- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
7.—(1) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw berson yn ffit i redeg asiantaeth oni bai bod y person —
(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)yn gorff a —
(i)bod y corff wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a safle unigolyn yn y corff (cyfeirir at yr unigolyn yn y rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac sy'n gyfrifol am oruchwylio'r rheolaeth ar yr asiantaeth; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion —
(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth; ac
(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r unigolyn —
(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 8 o Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 9 o Atodlen 2.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.
(5) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth —
(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac, (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu
(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: