xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 42(1)

ATODLEN 7Y MATERION SYDD I'W MONITRO GAN Y PERSON COFRESTREDIG

1.  Cydymffurfedd, mewn perthynas â phob plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth, â'r cytundeb lleoliad maeth a chynllun yr awdurdod cyfrifol ar gyfer gofalu am y plentyn.

2.  Pob damwain, niwed ac afiechyd plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth.

3.  Cwynion mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya gyda rhieni maeth a'u canlyniadau.

4.  Unrhyw honiadau neu amheuon o gam-driniaeth mewn perthynas â'r plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth a canlyniad unrhyw ymchwiliad.

5.  Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd.

6.  Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 8.

7.  Unrhyw absenoldeb diawdurdod o gartref maeth gan blentyn sy'n cael ei letya yNo.

8.  Defnyddio unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya mewn cartref maeth.

9.  Y feddyginiaeth, y driniaeth feddygol a'r cymorth cyntaf a roddwyd i unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth.

10.  Os yw'n gymwys, safon unrhyw ddarpariaeth addysgol sy'n cael ei darparu gan y gwasanaeth faethu.

11.  Cofnodion o asesiadau.

12.  Cofnodion o gyfarfodydd y panel maethu.

13.  Rosteri dyletswydd personau sy'n gweithio i'r asiantaeth faethu, fel y'u trefnwyd ac fel y'u gweithredwyd mewn gwirionedd.

14.  Cofnodion o werthusiadau staff.

17.  Cofnodion o gyfarfodydd staff.