2003 Rhif 1852 (Cy. 202)

AMAETHYDDIAETH, CYMRUDŴ R, CYMRU

Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), sydd wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â diogelu dŵ r rhag y llygredd sy'n cael ei achosi gan nitradau o ffynonellau amaethyddol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003.

Diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 19982

1

Mae Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 19983 (“Rheoliadau 1998”) yn cael eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â'r paragraffau canlynol—

2

Yn rheoliad 2(dehongli) yn y diffiniad o “nitrate vulnerable zones” mewnosodir y geiriau “or 3B” yn union ar ôl “regulation 3”.

3

Yn rheoliad 8(1) (tramgwyddau) —

i

yn lle “level 5 on the standard scale” rhoddir “the statutory maximum”; a

ii

hepgorir y geiriau “not exceeding the statutory maximum” yn union ar ôl y gair “fine” lle mae'n ymddangos yr ail dro.

4

Yn yr Atodlen

i

ym mharagraff 9, ar ôl is-baragraff (2), mewnosodir y canlynol —

3

Subparagraph (2)(b)(i) shall have effect in relation to all nitrate vulnerable zones in Wales except Dyserth and Trelech as if “2006” were substituted for “2002”

ii

yn lle paragraff 15 rhoddir —

15

Any record of an event made for the purposes of paragraph 14 shall be retained for a period of 5 years after that event.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998.

Yn benodol, mewn perthynas â'r ardaloedd pellach hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Dŵ r Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002, maent yn darparu bod y dyddiad ar gyfer y lluosydd 210kg sydd wedi'i nodi ym mharagraff 9(2)(b)(i) o'r Atodlen yn cael ei estyn i 19 Rhagfyr 2006. Mewn perthynas â'r ardaloedd hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau cyn Rheoliadau 2002, 19 Rhagfyr 2002 yw'r dyddiad perthnasol o hyd.

Mae'r Rheoliadau hefyd

a

yn diwygio'r diffiniad o “nitrate vulnerable zones”;

b

yn diwygio rheoliad 8 i ddarparu, o gollfarnu'n ddiannod, ar gyfer dirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol ac, o gollfarnu ar dditiad, ar gyfer dirwy ddigyfyngiad; ac

c

yn rhoi paragraff 15 newydd yn lle paragraff 15 o'r Atodlen.