ATODLEN 2Darpariaethau Trosiannol ac Eithriadau
Gwariant dewisol awdurdodau lleol1
Er gwaethaf diddymu adran 137(4AA) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), mae erthygl 2(2) o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 20003 i barhau mewn grym.
Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 19892
1
Er gwaethaf diddymu'r adrannau hynny o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a'r paragraffau hynny o Atodlen 3 iddi a geir yng ngholofn (1) isod mae'r rheoliadau cyfatebol yng ngholofn (2) i barhau mewn grym hyd 31 Mawrth 2004, ac ar ôl hynny i'r graddau y caiff y darpariaethau perthnasol eu heithrio gan baragraff 2(2)(a) i (ff) o'r Atodlen hon:
(1) | (2) |
---|---|
Adran 66(1)(a) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) 19904 |
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 19915 | |
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 19926 | |
Adrannau 40(5)(a), 49(3), 51(7), 59(3) a (5), 61(4), 64(2), 66(1)(a) a (6) a pharagraffau 10, 15(1)(a) ac 18(1) o Atodlen 3 | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 19957) |
Adrannau 40(5)(b), 42(4)(a), 49(3), 51(7), 58(9)(b), 59(3) a (5), 64(2), 66(1)(a) a pharagraffau 10 a 15(1)(a) o Atodlen 3 | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio Rhif 2) 19958 |
Adrannau 48(5), 49(3), 58(9)(b), 59(3), (4) a (5), 61(4), 64(2), 66(1)(a) a pharagraffau 10 a 15(1)(a) o Atodlen 3. | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 19969) |
Adrannau 40(5), 42(4), 48(1)(c) a (5), 49(3), 51(7), 57(1)(c), 58(4)(b) a (9), 59(3) i (5), 61(4), 64(2) a (5), 66(1)(a) a (6) a pharagraffau 10, 11(2), 15(1)(a), 17, 18(1) a 20 o Atodlen 3 | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 199710 |
Adrannau 48(1)(c), 49(3), 59(4) a 61(4) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) 199711 |
Adrannau 48(1)(c), 59(4) a pharagraffau 15(1)(a) a 20 o Atodlen 3 | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) 199812 |
Adran 48(5) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Rhif 2) 199813 |
Adrannau 40(5)(a), 58(9)(a) a 59(3) a (5) a pharagraff 15(1)(a) o Atodlen 3 | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio Rhif 3) 199814) |
Adrannau 59(4) a (5) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 199915 |
Adrannau 40(5)(a), 48(1)(c), 49(2), 59(4) a (5), 61(4) a 66(1)(a) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 199916) |
Adran 49(3) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000 17 |
Adran 61(1)(a) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 200118 |
Adran 58(9) a 66(1)(a) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 200219 |
Adran 66(1)(a) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 200220 |
Adran 49(2) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 200321 |
Adran 42(4) | Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 200322) |
2
a
Mae adrannau 39 (cymhwyso Rhan 4) a 66 (dehongli Rhan 4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, ar ac ar ôl 1 Ebrill 2004, at ddibenion y darpariaethau trosiannol a'r eithriadau ym mharagraff (b) i (ff) isod a hynny fel pe na bai'r adrannau hynny wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.
b
Mae adrannau 40 i 42 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dibenion cyfalaf a chodi gwariant ar gyfrif refeniw) i barhau i fod yn effeithiol mewn cysylltiad â gwariant a dynnir gan awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2004 fel pe na bai'r adrannau hynny wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.
c
Mae unrhyw gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan adran 40(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dibenion cyfalaf) —
i
Mewn cysylltiad â gwariant y gall yr awdurdod dan sylw ei drin yn wariant at ddibenion cyfalaf; a
ii
Lle y mae'r cyfnod a bennir o dan adran 40(6)(d) yn gorffen ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004,
i barhau i fod yn effeithiol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 fel pe bai'n gyfarwyddyd a gafodd ei wneud o dan adran 16(2)(b) o'r Ddeddf (“capital expenditure”) ac, yn unol â hynny, caiff yr awdurdod dan sylw drin y gwariant y cyfeirir ato yn y cyfarwyddyd yn wariant cyfalaf at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.
ch
Mae adrannau 54 i 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cymeradwyaethau credyd) i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw gymeradwyaeth credyd sylfaenol neu gredyd atodol a roddwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer blwyddyn ariannol, neu gyfnod, yn cychwyn cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Deddf.
d
Mae adrannau 58, 59 a 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (derbyniadau cyfalaf) i barhau i fod yn effeithiol cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (balans derbyniad cyfalaf y gellir ei ddefnyddio), a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.
dd
Mae adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw benderfyniad a gafodd ei wneud o dan yr adran honno mewn cysylltiad â'r rhan y gellir ei defnyddio o dderbyniadau cyfalaf yr awdurdod sydd i'w cymhwyso cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'i diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.
e
Mae Rhan 4 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (isafswm y ddarpariaeth refeniw) i barhau i fod yn effeithiol, cyn Hydref 2004, at ddibenion adran 63(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i osod symiau penodol o'r neilltu yn ddarpariaeth i gwrdd â rhwymedigaethau credyd), a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'i diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.
f
Mae is-adrannau (1) a (5) o adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw benderfyniad o dan yr adran honno a gafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2003, a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.
ff
Mae adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (gwybodaeth) i barhau i fod yn effeithiol, ar ac ar ôl 1 Ebrill 2004, at ddibenion unrhyw wybodaeth y mae ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei hangen at unrhyw bwrpas penodol ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) i'r graddau y mae'n berthnasol i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi ei diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.
Cyllid cyfalaf — Rhan 1 o'r Ddeddf3
1
Caiff unrhyw drefniant credyd —
a
o fewn yr ystyr sydd iddo yn adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (trefniadau credyd);
b
sydd mewn bodolaeth yn union cyn 1 Ebrill 2004; ac
c
a fyddai, pe byddai wedi'i wneud ar 1 Ebrill 2004, yn drefniant credyd o fewn yr ystyr sydd iddo yn adran 7 o'r Ddeddf (“credit arrangements”),
ei drin fel pe bai'n drefniant credyd at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf (cyllid cyfalaf etc.).
2
Mae'r rhan y gellir ei defnyddio o unrhyw dderbyniad cyfalaf —
a
o fewn yr ystyr sydd iddo yn adran 60(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (balans derbyniadau cyfalaf y gellir ei ddefnyddio); a
b
nas cymhwysir gan yr awdurdod lleol mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2004,
i'w thrin fel pe bai'n dderbyniad cyfalaf o fewn yr ystyr sydd i hynny yn adran 9 o'r Ddeddf (“capital receipt”) at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.
Gweinyddu ariannol4
Nid yw adran 27 o'r Ddeddf (cyfrifo cyllideb: adroddiad ar arian wrth gefn nad yw'n ddigonol) i fod yn gymwys mewn cysylltiad â chyfrifo at ddiben unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2005.
Cyfrif refeniw tai5
Er i baragraff 33(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf ddod i rym, bydd unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan eitem 9 yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ac a fydd yn effeithiol am flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004, yn parhau i fod yn effeithiol, fel pe bai wedi'i wneud o dan eitem 9 fel y'i hamnewidiwyd gan baragraff 33(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.
Cadw ardrethi lleol yn yr ardal leol6
Er i adran 70 o'r Ddeddf ddod i rym, bydd y darpariaethau ym mharagraffau 5(6) a (6A) o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41), fel y maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar neu cyn 31 Mawrth 2005, yn parhau i weithredu fel pe na bai'r diwygiadau i'r paragraffau hynny wedi'u gwneud.