- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 4
1. Nodau ac amcanion yr asiantaeth.
2. Natur y gwasanaethau y mae'r asiantaeth yn eu darparu.
3. Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.
4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparydd cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.
5. Ystod cymwysterau'r nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan yr asiantaeth, a'r mathau o sefydliadau y maent yn cael eu cyflenwi i weithio ynddynt.
6. Y weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol â rheoliad 18.
Rheoliadau 7(3), 9(2) a 12(2)
1. Prawf o bwy yw'r person, gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Naill ai —
(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n gysylltiedig ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(1), neu os yw'r swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o'r Ddeddf honno(2), tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 133(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno(3).
3. Dau dystlythyr, gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf nad oedd wedi para'n llai na thri mis.
4. Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd a oedd yn golygu gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.
5. Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
7. Mewn perthynas â nyrs y mae rheoliad 12(2) yn gymwys iddi, cadarnhad o'i chofrestriad cyfredol â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(4), gan gynnwys manylion am y Rhan o'r gofrestr y mae enw'r nyrs wedi'i gofrestru ynddi.
8. Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.
9. Gwiriad heddlu, sef adroddiad a luniwyd gan neu ar ran prif swyddog heddlu o fewn ystyr “chief officer” yn Neddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cofnodi, adeg llunio'r adroddiad, bob tramgwydd troseddol —
(a)yr oedd y person wedi'i gollfarnu o'i herwydd gan gynnwys collfarnau sydd wedi'u disbyddu o fewn ystyr “spent” yn Neddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(5) ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(6)); neu
(b)yr oedd y person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.
Rheoliad 12(1)
1. Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn.
2. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y perthynas agosaf.
3. Prawf o bwy yw'r person, gan gynnwys ffotograff diweddar.
4. Naill ai —
(a)os yw'r swydd y mae'r nyrs yn cael ei chyflenwi i'w chyflawni yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 113(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf hono.
5. Gwiriad heddlu, sef adroddiad a luniwyd gan neu ar ran prif swyddog heddlu o fewn ystyr “chief officer” yn Neddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cofnodi, adeg llunio'r adroddiad, bob tramgwydd troseddol —
(a)y caniateir eu ddatgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(7); neu
(b)yr oedd y person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.
6. Dau dystlythyr oddi wrth nyrsys neu broffesiynolion iechyd eraill, gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf fel nyrs nad oedd wedi para'n llai na thri mis.
7. Os yw'r nyrs wedi gweithio o'r blaen mewn swydd a oedd yn golygu gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rheswm pam y rhoes y gorau i weithio yn y swydd honno, ac eithrio os nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.
8. Tystiolaeth bod y nyrs yn medru Saesneg i raddau boddhaol, os oedd cymwysterau nyrsio'r nyrs wedi'u sicrhau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
9. Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.
10. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth a manylion unrhyw gyflogaeth gyfredol ac eithrio at ddibenion yr asiantaeth.
11. Cofnod o statws imwneiddio.
12. Cadarnhad o'i chofrestriad cyfredol â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, gan gynnwys manylion am y Rhan o'r gofrestr y mae'r nyrs wedi'i chofrestru ynddi.
13. Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.
Rheoliad 17
1. Copïau o'r holl gytundebau rhwng yr asiantaeth a'r nyrsys a gyflenwyd neu sydd i'w cyflenwi gan yr asiantaeth a thystiolaeth bod copi o unrhyw delerau ac amodau safonol wedi'i ddarparu gan yr asiantaeth i bob nyrs.
2. Manylion y tâl sy'n daladwy i bob nyrs sy'n cael ei chyflogi gan yr asiantaeth a'i hamodau gwaith.
3. Copïau o unrhyw ddatganiad a roddwyd i ddefnyddiwr gwasanaeth ac sy'n nodi cymwysterau a phrofiad perthnasol nyrs a gyflenwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth hwnnw.
4. Mynegai defnyddwyr gwasanaeth yn ôl trefn yr wyddor, gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a Rhif ffôn pob un ohonynt ac unrhyw rifau cyfresol a bennwyd ar eu cyfer.
5. Mynegai yn ôl trefn yr wyddor o'r nyrsys a gyflenwyd neu sydd ar gael i'w cyflenwi gan yr asiantaeth, gan gynnwys unrhyw Rhif au cyfresol a bennwyd ar eu cyfer.
6. Manylion pob cyflenwad nyrs i ddefnyddiwr gwasanaeth.
7. Os yw'r asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi a bod nyrs yn cael ei chyflenwi i ddarparu gofal nyrsio ym mhreswylfa breifat defnyddiwr gwasanaeth neu glaf, manylion —
(a)yr afiechyd neu'r anabledd y mae'r claf yn dioddef ganddo;
(b)enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cyffredinol y claf;
(c)y proffesiynolion iechyd eraill y mae'r claf yn cael triniaeth ganddynt;
(ch)perthynas agosaf y claf;
(d)crefydd y claf;
(dd)meddianwyr eraill yn y safle lle darperir y gwasanaeth nyrsio; ac
(e)y cynllun nyrsio a luniwyd ar gyfer y claf a chofnod manwl o'r gofal nyrsio sy'n cael ei ddarparu.
1. Yr holl wybodaeth sy'n cael ei darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cofrestru mewn perthynas â'r asiantaeth.
2. Manylion pob honiad o gam-drin —
(a)yn erbyn nyrs; neu
(b)gan nyrs (nad yw'n destun cwyn sydd wedi'i gwneud o dan reoliad 18),
ac sy'n cael ei chyflogi gan yr asiantaeth, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny.
Rheoliad 30
1.—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i ddarparydd asiantaeth nyrsys (y cyfeirir ato fel “y darparydd” (“the provider”) yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon) pan fydd yn cael ei drin yn unol ag is-baragraff (6) fel petai wedi gwneud cais am gofrestriad o dan Ran II o Ddeddf 2000 a bod y cofrestriad hwnnw wedi'i ganiatáu o dan y Ddeddf honno mewn perthynas â'r asiantaeth yr oedd wedi'i drwyddedu i'w rhedeg o dan Ddeddf 1957.
(2) Bydd Deddf 1957 yn parhau mewn grym er mywn rhoi effaith i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn.
(3) Nes y bydd is-baragraff (1) yn gymwys i ddarparydd asiantaeth nyrsys, bydd darpariaethau Deddf 1957 yn parhau mewn grym mewn perthynas â'r darparydd, ac ar ei gyfer, fel petai unrhyw gyfeiriad yn Neddf 1957 at yr awdurdod trwyddedu yn gyfeiriad at y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y darparydd o dan is-baragraff (9), benderfynu pan fydd yn gweld yn dda, ar y materion a ddisgrifir yn is-baragraff (5), a chyflwyno hysbysiad o'i benderfyniad i'r darparydd.
(5) Y materion yw —
(a)yr amodau (os o gwbl) yr oedd cofrestru'r darparydd o dan Ddeddf 1957 yn ddarostyngedig iddynt;
(b)unrhyw fater arall i'r graddau y mae penderfynu ar y mater hwnnw yn angenrheidiol i alluogi'r darparydd, yn unol ag is-baragraff (6), i gael ei drin at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 fel petai wedi gwneud cais am gofrestriad ar gyfer yr asiantaeth a bod y cofrestriad hwnnw wedi'i ganiatáu;
a rhaid ymdrin ag unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-baragraff (4) at ddibenion adran 21 o Ddeddf 2000 (apelau i'r Tribiwnlys) fel petai'n benderfyniad gan y Cynulliad o dan Ran II o'r Ddeddf honno.
(6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud penderfyniad yn unol ag is-baragraff (4), yna o ddyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol ymlaen ('y dyddiad effeithiol') —
(a)rhaid ymdrin â'r darparydd, at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000, fel petai wedi gwneud cais am gofrestriad ar gyfer yr ymgymeriad presennol a bod y cofrestriad hwnnw wedi'i ganiatáu;
(b)bydd yr amodau (os o gwbl) y penderfynwyd arnynt yn unol ag is-baragraff (5)(a), i'r graddau y maent yn gallu bod yn amodau y mae cofrestru at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 yn ddarostyngedig iddynt, yn effeithiol —
(i)fel petaent yn amodau y mae'r cofrestriad at y dibenion hynny yn ddarostyngedig iddynt; a
(ii)at ddibenion adran 19(1) o Ddeddf 2000, fel pe baent wedi'u cytuno yn ysgrifenedig rhwng y darparydd a'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Ar, neu cyn, y dyddiad effeithiol ar gyfer penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi tystysgrif i'r darparydd —
(a)y mae'n rhaid i'w chynnwys fod yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 16(1)(b) o Ddeddf 2000 am gynnwys tystysgrifau sy'n cael eu dyroddi o dan Ran II o'r Ddeddf honno; a
(b)y mae'n rhaid ei thrin fel petai'n dystysgrif ar gyfer yr ymgymeriad presennol sydd wedi'i dyroddi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o Ddeddf 2000.
(8) Bydd darpariaethau is-baragraffau (5) a (6) heb ragfarn i bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol i amrywio, dileu neu osod unrhyw amod yn unol â Rhan II o Ddeddf 2000.
(9) Cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â'r materion a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (5) mewn perthynas ag ymgymeriad presennol rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd yn rhoi gwybod i'r darparydd y caiff gyflwyno, cyn pen 28 diwrnod ar ôl i'r hysbysiad hwnnw ddod i law, sylwadau ysgrifenedig am y penderfyniad, ac na chaiff unrhyw benderfyniad ei wneud cyn i'r 28 diwrnod hynny ddod i ben.
2.—(1) Mae is-baragraff (3) yn gymwys i gais am drwydded o dan Ddeddf 1957 i redeg asiantaeth er mwyn cyflenwi nyrsys —
(a)sydd wedi'i wneud i awdurdod cyn 2 Hydref 2003 ac nad yw wedi'i ganiatáu ar y dyddiad hwnnw; a
(b)nad yw is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i gais y mae'r awdurdod wedi rhoi'r canlynol mewn perthynas ag ef i'r person a wnaeth y cais —
(a)hysbysiad o dan adran 2(4) o Ddeddf 1957 o wrthod trwydded, neu roi trwydded yn ddarostyngedig i amodau a naill ai —
(i)bod y cyfnod ar gyfer apelio mewn perthynas â'r hysbysiad hwnnw heb ddod i ben; neu
(ii)bod y person a wnaeth y cais wedi apelio ond nad yw'r apêl wedi'i phenderfynu neu wedi'i gollwng; neu
(b)y cyfle i gael gwrandawiad o dan adran 2(5) o'r Ddeddf honno mewn perthynas ag unrhyw gynnig i wrthod rhoi trwydded, oni bai —
(i)bod y person, o fewn yr amser a ganiatawyd gan yr awdurdod yn yr hysbysiad i roi cyfle iddo gael gwrandawiad, heb fanteisio ar y cyfle a gynigiwyd felly nac wedi nodi ei fod yn dymuno gwneud hynny; neu
(ii)bod yr awdurod wedi rhoi hysbysiad o wrthod trwydded.
(3) Os yw'r is-baragraff hwn yn gymwys i gais rhaid i'r cais hwnnw gael ei drin fel cais am gofrestriad o dan Ran II o Ddeddf 2000.
(4) Os yw is-baragraff (2) yn gymwys —
(a)bydd Ddeddf 1957, yn ddarostyngedig i baragraff canlynol nesaf yr is-baragraff hwn, yn parhau mewn grym mewn perthynas â'r materion canlynol —
(i)y penderfyniad i roi neu wrthod trwydded o dan adran 2 o'r Ddeddf honno;
(ii)apêl yn erbyn penderfyniad o'r fath;
(b)bydd y swyddogaethau, y pwerau a'r dyletswyddau a oedd gan yr awdurdod, yn union cyn 2 Hydref 2003, o dan y Ddeddf honno mewn perthynas â'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff blaenorol yr is-baragraff hwn yn gymwys i'r Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach na'r awdurdod, a byddant yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)rhaid ymdrin â'r penderfyniad i fabwysiadu cynnig i ganiatáu cais o'r dyddiad y mae'n effeithiol, at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf —
(i)fel petai'n benderfyniad i fabwysiadu cynnig i ganiatáu cais am gofrestriad ar gyfer asiantaeth nyrsys;
(ii)fel petai wedi dod yn effeithiol yn unol ag adran 19(5) o'r Ddeddf.
3. Os yw'r awdurdod wedi dirymu trwydded y darparydd presennol mewn perthynas â'r ymgymeriad presennol, a naill ai —
(a)bod y cyfnod ar gyfer apelio yn erbyn y dirymiad heb ddod i ben; neu
(b)bod y darparydd presennol wedi apelio o dan adran 2(4) o Ddeddf 1957 ac nad yw'r apêl wedi'i phenderfynu nac wedi'i gollwng,
rhaid peidio ag ymdrin â'r darparydd presennol, at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf, fel petai'r cofrestriad wedi'i ganiatáu ar gyfer yr ymgymeriad presennol hwnnw.
4.—(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn y dyddiad effeithiol —
(a)y mae'r awdurdod neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn pwyso a mesur a ddylid dirymu trwydded y darparydd presennol ar gyfer yr ymgymeriad presennol;
(b)yn unol ag adran 2 (5) o Ddeddf 1957, y rhoddwyd cyfle i'r darparydd bresennol gael gwrandawiad; ac
(c)nad yw'r awdurdod na'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu ar y mater.
(2) Os yw is-baragraff (1) yn gymwys —
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, rhaid ymdrin â'r hysbysiad sy'n rhoi gwybod i'r darparydd presennol y mae i gael cyfle i gael gwrandawiad, at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf, ac er gwaethaf y ffaith nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion ar gyfer hysbysiad o'r fath o dan y Ddeddf, fel petai'n hysbysiad o gynnig a roddwyd o dan adran 17(4) o'r Ddeddf i ddileu'r cofrestriad o'r dyddiad effeithiol ymlaen (ac eithrio yn unol â chais o dan adran 15(1)(b)), ar gyfer ymgymeriad presennol;
(b)bydd adran 18(2) o'r Ddeddf yn effeithiol fel petai —
(i)y gair “written” wedi'i hepgor ym mharagraff (a);
(ii)y paragraff canlynol wedi'i roi yn lle paragraff (c) —
“(c)the person who is registered in respect of the agency has been given an opportunity to make oral or written representations to the National Assembly concerning the matter within a reasonable period and has failed to make them within that period.”
5. Rhaid i awdurdod drosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)yr holl wybodaeth a'r dogfennau sydd yn ei feddiant ac sy'n ymwneud â thrwyddedu unrhyw asiantaeth nyrsys ar unwaith wrth i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac yr oedd yn arfer swyddogaethau'r awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf 1957 mewn perthynas â hwy yn union cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym;
(b)cyn gynted ag y bo'n ymarferol, yr holl wybodaeth neu'r holl ddogfennau hynny sy'n dod i'w meddiant ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Mewnosodwyd adran 115(5)(ea) gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104.
Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw'n fath a bennir mewn rheoliadau ac os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau sy'n 18 oed neu drosodd, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.
Mae adran 113(3A) ac 115(6A) wedi'u hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14), ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannau 113(3C) a 115(6B) i'w hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.
Mae'r gofrestr yn cael ei chadw yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 2 i Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (O.S. 2002/253).
O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, O.S. 1986/2268 ac O.S. 2001/1192.
O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, 1986/2268, 2001/1192 a 2002/441.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: