- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
40.—(1) Caiff awdurdod lleol wneud trefniadau yn unol â'r rheoliad hwn ar gyfer y dyletswyddau sy'n cael eu gosod arno gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37, ac os yw paragraff (3) yn gymwys, 33(b), i gael eu cyflawni ar ei ran gan berson cofrestredig.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid peidio â gwneud unrhyw drefniadau o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â phlentyn penodol, oni bai bod awdurdod lleol wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan reoliad 33 mewn perthynas â'r plentyn hwnnw.
(3) Os yw awdurdod lleol yn gwneud trefniadau gyda pherson cofrestredig i'r person cofrestredig ddarparu rhieni maeth at ddibenion lleoliad byr-dymor o fewn ystyr rheoliad 37(1), caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau hefyd i'r person cofrestredig gyflawni dyletswydd yr awdurdod lleol o dan reoliad 33(b) mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw ar ei ran.
(4) Rhaid peidio â gwneud unrhyw drefniadau o dan y rheoliad hwn oni bai bod awdurdod lleol wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r person cofrestredig sy'n nodi—
(a)p'un o'i ddyletswyddau y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu ei dirprwyo yn unol â'r rheoliad hwn;
(b)y gwasanaethau sydd i'w darparu i'r awdurdod lleol gan y person cofrestredig;
(c)y trefniadau i'r awdurdod lleol ddethol rhieni maeth penodol o blith y rhai sydd wedi'u cymeradwyo gan y person cofrestredig;
(ch)y gofyniad i'r person cofrestredig gyflwyno adroddiadau i'r awdurdod lleol ar unrhyw leoliad yn ôl yr hyn y gall yr awdurdod ofyn amdano, ac yn benodol yn dilyn unrhyw ymweliad a wnaed o dan reoliad 35; a
(d)y trefniadau ar gyfer terfynu'r cytundeb.
(5) Os yw awdurdod lleol yn bwriadu gwneud trefniant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â phlentyn penodol rhaid i'r awdurdod lleol wneud cytundeb gyda'r person cofrestredig mewn perthynas â'r plentyn hwnnw sy'n nodi—
(a)manylion y rhiant maeth penodol y mae'r plentyn i'w leoli gydag ef;
(b)manylion unrhyw wasanaethau y mae'r plentyn i'w cael;
(c)telerau (gan gynnwys telerau ynglyn â thalu) y cytundeb lleoliad maeth arfaethedig;
(ch)y trefniadau ar gyfer cadw cofnodion am y plentyn, ac ar gyfer dychwelyd cofnodion ar ddiwedd y lleoliad;
(d)gofyniad i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod lleol yn ddi-oed os bydd unrhyw bryderon ynglyn â'r lleoliad; ac
(dd)a ddylai unrhyw blant eraill gael eu lleoli gyda'r rhiant maeth ac ar ba sail.
(6) Mae rhiant maeth y mae plentyn i'w leoli gydag ef yn unol â threfniadau a wneir o dan y rheoliad hwn, i'w drin, mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw, at ddibenion paragraff 12(d) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989 fel rhiant maeth awdurdod lleol.
(7) Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw bryderon a all fod ganddo ynghylch y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan berson cofrestredig.
(8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “person cofrestredig” yw person sy'n berson cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth faethu annibynnol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: