Search Legislation

Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliad 4(7)

ATODLEN 5AMCANION ANSAWDD DATA A LLUNIO CANLYNIADAU ASESIADAU ANSAWDD AER

RHAN IAmcanion ansawdd data

Mae'r amcanion ansawdd data canlynol ar gyfer yr ansicrwydd sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd;

Ar gyfer osôn, NO ac NO2

Rhaid cloriannu ansicrwydd y dulliau mesur (ar gyfwng hyder o 95%) yn unol â'r egwyddorion sydd wedi'u nodi yn “Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements” (ISO 1993) neu'r fethodoleg yn ISO 5725-1 “Accuracy (trueness and precision) of measurement methods and results” (ISO 1994)(1) neu safon gyfatebol. Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol, wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor, ar gyfer cyfwng hyder o 95%. Dylai'r ansicrwydd ar gyfer mesuriadau sefydlog parhaus gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy o gwmpas y crynodiad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y trothwy priodol.

Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r trothwy priodol, heb gymryd amseriad digwyddiadau i ystyriaeth.

Ystyr “ystod amser” yw canran yr amser y dylid ei ystyried wrth fesur y llygryn ar gyfer pennu'r gwerth trothwy.

Ystyr “cofnodi data” yw'r gymhareb o'r amser y mae'r offeryn yn cynhyrchu data dilys ar ei gyfer, i'r amser y mae'r paramedr ystadegol neu'r gwerth agregedig i'w gyfrifo ar ei gyfer.

Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau ystod amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu yn rheolaidd neu eu cynnal a'u cadw fel rhan o'r drefn.

Mesuriadau sefydlog parhaus
Ansicrwydd mesuriadau unigol15%
Isafswm ar gyfer cofnodi data

90% yn ystod yr haf

75% yn ystod y gaeaf

Mesur dangosol
Ansicrwydd mesuriadau unigol30%
Isafswm ar gyfer cofnodi data90%
Isafswm ystod amser>10% yn ystod yr haf
Modelu
Ansicrwydd
Cyfartaleddau 1 awr (yn ystod y dydd)50%
Uchafswm dyddiol 8 awr50%
Amcangyfrif gwrthrychol
Ansicrwydd75%

RHAN IICanlyniadau asesu ansawdd aer

Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau neu grynoadau y defnyddir ffynonellau heblaw mesuriadau ynddynt i ychwanegu at gwybodaeth o fesuriadau;

  • disgrifiad o'r gweithgareddau asesu a wnaed;

  • y dulliau penodol a ddefnyddiwyd, gan gyfeirio at ddisgrifiadau o'r dull;

  • y ffynonellau data a gwybodaeth;

  • disgrifiad o'r canlyniadau, gan gynnwys ansicrwydd ac, yn benodol, hyd a lled unrhyw ardal yn y parth neu'r crynhoad lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r amcanion hirdymor neu'r gwerthoedd terfyn;

  • ar gyfer amcanion hirdymor neu werthoedd targed sy'n anelu at ddiogelu iechyd pobl, y boblogaeth a allai gael ei datguddio i grynodiadau sy'n uwch na'r trothwy.

  • Lle bo hynny'n bosibl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod mapiau yn cael eu llunio sy'n ddangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth a chrynhoad.

(1)

Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth adran werthiannau Sefydliad Safonau Prydain naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain, W4 4AL.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources