Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 1852 (Cy. 202)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

DŴ R, CYMRU

Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

16 Gorffennaf 2003

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), sydd wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â diogelu dŵ r rhag y llygredd sy'n cael ei achosi gan nitradau o ffynonellau amaethyddol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003.

Diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998

2.—(1Mae Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998(3) (“Rheoliadau 1998”) yn cael eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â'r paragraffau canlynol—

(2Yn rheoliad 2(dehongli) yn y diffiniad o “nitrate vulnerable zones” mewnosodir y geiriau “or 3B” yn union ar ôl “regulation 3”.

(3Yn rheoliad 8(1) (tramgwyddau) —

(i)yn lle “level 5 on the standard scale” rhoddir “the statutory maximum”; a

(ii)hepgorir y geiriau “not exceeding the statutory maximum” yn union ar ôl y gair “fine” lle mae'n ymddangos yr ail dro.

(4Yn yr Atodlen

(i)ym mharagraff 9, ar ôl is-baragraff (2), mewnosodir y canlynol —

(3) Subparagraph (2)(b)(i) shall have effect in relation to all nitrate vulnerable zones in Wales except Dyserth and Trelech as if “2006” were substituted for “2002”;

(ii) yn lle paragraff 15 rhoddir —

15.  Any record of an event made for the purposes of paragraph 14 shall be retained for a period of 5 years after that event..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998.

Yn benodol, mewn perthynas â'r ardaloedd pellach hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Dŵ r Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002, maent yn darparu bod y dyddiad ar gyfer y lluosydd 210kg sydd wedi'i nodi ym mharagraff 9(2)(b)(i) o'r Atodlen yn cael ei estyn i 19 Rhagfyr 2006. Mewn perthynas â'r ardaloedd hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau cyn Rheoliadau 2002, 19 Rhagfyr 2002 yw'r dyddiad perthnasol o hyd.

Mae'r Rheoliadau hefyd

(a)yn diwygio'r diffiniad o “nitrate vulnerable zones”;

(b)yn diwygio rheoliad 8 i ddarparu, o gollfarnu'n ddiannod, ar gyfer dirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol ac, o gollfarnu ar dditiad, ar gyfer dirwy ddigyfyngiad; ac

(c)yn rhoi paragraff 15 newydd yn lle paragraff 15 o'r Atodlen.

(1)

Gweler Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2001 (OS 2001/2555) ac Atodlen 2, paragraff 2 iddo.