xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN IVCYMERADWYO RHIENI MAETH

Sefydlu panel maethu

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sefydlu o leiaf un panel, a elwir panel maethu, yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu benodi'r naill neu'r llall o'r canlynol i gadeirio'r panel—

(a)aelod hŷn o staff y darparydd gwasanaeth maethu nad yw'n gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd unrhyw berson sy'n cynnal asesiadau o ddarpar rieni maeth; neu

(b)unrhyw berson arall nad yw'n un o gyflogeion, aelodau, partneriaid neu gyfarwyddwyr y darparydd gwasanaeth maethu ac y mae ganddo'r medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer cadeirio panel maethu.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r panel maethu beidio â chynnwys mwy na 10 aelod, gan gynnwys y person a benodir o dan baragraff (2) a rhaid iddo gynnwys—

(a)dau weithiwr cymdeithasol sy'n cael eu cyflogi gan y darparydd gwasanaeth maethu, y mae gan y naill arbenigedd mewn gofal plant a'r llall arbenigedd mewn darparu gwasanaeth maethu;

(b)yn achos asiantaeth faethu—

(i)os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, yr unigolyn hwnnw;

(ii)os corff yw'r darparydd cofrestredig, o leiaf un o'i gyfarwyddwyr neu'r unigolyn cyfrifol;

(c)yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, o leiaf un aelod etholedig o'r awdurdod lleol; ac

(ch)o leiaf bedwar person arall (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel “aelodau annibynnol”), gan gynnwys o leiaf un person sydd, neu sydd wedi bod o fewn y dwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth ar gyfer darparydd gwasanaeth maethu ac eithrio'r un y mae ei banel maethu yn cael ei sefydlu.

(4Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu benodi aelod o'r panel maethu a fydd yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person sy'n cael ei benodi i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag (“yr is-gadeirydd”).

(5Gall panel maethu gael ei sefydlu ar y cyd gan unrhyw ddau ddarparydd gwasanaeth maethu ond nid mwy na thri darparydd gwasanaeth maethu, ac os sefydlir panel maethu o'r fath—

(a)un ar ddeg yw uchafswm yr aelodau y gellir eu penodi i'r panel hwnnw;

(b)rhaid i bob darparydd gwasanaeth maethu benodi dau berson i'r panel, y mae'r naill yn dod o dan baragraff (3)(a), a'r llall yn dod o dan baragraff (3)(b) neu (c), yn ôl fel y digwydd;

(c)drwy gytundeb rhwng y darparwyr gwasanaeth maethu rhaid penodi—

(i)person i gadeirio'r panel;

(ii)o leiaf bedwar aelod annibynnol gan gynnwys o leiaf un person sydd, neu sydd wedi bod o fewn y dwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth ar gyfer darparydd gwasanaeth maethu ac eithrio unrhyw un o'r rhai y mae eu panel maethu yn cael ei sefydlu; a

(iii)aelod o'r panel a fydd yn gweithredu fel cadeirydd os bydd y person sy'n cael ei penodi i gadeirio'r panel yn absennol neu os bydd ei swydd yn wag (“yr is-gadeirydd”).

(6Rhaid i aelod o banel maethu beidio â dal ei swydd am dymor sy'n hwy na thair blynedd, ac ni chaiff ddal ei swydd ar gyfer panel yr un darparydd gwasanaeth maethu am fwy na dau dymor yn olynol.

(7Caiff unrhyw aelod o'r panel ymddiswyddo ar unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o un mis i'r darparydd gwasanaeth maethu.

(8Os yw darparydd gwasanaeth maethu o'r farn fod unrhyw aelod o'r panel maethu yn anaddas i aros yn ei swydd neu'n methu ag aros ynddi, gall derfynu swydd yr aelod hwnnw ar unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r aelod.

(9Rhaid peidio â phenodi person yn aelod annibynnol o banel maethu—

(a)os yw'r person yn rhiant maeth sydd wedi'i gymeradwyo gan y darparydd gwasanaeth maethu;

(b)os yw'r person yn cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaeth maethu;

(c)os yw'r person yn ymwneud â rheoli'r darparydd gwasanaeth maethu;

(ch)os yw'r person, yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, yn aelod etholedig o'r awdurdod lleol; neu

(d)os yw'r person, yn achos asiantaeth faethu, yn un sy'n perthyn i unrhyw un o gyflogeion y darparydd cofrestredig, neu i unrhyw berson sy'n ymwneud â rheoli'r asiantaeth faethu.

(10At ddibenion paragraff (9)(d), mae person (“person A”) yn perthyn i berson arall (“person B”) os yw person A—

(a)yn aelod o aelwyd person B neu'n briod i berson B;

(b)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i berson B; neu

(c)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i'r person y mae person B yn briod iddo.

Cyfarfodydd y panel maethu

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i fusnes beidio â chael ei gynnal gan banel maethu oni bai bod o leiaf bump o'i aelodau, gan gynnwys y person sy'n cael ei benodi i gadeirio'r panel, neu'r is-gadeirydd, o leiaf un o'r gweithwyr cymdeithasol sy'n cael ei gyflogi gan y gwasanaeth maethu ac o leiaf ddau o'r aelodau annibynnol, yn cyfarfod fel panel.

(2Rhaid i banel maethu wneud cofnod ysgrifenedig o'i drafodion a'r rhesymau dros ei argymhellion.

(3Yn achos cyd-banel maethu, rhaid peidio â chynnal unrhyw fusnes nes bod o leiaf chwech o'i aelodau, gan gynnwys y person sy'n cael ei benodi i gadeirio'r panel, neu'r is-gadeirydd, ac un gweithiwr cymdeithasol o bob un o'r gwasanaethau maethu, yn cyfarfod fel panel.

Swyddogaethau'r panel maethu

26.—(1Swyddogaethau'r panel maethu mewn perthynas ag achosion sy'n cael eu cyfeirio ato gan y darparydd gwasanaeth maethu yw—

(a)ystyried pob cais am gymeradwyaeth ac argymell a yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth neu beidio;

(b)os yw'n argymell cymeradwyo cais, argymell ar ba delerau y dylid rhoi'r gymeradwyaeth;

(c)argymell a yw person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth neu beidio, ac a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol ai peidio—

(i)ar ôl yr adolygiad cyntaf sy'n cael ei gynnal yn unol â rheoliad 29(1); a

(ii)adeg unrhyw adolygiad arall pan ofynnir iddo wneud hynny gan y darparydd gwasanaeth maethu yn unol â rheoliad 29(5);

(ch)ystyried unrhyw achos sy'n cael ei gyfeirio ato o dan reoliad 28(8) neu 29(9).

(2Rhaid i'r panel maethu hefyd—

(a)cynghori ar y gweithdrefnau y mae adolygiadau i'w cynnal odanynt yn unol â rheoliad 29 gan y darparydd gwasanaeth maethu a monitro eu heffeithiolrwydd o bryd i'w gilydd; a

(b)goruchwylio'r ffordd y mae asesiadau sy'n cael eu cyflawni gan y darparydd gwasanaeth maethu yn cael eu cynnal; ac

(c)rhoi cyngor a chyflwyno argymhellion ar unrhyw faterion eraill neu achosion unigol y bydd y darparydd gwasanaeth maethu yn cyfeirio ato.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “argymell” yw argymell i'r darparydd gwasanaeth maethu.

Asesu darpar rieni maeth

27.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gynnal asesiad o unrhyw berson a all fod yn addas, yn ei farn ef, i ddod yn rhiant maeth yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu o'r farn y gall person fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth rhaid iddo—

(a)sicrhau gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 3, am y darpar riant maeth ac aelodau eraill o aelwyd a theulu'r person, ac unrhyw wybodaeth arall y mae'n barnu ei bod yn berthnasol;

(b)cyfweld o leiaf ddau berson sy'n cael eu henwi gan y darpar riant maeth i ddarparu geirda personol ar gyfer y darpar riant maeth a pharatoi adroddiadau ysgrifenedig am y cyfweliadau;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (3) ymgynghori â'r awdurdod lleol y mae'r darpar riant maeth yn byw yn ei ardal, a chymryd barn yr awdurdod hwnnw i ystyriaeth;

(ch)gan roi sylw i'r materion hyn, ystyried a yw'r darpar riant maeth yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y darpar riant maeth yn addas ar gyfer unrhyw blentyn y gellir rhoi cymeradwyaeth ar ei gyfer;

(d)paratoi adroddiad ysgrifenedig ar y person sy'n cynnwys y materion a nodir ym mharagraff (4); ac

(dd)cyfeirio'r adroddiad at y panel maethu a hysbysu'r darpar riant maeth yn unol â hynny.

(3Nid yw paragraff (2)(c) yn gymwys os awdurdod lleol yw'r darparydd gwasanaeth maethu a bod y ceisydd yn byw yn ardal yr awdurdod hwnnw.

(4Rhaid i'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(d) gynnwys y materion canlynol mewn perthynas â'r darpar riant maeth—

(a)yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan Atodlen 3 ac unrhyw wybodaeth arall y mae'r darparydd gwasanaeth maethu yn barnu ei bod yn berthnasol;

(b)asesiad y darparydd gwasanaeth maethu o ba mor addas yw'r person i weithredu fel rhiant;

(c)cynigion y darparydd gwasanaeth maethu ynghylch telerau ac amodau unrhyw gymeradwyaeth.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid peidio ag ystyried bod person yn addas i weithredu fel rhiant maeth os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy'n 18 oed neu drosodd—

(a)wedi'i gollfarnu o dramgwydd penodedig a gyflawnwyd yn 18 oed neu drosodd; neu

(b)wedi'i rybuddio mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd o'r fath yr oedd y person wedi'i gyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.

(6Caiff y darparydd gwasanaeth maethu ystyried bod person y byddai paragraff (5), ar wahân i'r paragraff hwn, yn gymwys iddo, yn addas i weithredu neu barhau i weithredu, yn ôl fel y digwydd, fel rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn neu blant penodol a enwir os yw'r darparydd gwasanaeth maethu wedi'i fodloni bod angen hynny er lles y plentyn hwnnw neu'r plant hynny, a naill ai—

(a)bod y person, neu aelod o aelwyd y person, yn berthynas i'r plentyn; neu

(b)bod y person eisoes yn gweithredu fel rhiant maeth i'r plentyn.

(7Yn y rheoliad hwn ystyr “tramgwydd penodedig” yw—

(a)tramgwydd yn erbyn plentyn;

(b)tramgwydd a bennir yn Atodlen 4;

(c)tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(1) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau ynglyn â phornograffi)(2) os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed;

(ch)unrhyw dramgwydd arall sy'n cynnwys anaf corfforol i blentyn, ac eithrio tramgwydd ymosodiad cyffredin neu guro, ac

mae i'r ymadrodd “tramgwydd yn erbyn plentyn” yr ystyr a roddir i “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(3) ac eithrio nad yw'n cynnwys tramgwydd yn erbyn adrannau 6, 12 neu 13 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rhywiol â merch 13 i 16 oed, sodomiaeth, neu anwedduster rhwng dynion)(4) mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd.

Cymeradwyo rhieni maeth

28.—(1Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu beidio â chymeradwyo person sydd wedi'i gymeradwyo fel rhiant maeth gan ddarparydd gwasanaeth maethu arall, ac nad yw ei gymeradwyaeth wedi'i therfynu.

(2Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu beidio â chymeradwyo person fel rhiant maeth oni bai—

(a)ei fod wedi cwblhau ei asesiad o ba mor addas yw'r person; a

(b)bod ei banel maethu wedi ystyried y cais.

(3Wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo person fel rhiant maeth a phenderfynu ynghylch telerau unrhyw gymeradwyaeth, rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu gymryd i ystyriaeth argymhelliad ei banel maethu.

(4Ni chaiff aelod o'i banel maethu gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad sy'n cael ei wneud gan ddarparydd gwasanaeth maethu o dan baragraff (3).

(5Os yw darparydd gwasanaeth maethu yn penderfynu cymeradwyo person fel rhiant maeth rhaid iddo—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person yn pennu telerau'r cymeradwyaeth, er enghraifft a yw mewn perthynas â phlentyn neu blant penodol a enwir neu â nifer ac ystod oedran plant neu â lleoliadau o unrhyw fath penodol neu a yw'n gymeradwyaeth o dan unrhyw amgylchiadau penodol; a

(b)gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r person sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 5 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y “cytundeb gofal maeth”).

(6Os yw darparydd gwasanaeth maethu o'r farn nad yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth rhaid iddo—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person ei fod yn bwriadu peidio â'i gymeradwyo ynghyd â'i resymau a chopi o argymhelliad y panel maethu; a

(b)gwahodd y person i gyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad.

(7Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), gall fynd ati i wneud ei benderfyniad.

(8Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), rhaid iddo—

(a)cyfeirio'r achos at y panel maethu iddo ei ystyried ymhellach; a

(b)gwneud ei benderfyniad, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad newydd sy'n cael ei wneud gan y panel maethu.

(9Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (7) neu (8)(b), yn ôl fel y digwydd, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hysbysu'r darpar riant maeth yn ysgrifenedig, ac —

(a)os yw'r penderfyniad yn benderfyniad i gymeradwyo'r person fel rhiant maeth, cydymffurfio â pharagraff (5) mewn perthynas â'r person; neu

(b)os yw'r penderfyniad yn benderfyniad i beidio â chymeradwyo'r person, darparu rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad.

Adolygu a therfynu cymeradwyaeth

29.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu adolygu cymeradwyaeth pob rhiant maeth yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid cynnal adolygiad heb fod yn fwy na blwyddyn ar ôl cymeradwyaeth ac ar ôl hynny pryd bynnag y mae'r darparydd gwasanaeth maethu yn barnu ei fod yn angenrheidiol, ond heb fod mwy na blwyddyn rhwng adegau gwneud hynny.

(3Wrth ymgymryd ag adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu—

(a)gwneud unrhyw ymholiadau a chael unrhyw wybodaeth y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn adolygu'r cymeradwyaeth i benderfynu a yw'r person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn parhau i fod yn addas; a

(b)ceisio barn y canlynol, a'i chymryd i ystyriaeth—

(i)y rhiant maeth;

(ii)(yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth y plentyn) unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth; ac

(iii)unrhyw awdurdod cyfrifol sydd wedi lleoli plentyn gyda'r rhiant maeth o fewn y flwyddyn flaenorol.

(4Ar ddiwedd yr adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi adroddiad ysgrifenedig, sy'n nodi—

(a)a yw'r person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn parhau i fod yn addas; a

(b)a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol.

(5Adeg yr adolygiad cyntaf o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gyfeirio ei adroddiad at y panel maethu iddynt ei ystyried, a gall wneud hynny adeg unrhyw adolygiad dilynol.

(6Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn penderfynu, o ystyried unrhyw argymhelliad sy'n cael ei wneud gan y panel maethu, fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas a bod telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau i fod yn briodol, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth am ei benderfyniad.

(7Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu bellach wedi'i fodloni, o ystyried unrhyw argymhelliad sy'n cael ei wneud gan y panel maethu, fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, neu fod telerau'r gymeradwyaeth yn briodol, rhaid iddo—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth ei fod yn bwriadu terfynu'r gymeradwyaeth neu adolygu telerau'r gymeradwyaeth yn ôl fel y digwydd, ynghyd â'i resymau; a

(b)gwahodd y rhiant maeth i gyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig iddo o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad.

(8Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), gall fynd ati i wneud ei benderfyniad.

(9Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), rhaid iddo—

(a)cyfeirio'r achos at y panel maethu iddo ef ei ystyried; a

(b)gwneud ei benderfyniad, gan ystyried unrhyw argymhelliad a wnaed gan y panel maethu.

(10Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (8) neu (9)(b), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth yn pennu yn ôl fel y digwydd—

(a)bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas a bod telerau'r gymeradwyaeth yn parhau i fod yn briodol;

(b)bod y gymeradwyaeth wedi'i therfynu o ddyddiad penodedig, a'r rhesymau dros ei therfynu; neu

(c)telerau diwygiedig y gymeradwyaeth a'r rhesymau dros y diwygiad.

(11Caiff rhiant maeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd gwasanaeth maethu ar unrhyw bryd nad yw'r rhiant maeth yn dymuno gweithredu bellach fel rhiant maeth ac wedi hynny mae cymeradwyaeth y rhiant maeth yn cael ei therfynu 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr hysbysiad i law.

(12Rhaid anfon copi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn i'r awdurdod sy'n gyfrifol am unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth (onid y darparydd gwasanaeth maethu yw'r awdurdod cyfrifol hefyd), ac i'r awdurdod ardal.

Cofnodion achos ynglŷn â rhieni maeth ac eraill

30.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gadw cofnod achos ar gyfer pob rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gannddo a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys copïau o'r dogfennau a bennir ym mharagraff (2) a'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3).

(2Y dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn ôl fel y digwydd yw—

(a)yr hysbysiad cymeradwyo a roddwyd o dan reoliad 28(5)(a);

(b)y cytundeb gofal maeth;

(c)unrhyw adroddiad ar adolygiad o gymeradwyaeth a baratowyd o dan reoliad 29(4);

(ch)unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 29(10);

(d)unrhyw gytundeb a wnaed yn unol â rheoliad 38(1)(a);

(dd)yr adroddiad a baratowyd o dan reoliad 27(2)(d) ac unrhyw adroddiadau eraill a gyflwynwyd i'r panel maethu; ac

(e)unrhyw argymhellion a wnaed gan y panel maethu.

(3Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) yn ôl fel y digwydd, yw—

(a)cofnod o bob lleoliad gyda'r rhiant maeth gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi'i leoli, dyddiadau dechrau a therfynu pob lleoliad ac amgylchiadau'r terfyniad;

(b)yr wybodaeth a sicrhawyd gan y darparydd gwasanaeth maethu mewn perthynas ag asesu a chymeradwyo'r rhiant maeth ac mewn perthynas ag unrhyw adolygiad neu derfyniad o'r gymeradwyaeth.

(4Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod achos ar gyfer pob person y mae plentyn wedi'i leoli gydag ef o dan reoliad 38(2) a rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â'r person hwnnw—

(a)y cytundeb a wnaed yn unol â rheoliad 38(2)(b);

(b)cofnod ynglyn â'r lleoliad, gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi'i leoli, dyddiadau dechrau a therfynu'r lleoliad, ac amgylchiadau'r terfyniad; ac

(c)yr wybodaeth a sicrhawyd mewn perthynas â'r ymholiadau a wnaed o dan reoliad 38(2).

(5Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio cofnod ar gyfer pob person nad yw'n ei gymeradwyo fel rhiant maeth, neu sy'n tynnu ei gais yn ôl cyn iddo gael ei gymeradwyo, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys mewn perthynas â'r person—

(a)yr wybodaeth a sicrhawyd mewn cysylltiad â'r asesiad;

(b)unrhyw adroddiad a gyflwynwyd i'r panel maethu ac unrhyw argymhelliad a wnaed gan y panel maethu; ac

(c)unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 28.

Cofrestr o rieni maeth

31.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gofnodi, mewn cofrestr sy'n cael ei chadw at y diben, y manylion a bennir ym mharagraff (2) ac yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, rhaid iddo gofnodi'r manylion a bennir ym mharagraff (3) hefyd.

(2Y manylion yw—

(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob rhiant maeth;

(b)dyddiad cymeradwyo'r rhiant maeth a dyddiad pob adolygiad o'i gymeradwyaeth; ac

(c)telerau cyfredol y gymeradwyaeth.

(3Rhaid i bob awdurdod lleol gofnodi yn ei gofrestr—

(a)enw a chyfeiriad pob person y mae wedi lleoli plentyn gydag ef o dan reoliad 38(2);

(b)dyddiad pob cytundeb a wnaed yn unol â rheoliad 38(2)(b); ac

(c)telerau unrhyw gytundeb o'r fath sydd mewn grym am y tro.

Cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion

32.—(1Rhaid dal gafael ar y cofnodion sy'n cael eu llunio mewn perthynas â rhiant maeth o dan reoliad 30(1) ac unrhyw gofnod ynglyn â'r person hwnnw yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan reoliad 31(1), am o leiaf 10 mlynedd o'r dyddiad y mae cymeradwyaeth y person yn cael ei therfynu.

(2Rhaid dal gafael ar y cofnodion a luniwyd gan awdurdod lleol o dan reoliad 30(4) ynglyn â pherson y mae plentyn wedi'i leoli gydag ef o dan reoliad 38(2), ac ar unrhyw gofnod ynglŷn â pherson o'r fath yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan reoliad 31(1), am o leiaf 10 mlynedd o ddyddiad terfynu'r lleoliad.

(3Rhaid dal gafael ar y cofnodion sy'n cael eu llunio o dan reoliad 30(5) am o leiaf dair blynedd o'r dyddiad y mae'r cais am ddod yn rhiant maeth yn cael ei wrthod neu ei dynnu'n ôl, yn ôl fel y digwydd.

(4Gellir cydymffurfio â'r gofynion ym mharagraffau (1) i (3) drwy ddal gafael ar y cofnodion ysgrifenedig gwreiddiol neu gopïau ohonynt, neu drwy gadw'r cyfan neu ran o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ynddynt ar ryw ffurf hygyrch arall megis cofnod cyfrifiadurol.

(5Rhaid cadw unrhyw gofnodion neu gofrestr sy'n cael eu cadw yn unol â rheoliad 30 neu 31 yn ddiogel a pheidio â'u datgelu i unrhyw berson ac eithrio—

(a)yn unol ag unrhyw ddarpariaeth mewn statud, neu a wnaed o dan statud, neu yn rhinwedd statud, y mae'r hawl i weld cofnodion o'r fath wedi'i hawdurdodi odani;

(b)unrhyw orchymyn llys sy'n caniatáu i bobl gael gweld cofnodion o'r fath.