xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 27(7)(b)
1. Tramgwydd trais rhywiol.
2. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(1) ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd yn erbyn adran 5 o Ddeddf Cyfraith Troseddau (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyfathrach â merch o dan 16 oed)(2), tramgwydd anwedduster digywilydd rhwng dynion neu dramgwydd sodomiaeth.
3. Tramgwydd plagiwm (dwyn plentyn islaw oedran aeddfedrwydd).
4. Adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (ffotograffau anweddus o blant)(3)).
5. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd)(4).
6. Tramgwydd trais rhywiol.
7. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(5)) ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd yn groes i adrannau 5 neu 11 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Troseddau 1885 (cael adnybyddiaeth gnawdol anghyfreithlon o ferch o dan 17 oed ac anwedduster dybryd rhwng gwrywod)(6), neu dramgwydd yn groes i adran 61 o Ddeddf Tramgwyddau yn erbyn y Person 1861 (sodomiaeth).
8. Tramgwydd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (ffotograffau anweddus)(7).
9. Tramgwydd yn groes i Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol)(8).
10. Tramgwydd o dan Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant)(9).
11. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd).
1982 p.45. Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33).