- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 28(5)(b)
1. Telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth.
2. Faint o gymorth a hyfforddiant sydd i'w rhoi i'r rhiant maeth.
3. Y weithdrefn ar gyfer adolygu cymeradwyaeth rhiant maeth.
4. Y weithdrefn mewn cysylltiad â lleoli plant a'r materion sydd i'w cynnwys mewn unrhyw gytundeb lleoliad maeth.
5. Y trefniadau ar gyfer bodloni unrhyw atebolrwyddau cyfreithiol y rhiant maeth sy'n codi oherwydd lleoliad.
6. Y weithdrefn sydd ar gael i rieni maeth gyflwyno sylwadau.
7. Rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd gwasanaeth maeth ar unwaith, gyda manylion llawn—
(a)unrhyw fwriad i newid cyfeiriad y rhiant maeth;
(b)unrhyw newid yn y personau sy'n ffurfio aelwyd y rhiant maeth;
(c)unrhyw newid arall yn amgylchiadau personol y rhiant maeth ac unrhyw ddigwyddiad arall sy'n effeithio naill ai ar ei allu i ofalu am unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli neu addasrwydd aelwyd y rhiant maeth; ac
(ch)unrhyw gais am fabwysiadu plant, neu am gael cofrestriad ar gyfer gwarchod plant neu ofal dydd.
8. Peidio â chosbi'n gorfforol unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth.
9. Sicrhau bod unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â phlentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth, â theulu'r plentyn neu ag unrhyw berson arall, ac sydd wedi'i rhoi i'r rhiant maeth yn gyfrinachol mewn cysylltiad â lleoliad yn cael ei chadw'n gyfrinachol ac nad yw'n cael ei datgelu i unrhyw berson heb gydsyniad y darparydd gwasanaeth maethu.
10. Cydymffurfio â thelerau unrhyw gytundeb lleoliad maeth.
11. Gofalu am unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth fel petai'r plentyn yn aelod o deulu'r rhiant maeth a hybu lles y plentyn gan roi sylw i'r cynlluniau hir-dymor a byr-dymor ar gyfer y plentyn.
12. Cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau'r darparydd gwasanaeth maethu a roddwyd o dan reoliadau 12 ac 13.
13. Cydweithredu â'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag unrhyw ofyniad rhesymol ac yn benodol caniatáu i berson sydd wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w gyfweld ac ymweld â'i gartref ar unrhyw adeg resymol.
14. Cadw'r darparydd gwasnaeth maethu yn hysbys ynghylch cynnydd y plentyn a'i hysbysu ar unwaith ynghylch unrhyw ddigwyddiadau sylweddol sy'n effeithio ar y plentyn.
15. Os yw rheoliad 36 yn gymwys, caniatáu i unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth i gael ei symud o gartref y rhiant maeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: