- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
12.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw nyrs yn cael ei chyflenwi gan yr asiantaeth oni bai —
(a)ei bod yn berson addas o ran ei gonestrwydd a'i chymeriad da;
(b)bod ganddi'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
(c)ei bod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith hwnnw; ac
(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael amdani ar gyfer pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gwaith dethol nyrs i'w chyflenwi yn cael ei wneud gan nyrs neu o dan ei goruchwyliaeth a bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael am y nyrs sy'n gwneud y gwaith dethol —
(i)ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 8 o Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 9 o Atodlen 2.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob nyrs sy'n cael ei chyflenwi gan yr asiantaeth pan fydd yn gweithredu fel busnes cyflogi(1) yn cael ei chyfarwyddo bod rhaid iddi wisgo bob amser, pan fydd yn gweithio i ddefnyddiwr gwasanaeth, gerdyn adnabod sy'n dangos ei henw, enw'r asiantaeth a ffotograff diweddar.
13.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fydd asiantaeth sy'n gweithredu fel busnes cyflogi yn cyflenwi nyrs i ddarparu gofal nyrsio ym mhreswylfa breifat defnyddiwr gwasanaeth neu glaf.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi polisïau ysgrifenedig a'u rhoi ar waith mewn perthynas â'r canlynol —
(a)sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i bob claf yn cyd-fynd â'r datganiad o ddiben ac yn diwallu anghenion unigol y claf hwnnw;
(b)o dan ba amgylchiadau y caiff nyrsys roi meddyginiaeth i'r claf neu helpu i'w rhoi;
(c)y tasgau eraill y caiff neu na chaiff nyrsys eu cyflawni mewn cysylltiad â gofal claf, a'r tasgau na chaniateir eu cyflawni os nad yw'r nyrs wedi cael hyfforddiant arbenigol;
(ch)trefniadau i helpu cleifion ynglŷn â materion symudedd yn eu cartrefi, yn ôl yr angen;
(d)mesurau i sicrhau diogelwch y claf a diogelu ei eiddo;
(dd)trefniadau i sicrhau bod preifatrwydd, urddas a dymuniadau'r claf yn cael eu parchu;
(e)mesurau i ddiogelu'r claf rhag camdriniaeth neu esgeulustod;
(f)mesurau i ddiogelu nyrsys rhag camdriniaeth neu niwed arall;
(ff)y weithdrefn sydd i'w dilyn ar ôl i honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall gael ei wneud.
(3) Rhaid i'r weithdrefn y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (2) (ff) ddarparu yn benodol ar gyfer y canlynol —
(a)bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw o unrhyw honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall ac o'r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny; a
(b)bod swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn cael gwybod o unrhyw ddigwyddiad yr hysbyswyd yr heddlu ohono, a hynny heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i'r person cofrestredig —
(i)hysbysu'r heddlu o'r mater; neu
(ii)cael gwybod yr hysbyswyd yr heddlu o'r mater.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw wybodaeth bersonol am glaf y mae nyrs wedi'i chyflenwi gan yr asiantaeth ar ei gyfer yn cael ei datgelu i unrhyw aelod o staff yr asiantaeth oni bai ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol i'r claf.
14.—(1) Os yw asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi, rhaid i'r person cofrestredig, o ystyried maint yr asiantaeth, ei datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod nifer priodol o bersonau gyda chymwysterau, medrau a phrofiad addas yn cael eu cyflogi at ddibenion yr asiantaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob un o gyflogeion yr asiantaeth —
(a)yn cael ei oruchwylio'n briodol; a
(b)yn cael disgrifiad swydd sy'n amlinellu ei gyfrifoldebau.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn ar gyfer casglu gwybodaeth oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaeth am berfformiad y nyrsys sy'n cael eu cyflogi at ddibenion yr asiantaeth, a rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw agwedd ar arferion clinigol nyrs.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i bob nyrs sy'n cael ei chyflogi at ddibenion yr asiantaeth ddatganiad ysgrifenedig ar y telerau a'r amodau y bydd yn cael ei chyflenwi i weithio odanynt i ddefnyddiwr gwasanaeth, ac o dan ei reolaeth.
(5) Rhaid i'r datganiad o delerau ac amodau a ddarperir o dan baragraff (4) bennu, yn benodol, statws cyflogaeth y nyrs.
15.—(1) Pan fydd yr asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi, rhaid i'r person cofrestredig baratoi llawlyfr staff a darparu copi i bob aelod o'r staff.
(2) Rhaid i'r llawlyfr gael ei baratoi yn unol â pharagraff (1) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch —
(a)yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth y staff, a'r camau disgyblu y gellir eu cymryd yn eu herbyn;
(b)rôl a chyfrifoldebau'r nyrsys a'r staff eraill;
(c)y gofynion ynglŷn â chadw cofnodion;
(ch)gweithdrefnau recriwtio; a
(d)gofynion a chyfleoedd hyfforddi a datblygu.
16.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei hysbysu, cyn bod nyrs yn cael ei chyflenwi —
(a)o enw'r nyrs sydd i'w chyflenwi a'r dull o gysylltu â'r nyrs honno;
(b)o enw'r aelod o staff yr asiantaeth sy'n gyfrifol am gyflenwi'r nyrs honno; ac
(c)os yw'r asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi, o'r manylion ynglŷn â'r ffordd y gall y defnyddiwr gwasanaeth gysylltu â'r person cofrestredig, neu berson sydd wedi'i enwi i weithredu ar ran y person cofrestredig.
(2) Os y claf yw'r defnyddiwr gwasanaeth hefyd, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr wybodaeth a bennwyd ym mharagraff (1) yn cael ei darparu, os yw'n briodol, i'r person sy'n gweithredu ar ran y claf.
17. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn cael eu cadw a'u bod —
(a)yn cael eu cadw'n gyfoes, mewn cyflwr da ac mewn modd diogel; a
(b)yn cael eu cadw am gyfnod heb fod yn llai na thair blynedd gan ddechrau ar ddyddiad yr eitem ddiwethaf.
18.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn (“y weithdrefn gwyno”) ar gyfer ystyried cwynion sy'n cael eu gwneud i'r person cofrestredig gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno i bob defnyddiwr gwasanaeth ac, os gofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno gynnwys —
(a)enw a Rhif ffôn unrhyw swyddfa briodol benodedig y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)y weithdrefn (os oes un) y mae swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi hysbysu'r person cofrestredig ohoni ar gyfer gwneud cwynion i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â'r asiantaeth.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i bob cwyn sy'n cael ei gwneud o dan y weithdrefn gwyno.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd y gŵyn ei gwneud, roi gwybod i'r person a wnaeth y gŵyn am y camau sydd i'w cymryd mewn ymateb i hynny, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod o bob cwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliad a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny a bydd gofynion rheoliad 17 yn gymwys i'r cofnod hwnnw.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol bob blwyddyn ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y 12 mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny.
(8) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod adroddiad yn cael ei gyflwyno yn brydlon ac yn ysgrifenedig i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar unrhyw dystiolaeth am gamymddygiad gan nyrs(2).
19.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno a chynnal system ar gyfer adolygu bob hyn a hyn fel y bo'n briodol ansawdd y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr asiantaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad y mae'r person cofrestredig wedi'i gynnal at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth a'r personau sy'n gweithredu ar ran y defnyddwyr gwasanaeth ei archwilio, os byddant yn gofyn amdano.
(3) Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth a'r personau sy'n gweithredu ar ran y defnyddwyr gwasanaeth.
Gweler adran 121(1) o'r Ddeddf i weld y diffiniad o “employment business”.
Sefydlwyd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 3 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (O.S. 2002/253).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: