Search Legislation

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2727 (Cy.262)

AER GLÅN, CYMRU

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

23 Hydref 2003

Yn dod i rym

14 Tachwedd 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol(2), gan ei fod wedi'i fodloni y gall y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwyddau nad ydynt yn danwyddau awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 14 Tachwedd 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio o adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993

2.  Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd allyriannau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Hydref 2003

Erthygl 2

YR ATODLENDosbarthiadau o leoedd tân esempt

Dosbarthiadau o leoedd tânAmodau
Y B9 Energy Wood Chip Gasifier Unit a gynhyrchir gan B9 Energy Biomass Limited, Unit 22, Northland Road Industrial Estate, Londonderry, Gogledd Iwerddon.

1.  Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dyddiedig 2002 ac y mae arnynt y cyfeirnod “001/B9ENERGY BIOMASS”.

2.  Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw sglodion o bren heb eu trin, ysgyrion o bren neu ddarnau bach o bren heb eu trin.

Modelau 110, 140, 180, 220, 280 a 350 o'r Mawera FU-RIA wedi'u cynhyrchu gan Mawera (UK) Limited, 31 Enterprise Industrial Park, Britannia Way, Caerlwytgoed, Swydd Stafford, Lloegr WS14 9UY.

1.  Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr dyddiedig 31 Hydref 2002 ac y mae arnynt y cyfeirnod “098234-01”.

2.  Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw pren, cynhyrchion pren, gweddillion fforest, teneuon fforest, bwrdd sglodion MDF wedi'i orchuddio â melamin neu heb ei orchuddio, pren haenog, neu gynhyrchion pren cyfansawdd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn gwahardd yn gyffredinol ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Caiff Cynulliad Cenedaethol Cymru, trwy orchymyn wedi'i wneud o dan adran 21 o'r Ddeddf, esemptio dosbarthiadau penodedig o leoedd tân o ddarpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gellir eu defnyddio i losgi tanwyddau heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn eithrio o ddarpariaethau adran 20 y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu rhestru yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n cael eu rhestru yn ail golofn yr Atodlen honno.

(2)

Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources