Erthygl 3

ATODLEN 2Darpariaethau Trosiannol ac Eithriadau

Gwariant dewisol awdurdodau lleol

1.  Er gwaethaf diddymu adran 137(4AA) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), mae erthygl 2(2) o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000(1) i barhau mewn grym.

Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

2.—(1Er gwaethaf diddymu'r adrannau hynny o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a'r paragraffau hynny o Atodlen 3 iddi a geir yng ngholofn (1) isod mae'r rheoliadau cyfatebol yng ngholofn (2) i barhau mewn grym hyd 31 Mawrth 2004, ac ar ôl hynny i'r graddau y caiff y darpariaethau perthnasol eu heithrio gan baragraff 2(2)(a) i (ff) o'r Atodlen hon:

(1)(2)
Adran 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) 1990(2)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1991(3)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1992(4)
Adrannau 40(5)(a), 49(3), 51(7), 59(3) a (5), 61(4), 64(2), 66(1)(a) a (6) a pharagraffau 10, 15(1)(a) ac 18(1) o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1995(5))
Adrannau 40(5)(b), 42(4)(a), 49(3), 51(7), 58(9)(b), 59(3) a (5), 64(2), 66(1)(a) a pharagraffau 10 a 15(1)(a) o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio Rhif 2) 1995(6)
Adrannau 48(5), 49(3), 58(9)(b), 59(3), (4) a (5), 61(4), 64(2), 66(1)(a) a pharagraffau 10 a 15(1)(a) o Atodlen 3.Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1996(7))
Adrannau 40(5), 42(4), 48(1)(c) a (5), 49(3), 51(7), 57(1)(c), 58(4)(b) a (9), 59(3) i (5), 61(4), 64(2) a (5), 66(1)(a) a (6) a pharagraffau 10, 11(2), 15(1)(a), 17, 18(1) a 20 o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997(8)
Adrannau 48(1)(c), 49(3), 59(4) a 61(4)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) 1997(9)
Adrannau 48(1)(c), 59(4) a pharagraffau 15(1)(a) a 20 o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) 1998(10)
Adran 48(5)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Rhif 2) 1998(11)
Adrannau 40(5)(a), 58(9)(a) a 59(3) a (5) a pharagraff 15(1)(a) o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio Rhif 3) 1998(12))
Adrannau 59(4) a (5)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 1999(13)
Adrannau 40(5)(a), 48(1)(c), 49(2), 59(4) a (5), 61(4) a 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 1999(14))
Adran 49(3)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000 (15)
Adran 61(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2001(16)
Adran 58(9) a 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2002(17)
Adran 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002(18)
Adran 49(2)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003(19)
Adran 42(4)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2003(20))

(2) (aMae adrannau 39 (cymhwyso Rhan 4) a 66 (dehongli Rhan 4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, ar ac ar ôl 1 Ebrill 2004, at ddibenion y darpariaethau trosiannol a'r eithriadau ym mharagraff (b) i (ff) isod a hynny fel pe na bai'r adrannau hynny wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(b)Mae adrannau 40 i 42 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dibenion cyfalaf a chodi gwariant ar gyfrif refeniw) i barhau i fod yn effeithiol mewn cysylltiad â gwariant a dynnir gan awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2004 fel pe na bai'r adrannau hynny wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(c)Mae unrhyw gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan adran 40(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dibenion cyfalaf) —

(i)Mewn cysylltiad â gwariant y gall yr awdurdod dan sylw ei drin yn wariant at ddibenion cyfalaf; a

(ii)Lle y mae'r cyfnod a bennir o dan adran 40(6)(d) yn gorffen ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004,

i barhau i fod yn effeithiol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 fel pe bai'n gyfarwyddyd a gafodd ei wneud o dan adran 16(2)(b) o'r Ddeddf (“capital expenditure”) ac, yn unol â hynny, caiff yr awdurdod dan sylw drin y gwariant y cyfeirir ato yn y cyfarwyddyd yn wariant cyfalaf at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.

(ch)Mae adrannau 54 i 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cymeradwyaethau credyd) i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw gymeradwyaeth credyd sylfaenol neu gredyd atodol a roddwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer blwyddyn ariannol, neu gyfnod, yn cychwyn cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Deddf.

(d)Mae adrannau 58, 59 a 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (derbyniadau cyfalaf) i barhau i fod yn effeithiol cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (balans derbyniad cyfalaf y gellir ei ddefnyddio), a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(dd)Mae adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw benderfyniad a gafodd ei wneud o dan yr adran honno mewn cysylltiad â'r rhan y gellir ei defnyddio o dderbyniadau cyfalaf yr awdurdod sydd i'w cymhwyso cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'i diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(e)Mae Rhan 4 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (isafswm y ddarpariaeth refeniw) i barhau i fod yn effeithiol, cyn Hydref 2004, at ddibenion adran 63(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i osod symiau penodol o'r neilltu yn ddarpariaeth i gwrdd â rhwymedigaethau credyd), a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'i diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(f)Mae is-adrannau (1) a (5) o adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw benderfyniad o dan yr adran honno a gafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2003, a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(ff)Mae adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (gwybodaeth) i barhau i fod yn effeithiol, ar ac ar ôl 1 Ebrill 2004, at ddibenion unrhyw wybodaeth y mae ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei hangen at unrhyw bwrpas penodol ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) i'r graddau y mae'n berthnasol i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi ei diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

Cyllid cyfalaf — Rhan 1 o'r Ddeddf

3.—(1Caiff unrhyw drefniant credyd —

(a)o fewn yr ystyr sydd iddo yn adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (trefniadau credyd);

(b)sydd mewn bodolaeth yn union cyn 1 Ebrill 2004; ac

(c)a fyddai, pe byddai wedi'i wneud ar 1 Ebrill 2004, yn drefniant credyd o fewn yr ystyr sydd iddo yn adran 7 o'r Ddeddf (“credit arrangements”),

ei drin fel pe bai'n drefniant credyd at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf (cyllid cyfalaf etc.).

(2Mae'r rhan y gellir ei defnyddio o unrhyw dderbyniad cyfalaf —

(a)o fewn yr ystyr sydd iddo yn adran 60(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (balans derbyniadau cyfalaf y gellir ei ddefnyddio); a

(b)nas cymhwysir gan yr awdurdod lleol mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2004,

i'w thrin fel pe bai'n dderbyniad cyfalaf o fewn yr ystyr sydd i hynny yn adran 9 o'r Ddeddf (“capital receipt”) at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.

Gweinyddu ariannol

4.  Nid yw adran 27 o'r Ddeddf (cyfrifo cyllideb: adroddiad ar arian wrth gefn nad yw'n ddigonol) i fod yn gymwys mewn cysylltiad â chyfrifo at ddiben unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2005.

Cyfrif refeniw tai

5.  Er i baragraff 33(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf ddod i rym, bydd unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan eitem 9 yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ac a fydd yn effeithiol am flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004, yn parhau i fod yn effeithiol, fel pe bai wedi'i wneud o dan eitem 9 fel y'i hamnewidiwyd gan baragraff 33(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

Cadw ardrethi lleol yn yr ardal leol

6.  Er i adran 70 o'r Ddeddf ddod i rym, bydd y darpariaethau ym mharagraffau 5(6) a (6A) o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41), fel y maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar neu cyn 31 Mawrth 2005, yn parhau i weithredu fel pe na bai'r diwygiadau i'r paragraffau hynny wedi'u gwneud.