Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 12(1)

ATODLEN 3YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Å NYRSYS SYDD I'W CYFLENWI GAN ASIANTAETH

1.  Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn.

2.  Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y perthynas agosaf.

3.  Prawf o bwy yw'r person, gan gynnwys ffotograff diweddar.

4.  Naill ai —

(a)os yw'r swydd y mae'r nyrs yn cael ei chyflenwi i'w chyflawni yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 113(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf hono.

5.  Gwiriad heddlu, sef adroddiad a luniwyd gan neu ar ran prif swyddog heddlu o fewn ystyr “chief officer” yn Neddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cofnodi, adeg llunio'r adroddiad, bob tramgwydd troseddol —

(a)y caniateir eu ddatgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(1); neu

(b)yr oedd y person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.

6.  Dau dystlythyr oddi wrth nyrsys neu broffesiynolion iechyd eraill, gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf fel nyrs nad oedd wedi para'n llai na thri mis.

7.  Os yw'r nyrs wedi gweithio o'r blaen mewn swydd a oedd yn golygu gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rheswm pam y rhoes y gorau i weithio yn y swydd honno, ac eithrio os nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.

8.  Tystiolaeth bod y nyrs yn medru Saesneg i raddau boddhaol, os oedd cymwysterau nyrsio'r nyrs wedi'u sicrhau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

9.  Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.

10.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth a manylion unrhyw gyflogaeth gyfredol ac eithrio at ddibenion yr asiantaeth.

11.  Cofnod o statws imwneiddio.

12.  Cadarnhad o'i chofrestriad cyfredol â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, gan gynnwys manylion am y Rhan o'r gofrestr y mae'r nyrs wedi'i chofrestru ynddi.

13.  Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.

(1)

O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, 1986/2268, 2001/1192 a 2002/441.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources