- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”), ac maent yn gymwys i asiantaethau nyrsys yng Nghymru yn unig. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru a fydd yn cofrestru ac yn archwilio sefydliadau ac asiantaethau, gan gynnwys asiantaethau nyrsys. Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu mai'r Cynulliad fydd yn gwneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg.
Yn ôl rheoliad 4, rhaid i bob asiantaeth baratoi datganiad o ddiben ynglŷn â'r materion a nodir yn Atodlen 1 ac arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i'r asiantaeth (rheoliad 5). Rhaid i'r asiantaeth gael ei rhedeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.
Mae rheoliadau 7 i 11 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â ffitrwydd y personau sy'n rhedeg ac yn rheoli asiantaeth ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol gael ei sicrhau am y materion a bennir yn Atodlen 2. Os corff yw'r darparydd, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael amdano (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer yr asiantaeth, ac mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â ffitrwydd y rheolwr. Mae rheoliad 10 yn gosod gofynion cyffredinol ynglŷn ag ymddygiad priodol yr asiantaeth, a'r angen am hyfforddiant priodol.
Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ymddygiad asiantaethau, yn enwedig am ansawdd y gwasanaethau sydd i'w darparu gan asiantaeth. Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth am ffitrwydd pob nyrs sy'n cael ei chyflenwi gan asiantaeth. Mae rheoliad 13 yn nodi'r polisïau a'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig eu llunio a'u gweithredu os yw'r asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi. Yn ychwanegol, mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynglŷn â staffio (rheoliad 14), darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth (rheoliad 16), cadw cofnodion (rheoliad 17 ac Atodlen 4) a chwynion (rheoliad 18). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd am addasrwydd safleoedd (rheoliad 20) a'r rheolaeth ariannol ar yr asiantaeth (rheoliad 21). Mae rheoliadau 22 i 25 yn ymdrin â rhoi hysbysiadau i'r Cynulliad.
Mae Rhan IV yn ymdrin â materion amrywiol. Yn benodol, mae rheoliad 27 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Gellir cael bod torri rheoliadau 4 i 23 yn dramgwydd gan y person cofrestredig. Mae rheoliad 28 yn diwygio Rheoliadau Rheoleiddio Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002 drwy ragnodi'r ffi flynyddol ar gyfer cofrestru asiantaethau nyrsys. Mae rheoliad 29 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 i gynnwys asiantaethau nyrsys ac mae rheoliad 30 yn ymdrin â threfniadau trosiannol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: