltiad â'r rhan y gellir ei defnyddio o dderbyniadau cyfalaf yr awdurdod sydd i'w cymhwyso cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'i diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(e)Mae Rhan 4 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (isafswm y ddarpariaeth refeniw) i barhau i fod yn effeithiol, cyn Hydref 2004, at ddibenion adran 63(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i osod symiau penodol o'r neilltu yn ddarpariaeth i gwrdd â rhwymedigaethau credyd), a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'i diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(f)Mae is-adrannau (1) a (5) o adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw benderfyniad o dan yr adran honno a gafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2003, a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(ff)Mae adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (gwybodaeth) i barhau i fod yn effeithiol, ar ac ar ôl 1 Ebrill 2004, at ddibenion unrhyw wybodaeth y mae ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei hangen at unrhyw bwrpas penodol ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) i'r graddau y mae'n berthnasol i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi ei diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources