RHAN VIIIAMRYWIOL

Cofrestru

50.—(1Mae “Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002”(1) yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn y paragraff sy'n dwyn y pennawd “SCHEDULES” ac yn rheoliadau 2(2), 4(2), 4(3), 4(6), 9(b), 9(d), 9(e), 9(h), 10, 12(3)(c), 13, 14, 15(4)(f) ac ym mharagraffau 1(e)(ii), 3(c), 3(d), 4, 5, 6, 7, 8, 11(a), 12(a), 13, 14 o Atodlen 1 ac ym mharagraffau 3(1), 7, 9, 10(1)(a)(i), 10(2)(a), 10(2)(b), 10(2)(c) o Atodlen 2 ac ym mharagraffau 3, 6(b), 7, 11 o Atodlen 3,

  • yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or agency”;

(3Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniadau o “registered manager”, “registered person”, “registered provider”, “representative”, “responsible individual”, yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or agency”;

(4Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “service user”, yn lle “establishment” rhowch “establishment or by an agency”;

(5Yn rheoliad 4(5) ac ym mharagraffau 15, 16(a), 16(d) o Atodlen 1, yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or for the purposes of the agency”;

(6Yn rheoliad 8(1), yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf “establishment or agency” ac “establishment or for the purposes of the agency” yr ail dro;

(7Yn rheoliad 12(3)(c)(i), yn lle “establishment” rhowch “establishment or for the purposes of an agency”;

(8Yn rheoliad 15(4)(b) ac ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ac ym mharagraff 10 o Atodlen 3, yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or by the agency”;

(9Yn rheoliad 15(4)(d), yn lle “establishment is” rhowch “establishment or the premises used by the agency are”;

(10Ym mharagraff 1(b) o Atodlen 1, yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf “establishment or agency” ac “establishment or by the agency” yr ail dro;

(11Ym mharagraff 2(c) o Atodlen 1, yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf a'r ail dro “establishment or agency” ac “establishment or by the agency” y trydydd tro;

(12Ym mharagraffau 5 a 13 o Atodlen 1, yn lle “section 4(8)(a)” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “section 4(8)(a) or (9)(a)”;

(13Ym mharagraff 11 o Atodlen 1, yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf “establishment or for the purposes of an agency”;

(14Ym mharagraff 16 o Atodlen 1, yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf “establishment or for the purposes of the agency”;

(15Ym mharagraff 2 o Atodlen 3, yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf “establishment or agency” ac “establishment or by the agency” yr ail dro.

(16Yn rheoliad 2(1),

(a)yn y man priodol, mewnosodwch—

“fostering service” means—

(a)

a fostering agency within the meaning of the Act; or

(b)

a local authority fostering service;;

“local authority fostering service” means the discharge by a local authority of relevant fostering functions within the meaning of the Act;

(b)yn y diffiniad o “appropriate office”, ar ôl is-adran (d) mewnosodwch—

(e)in relation to a fostering service—

(i)if an office has been specified under regulation 2(2) of the Fostering Services (Wales) Regulations 2003 (2) for the area in which the fostering service, as the case may be, is situated, that office;

(ii)in any other case, any office of the National Assembly.;

(c)yn y diffiniad o “statement of purpose”, ar ôl is-adran (d) mewnosodwch—

(e)in relation to a fostering service, the written statement required to be compiled in relation to the fostering service in accordance with regulation 3(1) of the Fostering Services (Wales) Regulations 2003;.

Ffioedd

51.—(1Mae “Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002”(3) yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn y paragraff sy'n dwyn y pennawd “Arrangement of Regulations”, dylid ychwanegu'r llinell ganlynol ar y diwedd “12. Annual fee — fostering agencies and local authority fostering services”.

(3Yn rheoliad 2(1), (a) yn y mannau priodol mewnosodwch—

“agency” means a fostering agency;

“local authority fostering service” means the discharge by a local authority of relevant fostering functions within the meaning of the Act;”;

(b)

yn y diffiniadau o “new provider”, “previously exempt provider”, “registered manager”, “registered provider”, yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or agency”;

(c)

yn y diffiniad o “service user” yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or by an agency”.

(4Yn rheoliadau 2(2) a 4(3) yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or agency”.

(5Yn rheoliad 3 yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or an agency”.

(6Ar ôl rheoliad 11 (Annual fee — residential family centres), mewnosodir y rheoliad canlynol—

Annual fee — fostering agencies and local authority fostering services

12.(1) The annual fee in respect of a fostering agency is £ 1,000.

(2) The annual fee in respect of a local authority fostering service is £ 1,000.

(3) The annual fee in respect of a fostering agency or a local authority fostering service is to be first payable by the registered provider on the date specified in respect of him or her in paragraph (4)(“the first date”), and thereafter on the anniversary of the first date.

(4) The specified date is—

(a)in the case of a fostering agency, on 1 April 2004, or on the date on which the certificate is issued, whichever is the later;

(b)in the case of a local authority fostering service—

(i)in a case of a local authority which is discharging relevant fostering functions on the date on which the Fostering Services (Wales) Regulations 2003 come into force, on 1 April 2003;

(ii)in any other case, on the date on which such functions are first discharged.

Darpariaethau trosiannol

52.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu o fewn ystyr “fostering agency” yn adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000 (corff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989) sydd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i asiantaeth faethu y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, fel petai unrhyw gyfeiriad ynddynt at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person sy'n rhedeg yr asiantaeth(4)

(a)tan yr amser y caniateir y cais neu'r cofrestriad, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os caiff y cais ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, ac sydd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000.

(4Os yw awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn wedi'i fodloni y dylai'r plentyn gae ei leoli gyda rhieni maeth, cânt wneud trefniadau, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod arnynt gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37 gael eu cyflawni ar eu rhan gan y corff gwirfoddol y mae paragraff (3) yn gymwys iddo (“darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig”)—

(a)tan yr amser y caniateir y cais neu'r cofrestriad, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os caiff y cais ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.

(5Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (4) oni bai—

(a)ei fod wedi'i fodloni—

(i)ynglyn â gallu'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig i gyflawni dyletswyddau ar ei ran; a

(ii)mai'r trefniadau hynny yw'r ffordd fwyaf addas o gyflawni'r dyletswyddau hynny; a

(b)ei fod yn gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig ynglŷn â'r trefniadau, a hwnnw'n gytundeb sy'n darparu ar gyfer ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth ac adroddiadau rhwng yr awdurdod lleol a'r darparydd wirfoddol annibynnol anghofrestredig.

(6Mae paragraffau (2) a (4) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 2 o Orchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 8 (Cymru) a Darpariaethau Trosiannol, Arbedion, Darpariaethau Canlyniadol a Darpariaethau Diwygio) 2002 ac i is-baragraffau (5) a (6) o baragraff 5 o Atodlen 1 iddi (cais gan y Cynulliad Cenedlaethol i ynad hedd)(5).

(7Ni fydd rheoliad 20(5) yn gymwys i unrhyw berson y byddai'n gymwys iddo ar wahân i'r rheoliad hwn, os yw'r person eisoes yn cael ei gyflogi ar 1 Ebrill 2003 gan ddarparydd gwasanaeth maethu mewn sefyllfa y mae paragraff (6) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddo.

Dirymu

53.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu—

(a)Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991(6)

(b)rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Lleoliadau Byr-dymor) (Diwygiadau Amrywiol) 1995(7)

(c)rheoliad 3 o Reoliadau Plant (Eu Hamddiffyn Rhag Tramgwyddwyr) (Diwygiadau Amrywiol) 1997(8))

(ch)rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Eu Hamddiffyn Rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001(9) i'r graddau y mae'n diwygio Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991.