ATODLEN 4TRAMGWYDDAU A BENNIR AT DDIBENION RHEOLIAD 27(7)(b)

Rheoliad 27(7)(b)

Tramgwyddau yn yr Alban

1

Tramgwydd trais rhywiol.

2

Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 199532 ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd yn erbyn adran 5 o Ddeddf Cyfraith Troseddau (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyfathrach â merch o dan 16 oed)33, tramgwydd anwedduster digywilydd rhwng dynion neu dramgwydd sodomiaeth.

3

Tramgwydd plagiwm (dwyn plentyn islaw oedran aeddfedrwydd).

4

Adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (ffotograffau anweddus o blant)34).

5

Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd)35.

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon

6

Tramgwydd trais rhywiol.

7

Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 196836) ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd yn groes i adrannau 5 neu 11 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Troseddau 1885 (cael adnybyddiaeth gnawdol anghyfreithlon o ferch o dan 17 oed ac anwedduster dybryd rhwng gwrywod)37, neu dramgwydd yn groes i adran 61 o Ddeddf Tramgwyddau yn erbyn y Person 1861 (sodomiaeth).

8

Tramgwydd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (ffotograffau anweddus)38.

9

Tramgwydd yn groes i Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol)39.

10

Tramgwydd o dan Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant)40.

11

Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd).