- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 27
1. Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni'r darpar riant maeth.
2. Manylion iechyd y person hwnnw (wedi'u hategu gan adroddiad meddygol), ei bersonoliaeth, ei statws priodasol a manylion priodas gyfredol neu berthynas debyg y person hwnnw ac unrhyw briodas flaenorol neu berthynas debyg.
3. Manylion unrhyw aelodau eraill o aelwyd y person hwnnw sy'n oedolion.
4. Manylion y plant yn nheulu'r person hwnnw, p'un ai ydynt yn aelodau o'i aelwyd neu beidio, ac unrhyw blant eraill yn ei aelwyd.
5. Manylion am lety'r person hwnnw.
6. Argyhoeddiad crefyddol y person hwnnw, i ba raddau y mae'n dilyn ei grefydd a'i allu i ofalu am blentyn o unrhyw argyhoeddiad crefyddol penodol.
7. Tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol y person hwnnw a'i allu i ofalu am blentyn o unrhyw darddiad penodol neu unrhyw gefndir diwylliannol neu ieithyddol.
8. Swydd neu alwedigaeth y person hwnnw yn y gorffennol a'r presennol, ei safon byw a gweithgareddau a diddordebau hamdden.
9. Profiad blaenorol y person hwnnw (os o gwbl) o ofalu am ei blant ei hun a phlant eraill.
10. Medrau, hyfedredd a photensial y person hwnnw sy'n berthnasol i'w allu i ofalu'n effeithiol am blentyn sydd wedi'i leoli gydag ef.
11. Canlyniad unrhyw gais a wnaed gan y person hwnnw neu unrhyw aelod arall o aelwyd y person hwnnw am faethu neu fabwysiadu plant neu am gofrestru plentyn ar gyfer gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd(1), gan gynnwys manylion unrhyw gymeradwyaeth flaenorol sy'n ymwneud â'r person neu ag unrhyw aelod arall o aelwyd y person hwnnw neu fanylion penderfyniad blaenorol i wrthod cymeradwyaeth o'r fath.
12. Enw a chyfeiriadau dau berson a fydd yn darparu tystlythyron personol ar gyfer y darpar riant maeth.
13. Mewn perthynas â'r darpar riant maeth a phob aelod o'r aelwyd sydd yn 18 neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997(2), gan gynnwys y materion a bennir yn adran 115(6A) o'r Ddeddf honNo.
Darperir ar gyfer cofrestru ar gyfer gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 mewn perthynas â Chymru a Lloegr a Rhan X o'r Ddeddf honno mewn perthynas â'r Alban.
Gweler y troednoaidau i baragraff 2 o Atodlen 1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: