Swyddogaethau'r panel maethu
26.—(1) Swyddogaethau'r panel maethu mewn perthynas ag achosion sy'n cael eu cyfeirio ato gan y darparydd gwasanaeth maethu yw—
(a)ystyried pob cais am gymeradwyaeth ac argymell a yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth neu beidio;
(b)os yw'n argymell cymeradwyo cais, argymell ar ba delerau y dylid rhoi'r gymeradwyaeth;
(c)argymell a yw person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth neu beidio, ac a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol ai peidio—
(i)ar ôl yr adolygiad cyntaf sy'n cael ei gynnal yn unol â rheoliad 29(1); a
(ii)adeg unrhyw adolygiad arall pan ofynnir iddo wneud hynny gan y darparydd gwasanaeth maethu yn unol â rheoliad 29(5);
(ch)ystyried unrhyw achos sy'n cael ei gyfeirio ato o dan reoliad 28(8) neu 29(9).
(2) Rhaid i'r panel maethu hefyd—
(a)cynghori ar y gweithdrefnau y mae adolygiadau i'w cynnal odanynt yn unol â rheoliad 29 gan y darparydd gwasanaeth maethu a monitro eu heffeithiolrwydd o bryd i'w gilydd; a
(b)goruchwylio'r ffordd y mae asesiadau sy'n cael eu cyflawni gan y darparydd gwasanaeth maethu yn cael eu cynnal; ac
(c)rhoi cyngor a chyflwyno argymhellion ar unrhyw faterion eraill neu achosion unigol y bydd y darparydd gwasanaeth maethu yn cyfeirio ato.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “argymell” yw argymell i'r darparydd gwasanaeth maethu.