RHAN IVCYMERADWYO RHIENI MAETH
Swyddogaethau'r panel maethu26
1
Swyddogaethau'r panel maethu mewn perthynas ag achosion sy'n cael eu cyfeirio ato gan y darparydd gwasanaeth maethu yw—
a
ystyried pob cais am gymeradwyaeth ac argymell a yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth neu beidio;
b
os yw'n argymell cymeradwyo cais, argymell ar ba delerau y dylid rhoi'r gymeradwyaeth;
c
argymell a yw person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth neu beidio, ac a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol ai peidio—
i
ar ôl yr adolygiad cyntaf sy'n cael ei gynnal yn unol â rheoliad 29(1); a
ii
adeg unrhyw adolygiad arall pan ofynnir iddo wneud hynny gan y darparydd gwasanaeth maethu yn unol â rheoliad 29(5);
ch
ystyried unrhyw achos sy'n cael ei gyfeirio ato o dan reoliad 28(8) neu 29(9).
2
Rhaid i'r panel maethu hefyd—
a
cynghori ar y gweithdrefnau y mae adolygiadau i'w cynnal odanynt yn unol â rheoliad 29 gan y darparydd gwasanaeth maethu a monitro eu heffeithiolrwydd o bryd i'w gilydd; a
b
goruchwylio'r ffordd y mae asesiadau sy'n cael eu cyflawni gan y darparydd gwasanaeth maethu yn cael eu cynnal; ac
c
rhoi cyngor a chyflwyno argymhellion ar unrhyw faterion eraill neu achosion unigol y bydd y darparydd gwasanaeth maethu yn cyfeirio ato.
3
Yn y rheoliad hwn ystyr “argymell” yw argymell i'r darparydd gwasanaeth maethu.