2003 Rhif 2961 (Cy.278) (C.108)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216, (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 20021, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2003.

2

Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig.

3

Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Diwrnodau penodedig

4

1 Rhagfyr 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

5

4 Rhagfyr 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

6

1 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

7

9 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan IV o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLEN

Erthyglau 4, 5, 6 a 7

RHAN IDarpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2003

Y ddarpariaeth

Y pwnc

Adran 46

Fforymau Derbyn

Adran 188 i'r raddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 16 isod

Arolygiadau ysgolion

Atodlen 16, paragraffau 1 i 3

Diwygiadau i Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996

RHAN IIDarpariaethau sy'n dod i rym ar 4 Rhagfyr 2003

Y ddarpariaeth

Y pwnc

Adran 41

Penderfyniad cyllideb benodedig yr AALl

Adran 42

Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i osod lleiafswm cyllideb ysgolion

Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod

Diddymiadau

Atodlen 21,

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Paragraff 100 (1) a (2),

Paragraff 113 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym ac eithrio is-baragraffau (a), (b) ac (f),

Paragraff 125,

Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —

Diddymiadau

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19983,

Adran 46,

Yn adran 143, y cofnod mewn perthynas â “local schools budget”.

RHAN IIIDarpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2004

Y ddarpariaeth

Y pwnc

Adrannau 157 i 171

Rheoleiddio ysgolion annibynnol

Adrannau 172 i 174

Ysgolion annibynnol: plant ag anghenion addysgol arbennig

Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod

Diddymiadau

Atodlen 21

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Paragraff 122(b),

Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —

Diddymiadau

Deddf Pensiynau ac Ymddeoliad Barnwyr 19934, yn Atodlen 5, y cyfeiriad at “Chairman of an Independent Schools Tribunal”, yn Atodlen 7, paragraff 5(5) (xxvii),

Deddf Addysg 1996, adrannau 464 i 478, adran 537(9) a (10), yn adran 568, yn is-adran (2) y geiriau “section 468, 471(1) and 474”, yn is-adran (3) y geiriau o “section 354(6)” hyd at “401” ac is-adran (4), yn adran 580, y cofnodion sy'n ymwneud â “register, registration; registered school; Registrar of Independent Schools”, Atodlen 34,

Deddf Arolygiadau Ysgolion 19965, yn adran 10, is-adran (3)(e) ac, yn is-adran (4B), paragraff (f) a'r “or” blaenorol, yn adran 11(5), ym mharagraff (a), “e”, yn adran 20(3), paragraff (b) a'r “or” blaenorol, yn adran 21, yn is-adran (4), paragraff (b) a'r “or” blaenorol, yn Atodlen 3, yn y diffiniad o “appropriate authority” ym mharagraff 1, ym mharagraff (c), “e”,

Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 19986, yn adran 3, is-adran (3)(c),

Deddf Safonau Gofal 20007, Adran 100, yn Atodlen 4, paragraff 24.

RHAN IVDarpariaethau sy'n dod i rym ar 9 Ionawr 2004

Y ddarpariaeth

Y pwnc

Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isod

Plant sydd wedi'u gwahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy

Adran 52(1) i (6)

Gwaharddiadau

Adran 207 awdurdodau addysg lleol

Adennill: addasu rhwng

Adran 208

Adennill: achosion arbennig

Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod

Diddymiadau

Atodlen 4, paragraffau 1 a 4 neu fwy

Plant sydd wedi'u gwahardd yn barhaol o ddwy ysgol

Atodlen 21,

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Paragraff 1 ond i'r graddau y mae'n ymwneud â lwfansau ar gyfer panelau apêl yn erbyn gwaharddiad,

Paragraff 2 ac eithrio is-baragraff (a),

Paragraff 22 ond i'r graddau y mae'n amnewid paragraff 15(b) newydd o Atodlen 1 i Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992,

Paragraff 27(1) a (2),

Paragraff 112 ac eithrio i'r graddau y mae'n mewnosod y diffiniad o “foundation governor”,

Paragraff 113 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym ac eithrio is-baragraffau (b) ac (f),

Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —

Diddymiadau

Deddf Llywodraeth Leol 19748, adran 25(5)(b),

Deddf Addysg 19969, adran 492, Yn Atodlen 1, paragraff 7,

Deddf Addysg 199710. Yn Atodlen 7, paragraff 36,

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 64 i 68, Atodlen 18.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Rhagfyr 2003, 4 Rhagfyr 2003, 1 Ionawr 2004 a 9 Ionawr 2004 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau I, II, III a IV o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen —

  • Mae adran 46 yn mewnosod adran 85A newydd o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”), yn ei gwneud yn ofynnol i AALlau sefydlu fforymau derbyn yn unol â rheoliadau sydd i'w gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”). Bydd y fforymau yn cynghori AALlau ar faterion sy'n ymwneud â derbyniadau ysgol.

  • Mae adran 188 a pharagraffau 1 i 3 o Atodlen 16 yn diwygio Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Cymru roi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol am ansawdd arweinyddiaeth mewn ysgolion yng Nghymru a rheolaeth arnynt, gan gynnwys a ydyw'r adnoddau ariannol yn cael eu rheoli'n effeithiol. Mae'r wybodaeth hon hefyd i gael ei chynnwys mewn adroddiad gan arolygydd cofrestredig sy'n cynnal arolygiad o'r ysgol.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen —

  • Mae adran 41 yn mewnosod adran 45A newydd o Ddeddf 1998 sy'n ymwneud â threfniadau cyllido ar gyfer AALlau ac ysgolion. Cyflwynir diffiniadau newydd o “LEA budget” a “schools budget”. Bydd rheoliadau yn nodi'r manylion.

  • Mae adran 42 yn mewnosod adrannau 45B a 45C newydd o Ddeddf 1998 sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i osod lleiafswm cyllideb ysgolion ar gyfer AALl os yw'r gyllideb a gynigir gan yr AALl yn annigonol neu os yw'r AALl wedi methu hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'i gyllideb arfaethedig.

  • Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen —

  • Mae adrannau 157 i 171 yn darparu ar gyfer system newydd i reoleiddio ysgolion annibynnol. Bydd rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 157 yn nodi'r safonau y bydd angen i ysgolion annibynnol eu bodloni. Mae adran 158 yn darparu ar gyfer parhau cofrestr o ysgolion annibynnol sydd i'w gadw gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae adran 159 yn ei gwneud yn dramgwydd i redeg ysgol annibynnol na chofrestrwyd mohoni ac mae'n rhoi hawl i'r Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru fynd ar dir ac i adeiladau.

  • Mae adran 160 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys gan berchennog ysgol mewn cais i gofrestru a darparu ar gyfer y Prif Arolygydd i arolygu'r ysgol. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu o dan adran 161 a ydyw'r ysgol yn bodloni safonau'r ysgolion annibynnol oc os ydyw bydd yn cofrestru'r ysgol. O dan adran 162 gall y Cynulliad Cenedlaethol dynnu ysgol o'r gofrestr os bu newid perchennog, newid cyfeiriad neu newid penodedig mewn perthynas â'r disgyblion neu'r llety, ac na chafodd y newid hwnnw ei gymeradwyo. Mae adran 162 hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer cymeradwyaeth. Mae adrannau 163 a 164 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag arolygu ysgolion annibynnol ac adroddiadau arolygu. Mae adran 165 yn darparu os nad yw ysgol yn bodloni safonau'r ysgolion annibynnol gall y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'r ysgol o'r gofrestr neu ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol baratoi a gweithredu cynllun gweithredu. Mae adrannau 166 a 167 yn darparu ar gyfer hawl apelio i dribiwnlys a sefydlir o dan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, yn erbyn gwrthodiad i gymeradwyo newid perthnasol, penderfyniad i dynnu ysgol o'r gofrestr, gorchymyn i gymryd camau penodedig neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn o'r fath. Mae'r adrannau yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud apêl o'r fath a phwerau'r tribiwnlys.

  • Mae adran 168 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am ysgol yn cael ei darparu. Mae adran 169 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i dynnu ysgol o'r gofrestr os oes unrhyw berson yn gwneud gwaith yn yr ysgol yn groes i gyfarwyddyd neu orchymyn. Mae adran 170 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyflwyno hysbysiadau ac mae adran 171 yn cynnwys diffiniadau.

  • Mae adran 172 yn diwygio'r diffiniad o ysgol annibynnol yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) er mwyn iddo yn awr gynnwys ysgol y mae ganddi o leiaf un disgybl â datganiad o anghenion addysgol arbennig neu sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Mae adran 173 yn diwygio adran 327 o Ddeddf 1996 i roi hawl mynediad i AALlau i ysgolion annibynnol i fonitro'r ddarpariaeth a wneir i blant ag anghenion addysgol arbennig. Mae adran 174 yn diwygio adran 347 o Deddf 1996 i ddarparu, pan roddir cydsyniad i leoliad plentyn mewn ysgol annibynnol, bod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei fodloni bod lle ar gael yn yr ysgol.

  • Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan IV o'r Atodlen —

  • Mae adran 51 ac Atodlen 4, paragraffau 1 a 4, yn diwygio adran 87 o Ddeddf 1998 (sy'n tynnu'r gofyniad i dderbyn plentyn a gafodd ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy). Mae adran 87 o Ddeddf 1998, fel y'i diwygiwyd, yn darparu na ddylid ystyried bod plentyn wedi'i wahardd yn barhaol pe bai corff llywodraethu neu banel gwahardd wedi cyfarwyddo bod y plentyn i'w dderbyn yn ôl i'r ysgol, pe bai wedi bod yn ymarferol ac yn briodol i wneud hynny.

  • Mae adran 52(1) i (6) yn rhoi'r pŵer i bennaeth ysgol a gynhelir, a'r athro neu'r athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion, i wahardd disgybl ar sail disgyblu. Mae'r gweithdrefnau mewn perthynas â gwahardd, derbyn yn ôl ac apelau i'w nodi mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

  • Mae adran 207 yn ailddeddfu adran 492 o Ddeddf 1996 a darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau mewn perthynas ag adennill rhwng awdurdodau. Mae adran 208 yn trosglwyddo'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau o dan adran 493 o Ddeddf 1996, sy'n ymwneud ag adennill mewn perthynas â disgyblion wedi'u gwahardd yn barhaol.

  • Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adrannau 14 i 17

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 18(2)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 19(6) (yn rhannol)

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adrannau 27 a 28

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 29

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 40 (yn rhannol)

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 43

1 Tachwedd 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 49

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 54 i 56

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 60 i 64

1 Awst 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 75 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 97 a 98

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 99(1)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 100 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 101 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 103

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 105 i 107

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 108 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 109

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 111 i 118

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 119

1 Hydref 2002

2002/2439

Adran 120(1) a (3) i (5)

1 Hydref 2002

2002/2439

Adran 120(2)

1 Awst 2003

2003/1667

Adran 121

1 Hydref 2002

2002/2439

Adran 122 i 129

1 Awst 2003

2003/1667

Adran 130 (yn rhannol)

1 Hydref 2002

2002/2439

(yn llawn)

1 Awst 2003

2003/1667

Adran 131

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 132 a 133

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 134 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 135

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 136 i 140

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 141

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 142 i 144

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 145

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 146 (yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 148 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 149

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 150

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 151(2)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 152 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 178(1) a (4)

1 Awst 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 179 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 180

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 181 i 185

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 188 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 189 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 191 i 194

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 195 (yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

(yn llawn)

1 Medi 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 196

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Adran 197

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 199

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 200

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adran 201 (yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Adrannau 202 a 203

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 206

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Adran 215 (yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

1 Awst 2003

2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667

(yn rhannol)

1 Medi 2003

2002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185)

Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol)

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Atodlen 3, paragraffau 1 i 5

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Atodlen 5

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 11

1 Hydref 2002

2002/2439

Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7,

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Paragraff 12(1) a (2)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 8

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 16, paragraffau 4 i 9

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Paragraff 8 (yn rhannol),

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Paragraffau 13 i 15,

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18

1 Medi 2003

2002/3185 (Cy.301)

Atodlen 19

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Atodlen 20

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Atodlen 21 (yn rhannol)

1 Hydref 2002

2002/2439

(yn rhannol)

19 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

1 Awst 2003

2003/1667

(yn rhannol)

1 Medi 2003

2003/1718 (Cy.185)

Atodlen 22 (yn rhannol)

1 Hydref 2002

2002/2439

(yn rhannol)

9 Rhagfyr 2002

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

31 Mawrth 2003

2002/3185 (Cy.301)

(yn rhannol)

1 Awst 2003

2003/1718 (Cy.185)

(yn rhannol)

1 Medi 2003

2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439, O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667 ac O.S. 2003/2071.