Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig

7.—(1Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw berson yn ffit i redeg asiantaeth oni bai bod y person —

(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu

(b)yn gorff a —

(i)bod y corff wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a safle unigolyn yn y corff (cyfeirir at yr unigolyn yn y rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac sy'n gyfrifol am oruchwylio'r rheolaeth ar yr asiantaeth; a

(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

(3Dyma'r gofynion —

(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth; ac

(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r unigolyn —

(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 8 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 9 o Atodlen 2.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.

(5Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth —

(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac, (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu

(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.

Penodi rheolwr

8.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth —

(a)pan nad oes unrhyw reolwr cofrestredig ar gyfer yr asiantaeth; a

(b)pan fo'r darparydd cofrestredig —

(i)yn gorff; neu

(ii)yn berson anffit i reoli asiantaeth; neu

(iii)yn berson nad oes ganddo ofal amser llawn dros yr asiantaeth o ddydd i ddydd, neu nad yw'n bwriadu bod â gofal o'r fath drosti.

(2Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r asiantaeth, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith —

(a)o enw'r person a benodwyd felly; a

(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod i ddod i rym.

Ffitrwydd y rheolwr

9.—(1Rhaid i berson beidio â rheoli asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni bai —

(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

(b)o roi sylw i faint yr asiantaeth, ei datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth —

(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r asiantaeth; a

(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny;

(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas ag ef —

(i)ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 8 o Atodlen 2,

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 9 o Atodlen 2.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.

Y person cofrestredig – gofynion cyffredinol a hyfforddiant

10.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o ystyried maint yr asiantaeth, ei datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg yr asiantaeth, neu (yn ôl fel y digwydd) ei rheoli, â gofal, medrusrwydd a medr digonol.

(2Os yw'r darparydd cofrestredig —

(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu

(b)yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,

o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth.

(3Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r asiantaeth.

Hysbysu o dramgwyddau

11.  Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, boed hwnnw wedi'i gyflawni yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol —

(i)o ddyddiad a man y collfarniad;

(ii)o'r tramgwydd y mae wedi'i gollfarnu ohono; a

(iii)o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources