- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y rheoliadau hyn —
ystyr “arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig sy'n cael ei gynhyrchu yn unol â rheoliad 5;
ystyr “asiantaeth” (“agency”) yw asiantaeth nyrsys;
ystyr “awdurdod” (“authority”), mewn perthynas â pherson —
sy'n rhedeg neu sy'n dymuno rhedeg, asiantaeth i gyflenwi nyrsys o fewn ystyr “agency for the supply of nurses” yn Neddf 1957; a
sy'n ddeiliad trwydded sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw gan awdurdod lleol o dan adran 2 o'r Ddeddf honno ac sy'n awdurdodi'r deiliad i redeg yr asiantaeth honno o'r safle sydd wedi'i bennu yn y drwydded, neu sydd wedi gwneud cais am drwydded o'r fath,
yw'r awdurdod lleol, sef, at ddibenion yr adran honno, yr awdurdod trwyddedu y mae'r safle wedi'i leoli yn ei ardal;
ystyr “claf” (“patient”) yw person y mae gwasanaeth nyrsio yn cael ei ddarparu iddo gan nyrs a gyflenwyd gan asiantaeth;
ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darparydd asiantaeth nyrsys” (“nurses agency provider”) yw person sydd, yn union cyn 2 Hydref 2003 —
yn rhedeg asiantaeth i gyflenwi nyrsys o fewn ystyr “agency for the supply of nurses” yn Neddf 1957; a
yn ddeiliad trwydded sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw gan awdurdod lleol o dan adran 2 o'r Ddeddf honno ac sy'n awdurdodi'r deiliad i redeg yr asiantaeth honno o'r safle sydd wedi'i bennu yn y drwydded;
ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas ag asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel y person sy'n rhedeg yr asiantaeth honno;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 4;
ystyr “Deddf 1957” (“1957 Act”) yw Deddf Asiantaethau Nyrsys 1957(1);
ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw person y mae asiantaeth —
yn cyflenwi nyrs, sy'n cael ei chyflogi gan yr asiantaeth, iddo; neu
yn darparu gwasanaethau at ddibenion cyflenwi nyrs i'r defnyddiwr gwasanaeth er mwyn iddi gael ei chyflogi gan y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw;
ystyr “dyddiad effeithiol” (“effective date”) yw'r dyddiad o bryd y mae darparydd presennol i'w drin at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf, yn unol â pharagraff 1(6) o Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn, fel petai wedi gwneud cais am gofrestriad ar gyfer yr ymgymeriad presennol a bod y cofrestriad hwnnw wedi'i ganiatáu;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “nyrs” (“nurse”) yw nyrs gofrestredig, bydwraig gofrestredig neu ymwelydd iechyd cofrestredig(2);
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas ag asiantaeth, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig yr asiantaeth honno neu'n rheolwr cofrestredig arni;
ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas ag asiantaeth, yw unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr yr asiantaeth honno;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas ag asiantaeth nyrsys —
os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (4) isod ar gyfer yr ardal y mae'r asiantaeth nyrsys yn gweithredu ynddi, yw'r swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
mae “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 7;
mae i “ymddiriedolaeth GIG” yr un ystyr ag “NHS trust” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(3);
ystyr “ymgymeriad presennol” (“existing undertaking”) yw person sydd, yn union cyn 2 Hydref 2003 —
yn rhedeg asiantaeth i gyflenwi nyrsys o fewn ystyr “agency for the supply of nurses” yn Neddf 1957; a
yn ddeiliad trwydded sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw gan awdurdod lleol o dan adran 2 o'r Ddeddf honno ac sy'n awdurdodi'r deiliad i redeg yr asiantaeth honno o'r safle sydd wedi'i bennu yn y drwydded.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyflenwi nyrs yn golygu —
(a)cyflenwi nyrs sy'n cael ei chyflogi at ddibenion asiantaeth i weithredu i berson arall neu o dan ei reolaeth; a
(b)cyflwyno nyrs gan asiantaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth er mwyn iddi gael ei chyflogi gan y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw.
(3) Yn y diffiniad o “defnyddiwr gwasanaeth” ym mharagraffau (1) a (2), mae'r term “ei chyflogi” yn cynnwys cyflogaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa y mae'n ei rheoli fel y swyddfa briodol mewn perthynas ag asiantaeth nyrsys sydd wedi'i lleoli mewn rhan benodol o Gymru.
Gweler Deddf Dehongli 1978 (p.30), Atodlen 1. Mewnosodwyd diffiniad o “registered” mewn perthynas â nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd gan Ddeddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979 (p.36), adran 23(4) ac Atodlen 7, paragraff 30, fel y'u hamnewidiwyd gan erthygl 54(3) o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (O.S. 2002/253), ac Atodlen 5, paragraff 7 iddi, ar ddyddiad sydd i'w bennu.
1990 p. 19. Gweler adran 5 o'r Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17) ac adrannau 13(1) a 14 o Ddeddf Iechyd 1999 (p. 8).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: