xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 1850 (Cy.200)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

16 Gorffennaf 2003

Yn dod i rym

Rheoliadau 1,2,3,4,5,7,8,9, ac 11 a 13 i 20

1 Awst 2003

Rheoliadau 6,10 a 12

6 Tachwedd 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), a 68(1) ac (1A), 69(1), 74A, 75(1), 76(1), ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1) (fel y'i darllenir ar y cyd â rheoliad 14 o Reoliadau Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau ac Arbedion Trosiannol a Chanlyniadol) (Cymru a Lloegr) 2000(2) ac erthyglau 2 a 6 o Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002(3)), ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n nodi egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn nodi'r gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd(4)), ac yntau wedi'i ddynodi(5) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran olaf hon (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir yn benodol uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 a byddant yn gymwys i Gymru'n unig.

(2Bydd rheoliadau 1, 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9 ac11 a 13 i 20 yn dod i rym ar 1 Awst 2003 a bydd rheoliadau 6, 10 a 12 yn dod i rym ar 6 Tachwedd 2003.

Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001

2.  Caiff Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001(6) eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli) —

(a)ym mharagraff (1) —

(i)caiff y diffiniadau canlynol eu dileu —

(aa)unrhyw ddiffiniad rai yn cychwyn â'r ymadrodd “sefydliadau a gymeradwywyd gan y CE”, “sefydliadau a ganiateir gan y CE”, “sefydliadau a gymeradwywyd gan Ardal Economaidd Ewropeaidd”, “sefydliadau a ganiateir gan Ardal Economaidd Ewropeaidd” “sefydliadau a gymeradwywyd gan y DU” neu “sefydliadau a ganiateir gan y DU”,

(bb)“rhestr genedlaethol”, a

(cc)“trydedd wlad”,

(ii)ym mhob un o'r diffiniadau o “porthiant cydategol”, “porthiant cyflawn”, yn lle'r ymadrodd “rheoliad 12(10)(a)” rhodder yr ymadrodd “rheoliad 12(6)” ac yn y diffiniad o “porthiant”, yn lle'r ymadrodd “rheoliad 12(11)(a)” rhodder yr ymadrodd “rheoliad 12(7)”,

(iii)yn lle'r diffiniad o “porthiant cyfansawdd caiff y diffiniad canlynol ei roi

(iv)yn y diffiniad o “deunydd porthiant” caiff yr ymadrodd “, yn ddarostyngedig i reoliad 12(10)(b),” ei ddileu,

(v)yn union ar ôl y diffiniad o “cynnyrch canolraddol awdurdodedig” caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod —

(vi)yn lle'r diffiniad o “rhoi mewn cylchrediad” caiff y diffiniad canlynol ei roi

(vii)yn union ar ôl y diffiniad o “starts” caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod —

(b)yn lle paragraff (8) (terfynau amrywiad) caiff y paragraff canlynol ei roi —

(8) Caiff unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o Offerynnau'r Gymuned ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003..

4.  Yn lle paragraff (1) o reoliad 7 (terfynau amrywiad) caiff y paragraff canlynol ei roi —

(1) Bydd Adran 74(2) yn effeithiol fel pe mewnosodid ar ôl y geiriau “y Rhan hon o'r Ddeddf hon”, y geiriau “neu Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001 (7), Rheoliadau Porthiant a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2001(8), Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002(9) Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003(10)) a'r Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003..

5.  Yn lle rheoliad 12 (rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys sylweddau annymunol) caiff y rheoliad canlynol ei roi—

Rheoli cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau annymunol ac y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwydydd anifeiliaid

14.(1) Ni chaiff unrhyw berson—

(a)roi mewn cylchrediad unrhyw gynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid ac a nodir yn benodol yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 7; neu

(b)defnyddio unrhyw gynnyrch o'r fath ar gyfer bwydydd anifeiliaid,

os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o'r Rhan honno dros ben y lefel a nodir yn benodol ar ei gyfer yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.

(2) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw borthiant cydategol, na'i ddefnyddio fel porthiant—

(a)o ystyried faint ohono y cymeradwyir ei ddefnyddio mewn dogn ddyddiol, os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o Ran I o Atodlen 7 dros ben y lefel a nodir yn benodol ar ei gyfer yng ngholofn 3 o'r Rhan honno mewn perthynas â phorthiant cyflawn; a

(b)os nad oes darpariaeth yn ymwneud ag unrhyw borthiant cydategol yn y cofnod sy'n cyfateb yng ngholofn 2 o'r Rhan honno.

(3) Ni chaiff unrhyw berson gymysgu unrhyw gynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid ac a nodir yn benodol yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 7 ac sy'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o'r Rhan honno dros ben y lefel a nodir yn benodol ar ei gyfer yng ngholofn 3 o'r Rhan honno at ddibenion gwneud gwanediad ohono gydag unrhyw gynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid.

(4) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw gynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid neu ddefnyddio unrhyw gynnyrch o'r fath ar gyfer bwydydd anifeiliaid oni bai—

(a)ei fod mewn cyflwr da ac yn ddilys; a

(b)ei fod o ansawdd werthadwy.

(5) At ddibenion paragraff (4) uchod, nid yw cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid ac a nodir yn benodol yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 7 mewn cyflwr da, yn ddilys ac o ansawdd werthadwy os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o'r Rhan honno dros ben y lefel a nodir yn benodol mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.

(6) At ddibenion paragraff (2) uchod ystyr “porthiant” yw—

(a)cynnyrch sy'n deillio o lysiau ac sydd yn ei gyflwr naturiol (pa un a yw'n ffres neu wedi'i gadw);

(b)cynnyrch sy'n deillio o brosesu cynnyrch o'r fath yn ddiwydiannol; neu

(c)sylwedd organig neu anorganig a ddefnyddir wrth ei hun neu mewn cymysgedd,

pa un a yw'n cynnwys ychwanegion ai peidio, i'w fwydo drwy'r geg i anifeiliaid anwes neu i anifeiliaid sy'n byw yn rhydd yn y gwyllt, a dehonglir “porthiant cydategol” a “phorthiant cyflawn” yn unol â hynny..

6.  Yn union ar ôl rheoliad 17 (rheoli porthiant a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol, a darpariaethau atodol yn gysylltiedig â datganiad statudol) caiff y rheoliad canlynol ei fewnosod—

Cyflenwi gwybodaeth mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes

17A.  Pan fo person y cyflenwir iddo borthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes yn gofyn hynny, rhaid i gyflenwr y porthiant cyfansawdd hwnnw ddarparu manylion y canrannau union mewn pwysau o ddeunyddiau porthiant a ddefnyddir yn y porthiant cyfansawdd hwnnw..

7.  Yn lle paragraff (1) o reoliad 24 (addasu adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) caiff y paragraff canlynol ei roi—

(1) At ddibenion gorfodi a gweinyddu'r darpariaethau a nodir yn benodol ym mharagraff (2) isod bydd adran 74A(3) yn effeithiol fel pe rhoddid yn lle'r geiriau “rheoliadau o dan is-adran (1) uchod, neu bydd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth arall o'r rheoliadau,” y geiriau “unrhyw ddarpariaeth a nodir yn benodol yn rheoliad 25(2) o Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Porthiant a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002, Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003, Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddiad) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003.

8.  Ym mharagraff (2) o reoliad 24 yn lle'r ymadrodd “12(3), (4), (6), (7) a (9), 13(1), 15, 16(1) a 17(1)” rhodder yr ymadrodd “12(1) i (4), 13(1), 15, 16(1), 17(1) ac 17A”.

9.  Yn Atodlen 3 (ychwanegion a ganiateir a darpariaethau'n ymwneud â'u defnyddio) yn lle'r rhestr o Reoliadau'r Gymuned Ewropeaidd a nodir yn benodol yn Rhan IX o'r Tabl (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd y rheolir ychwanegion drwyddynt) caiff y rhestr o Reoliadau'r Gymuned Ewropeaidd a nodir yn benodol yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ei rhoi.

10.  Yn Atodlen 4 (cynnwys y datganiad statudol neu ddatganiad arall (ac eithrio ychwanegion a rhag-gymysgeddau na chânt eu cynnwys mewn porthiant)) —

(a)caiff paragraff 14(1)(c) ei ddileu;

(b)ym mharagraff 15 —

(i)caiff y gair “a”, lle y mae'n ymddangos ar ddiwedd is-baragraff (b), ei ddileu,

(ii)yn lle is-baragraff (c) caiff yr is-baragraff canlynol ei roi

(c)Rhif cyfeirnod y sypyn; a a

(iii)yn union ar ôl is-baragraff (c) caiff yr is-baragraff canlynol ei fewnosod —

(ch)Rhif cymeradwyo neu gofrestru a ddyrannwyd yn unol ag Erthygl 5 neu 10, yn ôl y digwydd, o Gyfarwyddeb Sefydliadau i'r sefydliadau a wnaeth weithgynhyrchu'r porthiant cyfansawdd;; a

(c)yn lle paragraff 19 caiff y paragraff canlynol ei roi —

19.  Yn achos unrhyw borthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes

(a)rhaid datgelu'r holl ddeunyddiau porthiant yn y datganiad statudol —

(i)wrth eu henwau penodol, a

(ii)gan ddynodi, mewn trefn ddisgynnol, beth mewn pwysau yw canran pob deunydd porthiant a gaiff ei gynnwys yn y porthiant cyfansawdd, yn ddarostyngedig i derfyn amrywiad o +/− 15% mewn perthynas â phob canran a ddatganwyd; a

(b)caiff y datganiad statudol gynnwys y datganiad canlynol —

11.  Yn Atodlen 7 (terfynau a ragnodwyd ar gyfer sylweddau annymunol) —

(a)yn Rhan I (porthiant) yn lle'r penawdau i golofn 1 a cholofn 2 rhodder y penawdau “Sylweddau Annymunol” a “Cynhyrchion y bwriedir eu defnyddio mewn bwydydd anifeiliaid” yn y drefn honno; a

(b)Caiff Rhan II (deunyddiau porthiant) ei dileu.

12.  Caiff Rhan II o Atodlen 10 (categorïau o ddeunyddiau porthiant i'w defnyddio mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes) ei dileu.

Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999

13.  Caiff Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999(11) eu diwygio i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru yn unol â rheoliadau 14 a 15.

14.  Yn Rhan I o Atodlen 2 (dulliau dadansoddi) ym mharagraff 3(e)(ii) yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003”.

15.  Yn Rhan II o Atodlen 3 (ffurflen tystysgrif dadansoddiad) yn nodyn (11)(a) yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003”.

Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999

16.  Caiff Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999(12) eu diwygio i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â rheoliadau 17 i 20.

17.  Yn rheoliad 7 (addasu Deddf Amaethyddiaeth 1970 at ddibenion penodol) —

(a)yn lle paragraff (2) caiff y paragraff canlynol ei roi —

(2) The purpose referred to in paragraph (1) is the enforcement and administration of —

(a)the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003, as read with Part IV of the Act; and

(b)sections 73 and 73A of the Act.; a

(b)yn lle paragraff (4) caiff y paragraff canlynol ei roi —

(4) The purpose referred to in paragraph (3) is the enforcement and administration of —

(a)the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003, as read with Part IV of the Act; and

(b)sections 73 and 73A of the Act..

18.  Ym mhob un o reoliadau 11, 11A ac 11B yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003”.

19.  Yn y fersiwn a addaswyd o is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir yn rheoliad 9 yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendmwnt (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003”.

20.  Yn rheoliad 10 (addasu adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) yn lle'r fersiwn a addaswyd o is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir yn y rheoliad hwnnw caiff yr -is-adran ganlynol ei rhoi

(17) In this section —

“compound feeding stuff” has the meaning given in regulation 2(1) of the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003;

“controlled product” means any feeding stuff, substance or product which is subject to any of the controls contained in the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003, as read with this Part of this Act, or in sections 73 or 73A of this Act;

“feeding stuff which is intended for a particular nutritional purpose” shall be construed in accordance with the definitions of “feeding stuff intended for a particular nutritional purpose” and “particular nutritional purpose” in regulation 2(1) of the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003;

“premises” include any land, vehicle, vessel, aircraft or hovercraft; and

“put into circulation” means sell or otherwise supply, or have in possession with a view to selling or otherwise supplying..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003

Rheoliad 9

ATODLENRHESTR O REOLIADAU'R GYMUNED EWROPEAIDD A RODDIR YN LLE'R RHESTR O REOLIADAU'R GYMUNED EWROPEAIDD A NODIR YN BENODOL YN RHAN IX O'R TABL YN ATODLEN 3 I REOLIADAU PORTHIANT (CYMRU) 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio mewn perthynas â Chymru'n unig Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343, fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'i diwygiwyd eisoes).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith —

(a)Cyfarwyddeb 2002/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar gylchredeg porthiant cyfansawdd ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 91/357/EEC (OJ Rhif L63, 6.3.2002, t.23); a

(b)Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwydydd anifeiliaid (OJ Rhif L140, 30.5.2002, t.10).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau canlynol y Gymuned —

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 261/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffyrdd newydd o ddefnyddio ychwanegion mewn porthiant (OJ Rhif L37, 13.2.2003, t.12);

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant ac awdurdodi dros dro ychwanegyn a awdurdodwyd eisoes mewn porthiant (OJ Rhif L46, 20.2.2003, t.15);

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 666/2003 sy'n awdurdodi dros dro ddefnyddio rhai micro-organeddau mewn porthiant (OJ Rhif . L96, 12.4.2003, t.11); a

(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif L96, 12.4.2003, t.14).

4.  Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”)—

(i)yn rheoliad 2(1) (dehongli), drwy ddileu'r diffiniadau o'r termau “rhestr genedlaethol” a “trydedd wlad” ac unrhyw ddiffiniadau'n dechrau ag ymadroddion penodol, addasu'r diffiniadau o'r termau “porthiant cydategol”, “porthiant cyflawn”, “deunydd porthiant”, “porthiant” a “rhoi mewn cylchrediad”, rhoi diffiniad newydd o'r term “porthiant cyfansawdd” ac ychwanegu diffiniadau newydd ar gyfer y termau “cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid” a “sylweddau annymunol” (rheoliad 3(a)),

(ii)drwy roi yn ei le fersiwn wedi'i diwygio o reoliad 2(8) (sy'n rhagnodi sut y mae cyfeiriadau yn Rheoliadau 2001 at offerynnau'r Gymuned i'w dehongli) (rheoliad 3(b)),

(iii)drwy wneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1), 24(1) a 24(2) (rheoliadau 4, 7ac 8),

(iv)rhoi yn lle rheoliad 12 (rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys sylweddau annymunol), reoliad newydd wedi'i ailenwi—

(aa)sy'n hepgor y darpariaethau a gaiff eu cynnwys yn y rheoliad blaenorol a oedd yn rheoli rhoi deunyddiau porthiant sy'n cynnwys sylweddau annymunol dros ben y lefelau a ragnodwyd, a'i gwnâi'n ofynnol i'r sawl yr oedd ganddo yn ei feddiant, wrth gynnal busnes, gynnyrch nad oedd yn cydymffurfio, hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdodau gorfodi o'r ffaith honno, ac a ddiffiniai ddeunydd porthiant at ddibenion rheoliad 12, a

(bb)sy'n ailddeddfu gweddill ddarpariaethau y rheoliad 12 blaenorol gydag addasiadau, yn arbennig trwy roi yn lle cyfeiriadau at y termau “porthiant” a “deunydd porthiant” gyfeiriadau at y term “cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid” (rheoliad 5);

(v)mewnosod rheoliad newydd, rheoliad 17A (darparu gwybodaeth mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes), sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr bwydydd cyfansawdd ddarparu gwybodaeth benodedig yn ymwneud â'r porthiant os gofynnir iddynt wneud hynny gan y rhai y cyflenwir y bwydydd iddynt (rheoliad 6),

(vi)ychwanegu dau Reoliad y Comisiwn sy'n rheoliadau newydd at y rhestr o Reoliadau'r Comisiwn y rhoddwyd awdurdodiad i farchnata ychwanegion bwyd oddi tanynt, a hwnnw'n awdurdodiad a geir yn Rhan IX o'r Tabl i Atodlen 3 (rheoliad 9 a'r Atodlen),

(vii) yn Atodlen 4 (cynnwys y datganiad statudol neu ddatganiad arall (ac eithrio ar gyfer ychwanegion a rhag-gymysgeddau na chânt eu cynnwys mewn porthiant)) addasu'r materion sy'n ymwneud â phorthiant cyfansawdd y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y datganiad statudol a ragnodir gan reoliad 4 neu a gaiff eu datgan fel arall (rheoliad 10),

(viii) yn Atodlen 7 (terfynau a ragnodwyd ar gyfer sylweddau annymunol), addasu'r penawdau i golofn 1 a cholofn 2 o Ran I (porthiant) a dileu Rhan II (deunydd porthiant) (rheoliad 11), a

(ix) dileu Rhan II o Atodlen 10 (sy'n cynnwys enwau'r categorïau o ddeunyddiau porthiant i'w defnyddio mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes) a ganiatâi, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ddatgelu'r porthiant cyfansawdd hwnnw yn y datganiad a ragnodir gan reoliad 4 (rheoliad 12); a

(b)gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (rheoliadau 13 i 20).

5.  Paratowyd asesiad effaith rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi yn nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/2/EC a 2002/32/EC yn cael eu trosi'n gyfraith ddomestig trwy gyfrwng y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau o Uned Bwydydd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1af, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN.

(1)

1970 p.40. Mae Adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd y diffiniad o “the Ministers” gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd Swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672.

(4)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o Reoliad (EC) 178/2002 mae “food law” yn ymestyn i fwydydd a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a roddir yn fwyd iddynt.

(13)

1998 p.38.

(14)

OJ Rhif L289, 28.10.98, t.4.

(15)

OJ Rhif L188, 21.7.1999, t.35.

(16)

OJ Rhif L297, 18.11.1999, t.8. Yn lle'r Atodiad i'r Rheoliad hwn rhoddwyd bellach yr Atodiad i Reoliad (EC) Rhif 739/2000 (OJ Rhif L87, 8.4.2000, t.14).

(17)

OJ Rhif L155, 28.6.2000, t.15.

(18)

OJ Rhif L280, 4.11.2000, t.28.

(19)

OJ Rhif L272, 13.10.2001, t.24.

(20)

OJ Rhif L299, 15.11.2001, t.1.

(21)

OJ Rhif L41, 13.2.2002, t.6.

(22)

OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.10.

(23)

OJ Rhif L284, 22.10.2002, t.7.

(24)

OJ Rhif L333, 10.12.2002, t.5.

(25)

OJ Rhif L37, 13.2.2003, t.12.

(26)

OJ Rhif L46, 20.2.2003, t.15.

(27)

OJ Rhif L96, 12.4.2003, t.11.

(28)

OJ Rhif L96, 12.4.2003, t.14.