- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
52.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu o fewn ystyr “fostering agency” yn adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000 (corff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989) sydd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i asiantaeth faethu y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, fel petai unrhyw gyfeiriad ynddynt at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person sy'n rhedeg yr asiantaeth(1)—
(a)tan yr amser y caniateir y cais neu'r cofrestriad, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os caiff y cais ei wrthod—
(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu
(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, ac sydd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000.
(4) Os yw awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn wedi'i fodloni y dylai'r plentyn gae ei leoli gyda rhieni maeth, cânt wneud trefniadau, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod arnynt gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37 gael eu cyflawni ar eu rhan gan y corff gwirfoddol y mae paragraff (3) yn gymwys iddo (“darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig”)—
(a)tan yr amser y caniateir y cais neu'r cofrestriad, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os caiff y cais ei wrthod—
(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu
(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.
(5) Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (4) oni bai—
(a)ei fod wedi'i fodloni—
(i)ynglyn â gallu'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig i gyflawni dyletswyddau ar ei ran; a
(ii)mai'r trefniadau hynny yw'r ffordd fwyaf addas o gyflawni'r dyletswyddau hynny; a
(b)ei fod yn gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig ynglŷn â'r trefniadau, a hwnnw'n gytundeb sy'n darparu ar gyfer ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth ac adroddiadau rhwng yr awdurdod lleol a'r darparydd wirfoddol annibynnol anghofrestredig.
(6) Mae paragraffau (2) a (4) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 2 o Orchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 8 (Cymru) a Darpariaethau Trosiannol, Arbedion, Darpariaethau Canlyniadol a Darpariaethau Diwygio) 2002 ac i is-baragraffau (5) a (6) o baragraff 5 o Atodlen 1 iddi (cais gan y Cynulliad Cenedlaethol i ynad hedd)(2).
(7) Ni fydd rheoliad 20(5) yn gymwys i unrhyw berson y byddai'n gymwys iddo ar wahân i'r rheoliad hwn, os yw'r person eisoes yn cael ei gyflogi ar 1 Ebrill 2003 gan ddarparydd gwasanaeth maethu mewn sefyllfa y mae paragraff (6) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddo.
Gweler Adran 121(4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: