2003 Rhif 2661 (Cy.257)

BWYD, CYMRU

Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw mewnforio Coed Anis penodol a draddodir o wledydd nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd yn golygu bellach bod risg o niwed i iechyd ar fin digwydd;

Yn awr, gan hynny, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac sydd bellach yn arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru, ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003 a daw i rym ar 17 Hydref 2003 a bydd yn gymwys i Gymru'n unig.

Dirymu2

Caiff Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 20022 ei ddirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/402) (Cy. 50) (“Gorchymyn 2002”), a oedd yn gwahardd mewnforio Coed Anis a Choed Anis Siapaneaidd i Gymru os o wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd yr oeddent yn cael eu hanfon onid oedd amodau arbennig yn cael eu bodloni. Rhoddodd Gorchymyn 2002 ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2002/75/EC sy'n pennu amodau arbennig ar fewnforio Coed Anis o drydydd gwledydd (OJ Rhif L33, 2.2.2002, t.31). Diddymwyd y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/602/EC (OJ Rhif L204, 13.8.2003, t.60).