Yr asiantaeth faethu — ffitrwydd y rheolwr
7.—(1) Rhaid i berson beidio â rheoli asiantaeth faethu oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth faethu oni bai—
(a)bod y person yn onest ac o gymeriad da;
(b)o roi sylw i faint yr asiantaeth faethu, ei datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y plant sydd wedi'u lleoli ganddi—
(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r asiantaeth faethu; a
(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli asiantaeth faethu;
(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 1.