xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2959 (Cy.277)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

18 Tachwedd 2003

Yn dod i rym

19 Tachwedd 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygidau Canlyniadol) (Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 19 Tachwedd 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn ôl eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.

Cyllido ysgolion a gynhelir

3.  Mae adran 45A o Ddeddf 1998, a fewnosodir gan adran 41(1)(4)), i fod yn effeithiol yn y cyfnod sy'n dod i ben yn union o flaen 1 Ebrill 2004 yn unig at ddibenion cyllido ysgolion mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

4.  Nid yw'r diwygiad a wneir gan adran 41(2)(5) i adran 45(2) o Ddeddf 1998 i fod yn gymwys mewn perthynas â chyfran cyllideb ysgol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2004.

5.  Er gwaethaf dwyn i rym y diddymiad o adran 46 o Ddeddf 1998 a'r diwygiadau canlyniadol i adrannau 49(4) a 143 o'r Ddeddf honno ac i adran 36 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(6) (a wnaed gan adrannau 41(3) a 215, a pharagraffau 100(1) a (2), 113 a 125 o Atodlen 21 a Rhan 3 o Atodlen 22(7)) nid yw—

(a)diddymiad adran 46 o Ddeddf 1998,

(b)amnewid “LEA budget or schools budget” yn lle “local schools budget” yn adran 49(4) o Ddeddf 1998,

(c)amnewid “section 45A(3)” yn lle “section 46(2)” yn y cofnod sy'n dechrau “individual schools budget” yn adran 143 o Ddeddf 1998,

(ch)diddymu'r cofnod sy'n ymwneud â chyllideb ysgolion lleol yn adran 143 o Ddeddf 1998, a

(d)amnewid “schools budget” a “Schools budget” yn lle “local schools budget” a “Local schools budget” yn is-adran (1)(a) a (3) o adran 36 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000,

i fod yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.

Gwaharddiadau

6.  Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 9 Ionawr 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y daw adran 52(11) i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau yn adran 52 (8)) at ysgol a gynhelir i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir fel y diffinnir “maintained school” yn adran 20(7) o Ddeddf 1998.

7.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os gwaherddir disgybl cyn 9 Ionawr 2004 gan bennaeth ysgol a gynhelir neu (yn ôl y digwydd) athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion.

(2Er gwaethaf dwyn i rym —

(a)adran 52(1) i (6), a

(b)diddymu adrannau 64 i 68 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 18 iddi(9),

mae'r darpariaethau canlynol, sef —

(i)adrannau 64 i 68 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 18 iddi, a

(ii)Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003(10),

i barhau i gael effaith, fel y bo'n briodol, mewn perthynas â gwaharddiad y mae paragraff (1) yn gymwys iddo.

Ysgolion annibynnol

8.—(1Er gwaethaf dwyn i rym adran 165(11), ni fydd yr adran honno (ac eithrio is-adrannau (1), (2), (12) a (13)) yn gymwys tan 1 Ionawr 2006 i unrhyw ysgol a gofrestrwyd dros dro yn unol ag adran 465(3) o Ddeddf 1996 ar 31 Rhagfyr 2003.

(2Er gwaethaf diddymu darpariaethau yn adrannau 10(3), (4B), 11(5), 20(3), 21(4) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(12)) a darpariaethau ym mharagraff 1 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, os dyfarnwyd contract o ganlyniad i wahoddiad i dendro o dan baragraff 2 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno cyn 1 Ionawr 2004 i arolygu ysgol annibynnol a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 347(1) o Ddeddf 1996 —

(a)caniateir cyflawni'r arolygiad yn unol â'r contract, a

(b)os cyflawnir yr arolygiad yn unol â'r contract, mae adran 10, a Phennod II o Ran 1 o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996, ac Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, i barhau i fod yn gymwys mewn perthynas â'r archwiliad hwnnw.

(3Er gwaethaf dwyn i rym adran 172(13), nid yw amnewid adran 463 o Ddeddf 1996 i fod yn gymwys tan 1 Medi 2004 mewn perthynas â chartref plant o fewn ystyr adran 1(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(14) os dyfarnwyd cais am gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i redeg y cartref plant cyn 1 Ionawr 2004.

Adennill

9.  Er gwaethaf dwyn i rym y diddymiad o adran 492 o Ddeddf 1996(15), yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 9 Ionawr 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y daw'r rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 207 i rym, mae Rheoliadau Addysg (Adennill Rhwng Awdurdodau) 1994(16) i barhau i gael effaith mewn perthynas â Chymru fel pe baent wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 207 ac fel pe rhoddwyd yn lle'r geiriau “the Secretary of State” yn rheoliad 3(2)(b) y geiriau “the National Assembly for Wales”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998

10.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998(17)) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) hepgorer y diffiniad o “qualified teacher” ac ar ôl y diffiniad o “school” rhodder y diffiniad canlynol —

“school teacher” has the meaning given by section 4 of the 1998 Act(18);.

(3Yn rheoliad 3(2) a (3) rhodder yn lle'r geiriau “qualified teacher” y geiriau “school teacher”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(19))

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Tachwedd 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud addasiadau i Ddeddf Addysg 2002 ac yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â'r ffaith bod darpariaethau'r Ddeddf yn cael eu dwyn i rym gan Orchymyn Ddeddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2003. Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Mae rheoliadau 3 i 5 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dwyn i rym adran 41 sy'n gwneud darpariaeth newydd mewn perthynas â chyllido ysgolion a gynhelir a phenderfynu cyllidebau. Mae'r darpariaethau newydd i fod yn effeithiol mewn perthynas yn unig â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dwyn i rym adran 52(1) i (6) sy'n ymwneud â gwahardd disgyblion. Hyd nes y daw adran 52(11) i rym (ac effaith yr is-adran fydd cynnwys ysgolion meithrin a gynhelir yn y diffiniad o ysgol a gynhelir), mae cyfeiriadau yn adran 52 at ysgol a gynhelir i fod yn effeithiol fel pe baent yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir fel y'i diffinnir yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”), nad ydyw'n cynnwys ysgol feithrin a gynhelir. Os gwaherddir disgybl cyn 9 Ionawr 2004 mae darpariaethau perthnasol Deddf 1998 a Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003 i barhau i fod yn effeithiol.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dwyn i rym Ran 10 o Ddeddf Addysg 2002 sy'n gosod system newydd ar gyfer rheoleiddio ysgolion annibynnol. Ni fydd y darpariaethau newydd sy'n ymwneud â chynlluniau gweithredu yn gymwys i ysgolion a gofrestrwyd dros dro o dan Ddeddf Addysg 1996 tan 1 Ionawr 2006. Os dyfarnwyd contract i arolygu ysgol annibynnol a gymeradwywyd o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 cyn 1 Ionawr 2004, gwneir darpariaeth sy'n caniatáu i'r arolygiad gael ei gyflawni o dan Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 yn hytrach nag o dan y system newydd. Ni fydd y diffiniad newydd o ysgol annibynnol (sy'n cynnwys ysgol ag un neu fwy o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig neu sy'n derbyn gofal) yn gymwys tan 1 Medi 2004 i gartref plant y cofrestrwyd person i'w redeg cyn 1 Ionawr 2004.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dwyn i rym adran 207 sy'n galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer adennill rhwng awdurdodau addysg lleol. Hyd nes y gwneir rheoliadau newydd o dan adran 207, mae Rheoliadau Addysg (Adennill Rhwng Awdurdodau) 1994 i barhau mewn grym.

Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998 fel y rhodder y term “school teacher” yn lle'r term “qualified teacher”. Daw hyn yn sgil dwyn i rym ar 19 Rhagfyr 2002 y diwygiadau a wneir gan Atodlen 21 i adrannau 1 a 4 o Ddeddf 1998.

(4)

Mae adran 41(1) i ddod i rym ar 4 Rhagfyr 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).

(5)

Addesir adran 41(2) gan reoliad 4 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002, O.S. 2002/3184 (Cy.300). Daw i rym ar 4 Rhagfyr 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).

(7)

Mae adrannau 41(3) a 215 (yn rhannol), a pharagraffau 100(1), (2), 113 (yn rhannol) a 125 o Atodlen 21 a Rhan 3 o Atodlen 22 (yn rhannol) i ddod i rym ar 4 Rhagfyr 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).

(8)

Mae adran 52 i ddod i rym yn rhannol ar 9 Ionawr 2004 yn rhinwedd O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).

(9)

Mae adrannau 64 i 68 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 18 iddi i'w diddymu gan adran 215 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 22 iddi ar 9 Ionawr 2004 (gweler O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).

(11)

Mae adran 165 i ddod i rym ar 1 Ionawr 2004 yn rhinwedd O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).

(12)

1996 p.57. Mae adrannau 10(3), (4B), 11(5), 20(3), 21(4), a pharagraff 1 o Atodlen 3 i'w diddymu yn rhannol gan adran 215(2) o Ddeddf 2002 a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi, ar 1 Ionawr 2004 (gweler O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108)).

(13)

Mae adran 172 i ddod i rym ar 1 Ionawr 2004 (gweler O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).

(14)

2000 p.14.

(15)

Mae adran 492 o Ddeddf 1996 i'w diddymu gan adran 215 o Ddeddf 2002, ac Atodlen 22 iddi ar 9 Ionawr 2004 (gweler O.S. 2003/2961 (Cy.278) (C.108).

(18)

Diwygiwyd adran 4 o Ddeddf 1998 gan adran 215(1) o Ddeddf 2002, a pharagraff 88 o Atodlen 21 iddi.

(19)

1998 p.38.