- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny (“Rheoliadau 1995”) yn ymestyn i Brydain Fawr yn ei chyfanrwydd.
2. I raddau helaeth iawn mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ganlyniad i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 3 Hydref 2002 sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (“y Rheoliad Cymunedol”, OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1) ac ar y Rheoliadu sy'n darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliad hwnnw mewn perthynas â Chymru, sef Rheoliadau Sgil-gynhyrchion (Cymru) Anifeiliaid 2003 (O.S. 2003/2756 (Cy.267)).
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1995 drwy wneud y canlynol —
(a)yn rheoliad 2(1) (dehongli), rhoi yn lle'r diffiniad o'r term “the 1999 Order” ddiffiniad o'r term “the 2003 Regulations”, gan roi yn lle'r diffiniad o'r term “approved premises” ddiffiniadau o'r termau “approved incineration plant” ac “approved rendering plant” ac ychwanegu diffiniad o'r term “the Community Regulation” (rheoliad 3);
(b)Yn rheoliad 5 (esemptiadau) —
(i)rhoi fersiwn ddiwygiedig o baragraff (1)(e) (sy'n pennu categori penodol o sgil-gynnyrch anifail nad yw Rheoliadau 1995 yn gymwys iddo (rheoliad 4(a))), a
(ii)ym mharagraff (2) dileu geiriau penodol yr oedd yr angen i'w dileu wedi'i esgeuluso mewn offeryn cynharach yn diwygio Rheoliadau 1995 ac yn rhoi yn lle'r cyfeiriadau at “the 1999 Order” gyfeiriadau at “the 2003 Regulations” (rheoliad 4(b));
(c)yn rheoliad 6 (staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn storfeydd oer, safleoedd torri, cyfleusterau prosesu helgig neu ladd-dai) rhoi fersiynau diwygiedig o baragraffau (2)(b)(iii) a (4) (sydd, o'u darllen gyda'i gilydd, yn pennu categori o sgil-gynnyrch anifail nad yw dyletswydd meddianwyr storfeydd oer, safleoedd torri, cyfleusterau prosesu helgig a lladd-dai i staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid, dyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw, yn gymwys iddo) (rheoliad 5);
(ch)yn rheoliad 7 (staenio sgil-gynhyrchion anifeliaid mewn safleoedd sgil-gynhyrchion anifeiliaid) rhoi fersiynau diwygiedig o baragraffau (2) a (3) (sydd, o'u darllen gyda'i gilydd, yn pennu categori o sgil-gynnyrch anifail nad yw dyletswydd meddianwyr safleoedd sgil-gynhyrchion anifeiliaid i staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid, dyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw, yn gymwys iddo) (rheoliad 6);
(d)yn rheoliad 9 (storio a phacio sgil-gynhyrchion anifeiliaid) rhoi fersiwn ddiwygiedig o baragraff (3) (sy'n darparu na chaniateir storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn storfeydd oer, safleoedd torri, cyfleusterau prosesu helgig neu ladd-dai os na chaiff amodau penodedig eu bodloni) (rheoliad 7); ac
(dd)yn rheoliad 10 (cyfyngu ar symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid) rhoi fersiwn ddiwygiedig o baragraff (2) (sy'n pennu categori o sgil-gynnyrch anifail nad yw'r gwaharddiad ar symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid o safleoedd sgil-gynhyrchion anifeiliaid, storfeydd oer, safleoedd torri, cyfleusterau prosesu helgig neu ladd-dai heb eu staeinio'n gyntaf, dyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw, yn gymwys iddo) (rheoliad 8).
4. Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: