Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2660 (Cy.256)(C.102)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003

Wedi'i wneud

14 Hydref 2003

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

(3ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;

(4ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2).

Y dyddiau a bennwyd ar gyfer darpariaethau ynglŷn â'r Cynghorau Iechyd Cymuned ac Arbedion

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) 20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym at bob diben —

(i)adran 1 ac Atodlen 1;

(ii)paragraffau 5, 14 ac 16 o Atodlen 3 ac adran 7(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hwy; a

(iii)adran 7(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 heblawr cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth lechyd Gwladol a Phroffesiynnau Gofal Iechyd 2002.

(2Dim ond ynglŷn â Chymru y mae'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn cael eu dwyn i rym.

(3Er gwaethaf diddymu Atodlen 7 i Ddeddf 1977, bydd Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996(3) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymdeithas y Cynghorau Iechyd Cymuned) 1977(4) yn parhau i gael effaith.

Y dyddiau a bennwyd ar gyfer darpariaethau ynglŷn â Chanolfan Iechyd Cymru

3.—(120 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi, ddod i rym at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig.

(21 Ebrill 2005 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 2, 3 a 7(1) o'r Ddeddf, ac Atodlenni 2 a 3 o'r Ddeddf heblaw paragraff 16 o Atodlen 3, ddod i rym at bob diben sy'n weddill.

Y dydd a bennwyd ar gyfer darpariaethau ynglyn â Phroffesiynau Iechyd Cymru a darpariaethau atodol a darpariaethau cyffredinol.

4.  20 Hydref 2003 yw'r dydd a bennwyd i adrannau 4, 5 a 6 o'r Ddeddf ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Hydref 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 (“y Ddeddf”).

Mae Erthygl 2 yn dwyn i rym adran 1 o'r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi. Mae'r rhain yn ymwneud â Chynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru. Mae'r cynghorau a sefydlwyd o dan adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd 1977 i barhau mewn bodolaeth a rhoddir pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â'u swyddogaethau. Yn ychwanegol, caiff y Cynulliad sefydlu corff statudol i gynghori a chynorthwyo Cynghorau Iechyd Cymuned ynglŷn â chyflawni eu swyddogaethau.

Bydd cynghorau cymuned yn Lloegr yn parhau i fodoli tan ddyddiad cychwyn adran 22 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.

Mae Erthygl 3 yn cychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig (ynghylch aelodaeth a swyddogaethau), adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi. Mae'r rhain yn ymwneud â Chanolfan Iechyd Cymru. Mae'r Ganolfan i'w sefydlu, gyda golwg ar ymgymryd â swyddogaethau ynghylch diogelu a gwella iechyd yng Nghymru, ar 1 Ebrill 2005 pan gychwynnir adran 2 a 3 ac Atodlen 2 at bob diben arall.

Ymhlith y darpariaethau a gychwynnir gan Erthygl 2 o'r Gorchymyn y mae darpariaethau ynglŷn â Phroffesiynau Iechyd Cymru. Mae adrannau 4 a 5 o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu corff a elwir Proffesiynau Iechyd Cymru ac i wneud darpariaeth i Broffesiynau Iechyd Cymru gyflawni swyddogaethau ynglŷn â phroffesiynau gofal iechyd a chymorth gofal iechyd.

Mae'r Gorchymyn yn cychwyn diwygiadau a diddymiadau canlyniadol hefyd.