- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
22.—(1) Os yw —
(a)y darparydd cofrestredig, a hwnnw'n unigolyn â gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth; neu
(b)y rheolwr cofrestredig,
yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(2) Ac eithrio mewn argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirwiyd ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb arfaethedig ddechrau neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu —
(a)pa mor hir y bydd yr absenoldeb arfaethedig neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;
(b)y rheswm dros yr absenoldeb;
(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw;
(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw; a
(d)yn achos absenoldeb y rheolwr cofrestredig, y trefniadau sydd wedi'u gwneud, neu y bwriedir eu gwneud, ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig erbyn pryd y mae'r penodiad i'w wneud.
(3) Os yw'r absenoldeb yn codi yn sgil argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos ar ôl i'r argyfwng ddigwydd gan bennu'r materion a nodwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(4) Os yw —
(a)y darparydd cofrestredig, a hwnnw'n unigolyn â gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth; neu
(b)y rheolwr cofrestredig,
wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, ac na roddwyd hysbysiad o'r absenoldeb i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig yn ddi-oed i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb, gan bennu'r materion a nodwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol fod y darparydd cofrestredig neu (yn ôl fel y digwydd) y rheolwr cofrestredig wedi dychwelyd i'r gwaith a rhaid iddo hysbysu hyn heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl dyddiad y dychweliad.
23. Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny os yw unrhyw un o'r pethau canlynol yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd —
(a)bod person ac eithrio'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r asiantaeth;
(b)bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r asiantaeth;
(c)os unigolyn yw'r person cofrestredig, ei fod yn newid ei enw;
(ch)os corff yw'r darparydd cofrestredig —
(i)bod enw neu gyfeiriad y corff yn newid;
(ii)bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd;
(iii)bod unrhyw newid o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol;
(d)os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi;
(dd)os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael ei benodi;
(e)os yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg asiantaeth nyrsys, bod derbynnydd neu reolwr yn cael, neu'n debyg o gael, ei benodi ar gyfer y bartneriaeth; neu
(f)bod y darparydd cofrestredig yn caffael safle ychwanegol at ddibenion yr asiantaeth.
24.—(1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo —
(a)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'i benodiad gan nodi'r rhesymau drosto;
(b)penodi rheolwr i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac
(c)heb fod yn fwy na 28 diwrnod ar ôl y penodiad, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dull arfaethedig o weithredu'r asiantaeth yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir —
(a)yn dderbynydd neu'n rheolwr eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth;
(b)yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth;
(c)yn dderbynydd neu'n rheolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg asiantaeth;
(ch)yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth.
25.—(1) Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru ar gyfer asiantaeth, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i'r person cofrestredig sy'n goroesi hysbysu yn ysgrifenedig swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed o'r farwolaeth.
(2) Os un person yn unig sydd wedi'i gofrestru ar gyfer asiantaeth, a bod y person hwnnw yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig —
(a)o'r farwolaeth yn ddi-oed; a
(b)o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau ynglŷn â rhedeg yr asiantaeth yn y dyfodol.
(3) Caiff cynrychiolwyr personol y darparydd cofrestredig ymadawedig redeg yr asiantaeth heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer —
(a)am gyfnod heb fod yn hwy nag 28 diwrnod; a
(b)am unrhyw gyfnod pellach a benderfynnir yn unol â pharagraff (4).
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (3)(a) am unrhyw gyfnod pellach, heb fod yn hwy na blwyddyn, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno, a rhaid iddo hysbysu'r cynrychiolwyr personol yn ysgrifenedig o unrhyw benderfyniad o'r fath.
(5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth yn ystod unrhyw gyfnod pryd y byddant, yn unol â pharagraff (3), yn rhedeg yr asiantaeth, heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: