xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Erthygl 2

YR ATODLENDosbarthiadau o leoedd tân esempt

Dosbarthiadau o leoedd tânAmodau
Y B9 Energy Wood Chip Gasifier Unit a gynhyrchir gan B9 Energy Biomass Limited, Unit 22, Northland Road Industrial Estate, Londonderry, Gogledd Iwerddon.

1.  Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dyddiedig 2002 ac y mae arnynt y cyfeirnod “001/B9ENERGY BIOMASS”.

2.  Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw sglodion o bren heb eu trin, ysgyrion o bren neu ddarnau bach o bren heb eu trin.

Modelau 110, 140, 180, 220, 280 a 350 o'r Mawera FU-RIA wedi'u cynhyrchu gan Mawera (UK) Limited, 31 Enterprise Industrial Park, Britannia Way, Caerlwytgoed, Swydd Stafford, Lloegr WS14 9UY.

1.  Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dyddiedig 31 Hydref 2002 ac y mae arnynt y cyfeirnod “098234-01”.

2.  Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw pren, cynhyrchion pren, gweddillion fforest, teneuon fforest, bwrdd sglodion MDF wedi'i orchuddio â melamin neu heb ei orchuddio, pren haenog, neu gynhyrchion pren cyfansawdd.