- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU,
Wedi'u gwneud
21 Hydref 2003
Yn dod i rym
22 Hydref 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 79C a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 22 Hydref 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r personau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant neu sy'n darparu gofal dydd ar dir ac mewn adeiladau perthnasol yng Nghymru.
2. Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002(2) fel a ganlyn —
(a)rhodder yn lle rheoliad 4(3)(c)(i) “ac eithrio os yw paragraff (4) neu (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;”
(b)ar ôl rheoliad 4(3)(c) (iii) rhodder “(iv) os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2, 4 a 7 o Atodlen 2.”;
(c)yn lle rheoliad 4(5) rhodder “Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person sy'n gyfrifol wedi'i benodi”;
(ch)ar ôl rheoliad 4 rhodder —
4A.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig benodi unigolyn yn berson sydd yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd —
(a)os nad oes unrhyw berson sy'n gyfrifol am ddarparu gofal dydd; a
(b)os yw'r person cofrestredig yn gorff ac nad yw'r unigolyn cyfrifol yn berson addas neu os nad yw'n gyfrifol neu'n bwriadu bod yn gyfrifol o ddydd i ddydd am y ddarpariaeth gofal dydd yn llawn; neu
(c)os nad yw'r person cofrestredig yn berson addas neu os nad yw'n gyfrifol neu'n bwriadu bod yn gyfrifol o ddydd i ddydd am y ddarpariaeth gofal dydd yn llawn.
(2) Os yw'r person cofrestredig yn penodi person sy'n gyfrifol am ddarparu gofal rhaid iddo ar unwaith hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad pan fydd y person yn cymryd y cyfrifoldeb.
4B.—(1) Ni chaiff person weithredu fel y person sy'n gyfrifol am ddarparu gofal dydd onid yw'n addas i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn addas onid yw'r person yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3);
(3) Y gofynion yw bod y person —
(a)yn addas o ran gonestrwydd a chymeriad da i edrych ar ôl plant o dan wyth oed;
(b)yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i edrych ar ôl plant o dan wyth oed; ac
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person —
(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;
(iii)yn ychwanegol, os yw paragraff (4) yn gymwys, adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond na ddyroddwyd hi.”
(d)Yn rheoliad 5(1) ar ôl “person cofrestredig” rhodder “neu'r person sy'n gyfrifol”.
(dd)Yn rheoliad 5 ar ôl paragraff (3) rhodder —
“(4) Os yw'r person sy'n gyfrifol wedi'i benodi rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y person sy'n gyfrifol yn ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.”
(e)Yn rheoliad 6(1) ar ôl “person cofrestredig” rhodder “, y person sy'n gyfrifol”.
(f)Yn rheoliad 6(2) ar ôl “person cofrestredig” rhodder “neu'r person sy'n gyfrifol”;
(ff)Yn y testun Cymraeg o reoliad 21(1) yn lle “Rhaid i'r person cofrestredig” rhodder “Rhaid i'r person cofrestredig mewn cysylltiad â safleoedd perthnasol”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Hydref 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 i'w wneud yn ofynnol mewn amgylchiadau penodol fod yn rhaid i'r person cofrestredig benodi person i fod yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd. Rhaid i'r person hwn fodloni'r gofynion a bennir o ran ei addasrwydd.
1989 p.41; mewnosodwyd adran 79C gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: