2003 Rhif 1976 (Cy.215)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 19922

Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”)2 yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau3

Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) —

a

ym mharagraff (1) rhodder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor —

  • “local health board” has the meaning assigned to it by section 16BA of the Act3;

b

ym mharagraff (1A) yn lle “health authority” rhodder “local health board”.”

c

Ar ôl paragraff (1A) mewnosoder y paragraff canlynol —

1B

In the application of these Regulations in relation to Wales “Health Authority” shall, in each place where these words occur, have effect as if there were substituted the words “local health board”.

Diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau4

Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (Datganiad o Daliadau Deintyddol) ar ddiwedd y Tabl o dan baragraff (1) rhodder —

a

yng ngholofn (1) y Rhif olion Rhufeinig “XI” ac “XII”, a

b

yng ngholofn (2) “Paternity Payments” ac “Adoptive Leave Payments”.

Diwygio Atodlen 4 i'r prif Reoliadau5

Yn Rhan II o Atodlen 4 i'r prif Reoliadau (triniaeth cymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mhob un o baragraffau 1 a 2, yn lle “£375” rhodder “£390”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

Rhodri MorganPrif Weinidog Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/611) (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hynny yn rheoleiddio'r telerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Caiff rheoliad 2 o'r prif Reoliadau ei ddiwygio er mwyn ychwanegu'r diffiniad “bwrdd iechyd lleol” ac mae'n cynnwys darpariaethau fel bod cyfeiriadau at “FHSA” ac “Awdurdod Iechyd” yn cael eu trin fel cyfeiriadau at fwrdd iechyd lleol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 19(1) o'r prif Reoliadau er mwyn ychwanegu'r ddau benderfyniad newydd, XI ac XII at y tabl sy'n rhestru'r penderfyniadau. Pwnc penderfyniad XI yw “Taliadau Tadolaeth” a phwnc penderfyniad XII yw “Taliadau Seibiant Mabwysiadu”.

Maent hefyd yn diwygio Atodlen 4 i'r prif reoliadau er mwyn codi (o £375 i £390) y swm a bennir ynddi fel cost uchaf, neu gost debygol, y gofal a'r driniaeth y caiff deintydd ymgymryd a hwy heb ofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw oddi wrth y Bwrdd Ymarfer Deintyddol.